Neidio i'r prif gynnwys

Assiratti â ffydd yn y blaenwyr i serennu dros Gymru

Assiratti â ffydd yn y blaenwyr i serennu dros Gymru

Mae Keiron Assiratti wedi galw ar aelodau pac Tîm Dan 20 Cymru i ddangos eu cryfder unwaith yn rhagor wrth i’r tîm geisio sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd.

Rhannu:

Assiratti oedd un o’n chwaraewyr gorau yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Tbilisi ddydd Sul, pan gollodd tîm Jason Strange am yr ail waith yn y gystadleuaeth.

Arweiniodd prop Gleision Caerdydd yr ymdrech i daro’n ôl pan oedd y tîm 21-3 ar ei hôl hi, drwy sgorio cais cyntaf Cymru a chwarae ei ran yn y sgrym gryfaf drwy gydol y gêm, a lwyddodd i ennill cais cosb yn y pen draw.
 
Roedd Assiratti yn siomedig bod Cymru wedi colli unwaith yn rhagor, ar ôl y golled yn y gêm agoriadol yn erbyn Awstralia, ond mae wedi galw ar y pac i roi perfformiad tebyg unwaith eto yn erbyn Samoa ddydd Iau (am 10am Amser Haf Prydain).
 
Meddai: “R’yn ni’n gwybod y bydd gan Samoa bac mawr corfforol ac olwyr tebyg hefyd. Mae angen i ni sicrhau bod awch yn ein chwarae a’n bod yn barod i fynd amdani unwaith eto ymhen pedwar diwrnod. Mae angen i ni barhau i weithio’n galed a mynd am y fuddugoliaeth.

“Roedd ein perfformiad yn dda ar adegau yn erbyn Lloegr, ac roedd y sgrym yn rhagorol. Ni oedd gryfaf yn y safleoedd gosod, felly r’yn ni’n hapus fel pac. Mae’n rhaid i ni gredu yn y broses unwaith eto a chwarae yn yr un modd yn erbyn Samoa.”

Ar un adeg yn ystod y gêm, llwyddodd Tîm Dan 20 Cymru i frwydro’n ôl i fod o fewn cais a throsiad i’r hen elyn, pan oedd y sgôr yn 24-17, a llwyddodd y Cymry i roi pwysau cyson ar y gwrthwynebwyr. 

Daeth trobwynt y gêm pan gollwyd y meddiant a phan redodd y Saeson hyd y cae, bron iawn, a sgorio cais i dorri calonnau’r Cymry.
 
Mae Assiratti yn cyfaddef nad oedd y sgôr efallai’n adlewyrchiad teg o’r gêm, ond roedd hefyd yn ymwybodol iawn bod yn rhaid i chwaraewyr Cymru orffen canran uwch o’r cyfleoedd y maent yn eu creu.

Ychwanegodd: “Roedd y sgôr yn y pen draw yn awgrymu’n anghywir bod tipyn o wahaniaeth rhwng perfformiadau’r ddau dîm. Ro’n i’n teimlo ein bod ni wedi llwyddo i dorri drwy’r llinell yn hyfryd weithiau, ond nad oedden ni’n gallu manteisio ar hynny oherwydd nad oedd y pas olaf yn mynd i’r dwylo bob tro.
 
“Mae angen i ni weithio ar ein pas olaf. Pe baem wedi bod yn llwyddiannus o ran hynny, bydden ni wedi ennill yn erbyn Lloegr. Mae gennym bedwar diwrnod yn awr i weithio ar y cae ymarfer er mwyn gwella’r agwedd honno.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert