Neidio i'r prif gynnwys

Cymru yn cyhoeddi ei charfan ar gyfer y Gyfres Under Armour

Cymru yn cyhoeddi ei charfan ar gyfer y Gyfres Under Armour

Mae Cymru wedi enwi carfan 36 dyn ar gyfer Cyfres Under Armour 2017, sy’n cynnwys pump o chwaraewyr heb gap.

Rhannu:

Mae Leon Brown ac Elliot Dee – ill dau o’r Dreigiau, Sam Cross – blaenasgellwr y Gweilch ac enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd, a’r ddau ganolwr Owen Watkin (o’r Gweilch) a Hadleigh Parkes (o’r Scarlets) i gyd yn y garfan.

Dan arweiniad y capten Alun Wyn Jones, bydd y garfan yn wynebu pedair gêm brawf sy’n dilyn ei gilydd yr hydref hwn yn Stadiwm Principality, gan ddechrau yn erbyn Awstralia ar 11 Tachwedd.

Gyda dwy flynedd i fynd nes Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019 a chyda’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth honno wedi hen ddechrau, mae’r garfan hefyd yn cynnwys chwech arall a chwaraeodd eu gêm gyntaf dros Gymru yn ystod yr haf, yn y buddugoliaethau dros Tonga a Samoa (Wyn Jones, Seb Davies, Adam Beard, Aled Davies, Owen Williams a Steffan Evans).

Mae naw o garfan y Llewod yn 2017 (Ken Owens, Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Taulupe Faletau, Rhys Webb, Dan Biggar, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny a Liam Williams) wedi’u cynnwys yn y garfan ar gyfer y gyfres lle bydd Cymru yn herio Georgia, Seland Newydd sy’n Bencampwyr y Byd a De Affrica ar dri dydd Sadwrn o’r bron, yn dilyn gêm agoriadol y gyfres yn erbyn Awstralia.

“Rwy’n gyffrous iawn ynghylch y garfan hon wrth i ni ddechrau ar ddwy flynedd o baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Mae’r gyfres hon yn gyfle i ni sicrhau bod rhai chwaraewyr yn cael profiad o chwarae mewn gemau prawf, ac yn gyfle i ni barhau i adeiladu ein gêm wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod ymhen dwy flynedd.”

CARFAN CYMRU AR GYFER CYFRES UNDER ARMOUR 2017
Blaenwyr (20):
Rob Evans (Scarlets) (17 cap)
Wyn Jones (Scarlets) (2 gap)
Nicky Smith (Gweilch) (14 cap)
Leon Brown (Dreigiau) (Heb gap)
Tomas Francis (Caerwysg) (23 chap)
Samson Lee (Scarlets) (34 cap)
Kristian Dacey (Gleision Caerdydd) (4 cap)
Elliot Dee (Dreigiau) (Heb gap)
Ken Owens (Scarlets) (50 cap)
Jake Ball (Scarlets) (26 chap)
Adam Beard (Gweilch) (1 cap)
Seb Davies (Gleision Caerdydd) (2 gap)
Cory Hill (Dreigiau) (6 chap)
Alun Wyn Jones (Gweilch) (Capten) (110 cap)
Sam Cross (Gweilch) (Heb gap)
Taulupe Faletau (Caerfaddon) (66 chap)
Dan Lydiate (Gweilch) (60 cap)
Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (3 chap)
Aaron Shingler (Scarlets) (10 cap)
Justin Tipuric (Gweilch) (51 cap)
 
Olwyr (16):
Aled Davies (Scarlets) (2 gap)
Gareth Davies (Scarlets) (25 cap)
Rhys Webb (Gweilch) (28 cap)
Dan Biggar (Gweilch) (56 chap)
Rhys Patchell (Scarlets) (4 cap)
Rhys Priestland (Caerfaddon) (48 cap)
Owen Williams (Caerloyw) (1 cap)
Jonathan Davies (Scarlets) (64 cap)
Tyler Morgan (Dreigiau) (4 cap)
Hadleigh Parkes (Scarlets) (Heb gap)*
Owen Watkin (Gweilch) (Heb gap)
Hallam Amos (Dreigiau) (11 cap)
Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd) (46 chap)
Steffan Evans (Scarlets) (2 gap)
Leigh Halfpenny (Scarlets) (71 cap)
Liam Williams (Saraseniaid) (43 chap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert