Neidio i'r prif gynnwys

Partneriaeth rhwng yr Urdd a URC yn dwyn ffrwyth

Partneriaeth rhwng yr Urdd a URC yn dwyn ffrwyth

Mae’r bartneriaeth newydd rhwng yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi dwyn ffrwyth wrth i nifer o gyfranogwyr gynyddu 50%.

Rhannu:

Gwelwyd twf aruthrol yn nifer y disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd gymerodd rhan yng nghystadlaethau rygbi amgen a gwyliau rygbi a drefnwyd ar y cyd rhwng yr Urdd a URC, o tua 7340 y llynedd i 11042 eleni.

Heddiw (ddydd Gwener) fe fydd g?yl Rygbi Traeth yma Mae Colwyn yn cloi cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau rygbi rhanbarthol a chenedlaethol saith bob ochr, rygbi tag a thraeth ers cynnal y gystadleuaeth saith bob ochr cyntaf yr Urdd a URC ym Mhencoed ym mis Ebrill, pan ddaeth dros 3000 o ferched a bechgyn at ei gilydd i gystadlu.

Gwelwyd cynnydd ym mhob maes, gyda’r cynnydd mwyaf i’w weld yn y nifer ddaeth i’r digwyddiad ym Mhencoed ac yn y cystadlaethau rygbi tag ar gyfer ysgolion cynradd.

Meddai pennaeth Cyfranogiad Rygbi URC Ryan Jones: “Mae rhaglenni’r Urdd a URC yn cyrraedd y nod o weld Mwy o Bobol yn Fwy Aml ac o weld Mwy o Fwynhad a Mwy o Lwyddiant. Gan ddefnyddio format gwahanol ar gyfer merched a bechgyn o wahanol alluoedd yr ydym wedi llwyddo i sicrhau bod y gêm yn cael ei chwarae mewn amgylchiadau  llawn hwyl a deniadol.

“Mae gweithio gyda’r Urdd mewn ysgolion ar draws Cymru yn golygu ein bod ni yn llwyddo i hyrwyddo dwy o’r elfennau pwysicaf ym mywyd diwylliannol Cymru, sef yr iaith Gymraeg a rygbi ymhlith y genhedlaeth nesaf. Mae’r cynllun Rygbi Traeth yn y gogledd yn dangos bod modd ymestyn apêl y gamp tuag at blant sydd ddim, fel arfer, yn cael cyfle i chwarae rygbi yn yr ysgol.

Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, “ Mae’r cynnydd mewn cystadleuwyr a nifer y digwyddiadau eleni yn galonogol iawn ac rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru. Fel mudiad mae cynnig gweithgareddau o bob math drwy’r Gymraeg yn flaenoriaeth i ni ac mae’n wych gallu cynnig cystadlaethau newydd megis y rygbi traeth mewn lleoliadau arbennig ar arfordir Cymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ehangu’r bartneriaeth i’r dyfodol gan gynnig hyd yn oed fwy o gyfleodd i aelodau’r Urdd yn 2018.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert