Neidio i'r prif gynnwys

Lewis-Hughes yn disgwyl i’r Alban fod ar dân

Lewis-Hughes yn disgwyl i’r Alban fod ar dân

Mae Shane Lewis-Hughes wedi galw ar Gymru i chwalu cryfder blaenwyr yr Alban, wrth i’r chwaraewyr anelu at gyrraedd y pumed safle ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn Tbilisi.

Rhannu:

Roedd Lewis-Hughes, sy’n chwarae yn y rheng ôl, yn un o’r sêr yn y fuddugoliaeth yn erbyn Samoa yr wythnos diwethaf gyda sgôr o 54-20. Llwyddodd i sgorio dau gais, a chafodd ganmoliaeth arbennig gan y prif hyfforddwr, Jason Strange.
 
Bydd tîm ifanc Strange yn wynebu’r Alban yng ngemau ail gyfle’r haen ganol yfory (am 3pm Amser Haf Prydain) ac mae Cymru wedi curo’r tîm hwnnw ddwywaith yn barod yn 2017.
 
Ond mae Lewis-Hughes yn mynnu na allant gymryd unrhyw beth yn ganiataol yn erbyn yr Albanwyr, ac mae’n disgwyl brwydr ffyrnig rhwng y blaenwyr yn Stadiwm Avchala.
 
Meddai: “Rydym yn trin pob gêm fel gêm derfynol yn awr. Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau, oherwydd mae gan yr Albanwyr gryfderau gwirioneddol, yn enwedig yn eu chwarae gosod.
 
“Mae ganddyn nhw lein dda, sgrym dderbyniol a blaenwyr trwm mewn pac cryf, ond mae safon eu holwyr wedi bod yn foddhaol hefyd ac mae’r tîm wedi gwella wrth i’r twrnamaint fynd yn ei flaen. Ond allwn ni ddim poeni am hynny, oherwydd mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain.”
 
Bydd perfformiad pac Cymru hyd yn hyn yn Georgia yn gysur mawr i Lewis-Hughes hefyd.
 
Roedd Tîm Dan 20 Cymru yn drech na Lloegr a Samoa yn y chwarae gosod, ac achosodd sgrym ymosodol y blaenwyr broblemau mawr i’w gwrthwynebwyr.
 
“Os gallwn ni chwalu cryfder y blaenwyr a glynu wrth ein cynllun ni ar gyfer y gêm byddwn yn iawn, gobeithio, a gallwn sicrhau’r fuddugoliaeth.
 
“Mae’r llwyfan y mae’r blaenwyr wedi’i roi i ni mor belled wedi bod yn foddhaol tu hwnt, yn enwedig yn y chwarae gosod lle mae chwaraewyr megis Keiron Assiratti a Rhys Carre wedi bod yn arbennig o amlwg. Mae hynny wedi rhoi boddhad i ni ac yn rhywbeth a ddylai roi hwb i’n hyder.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert