Neidio i'r prif gynnwys

Cymru yn enwi’r tîm a fydd yn herio Awstralia

Cymru yn enwi’r tîm a fydd yn herio Awstralia

Y capten Alun Wyn Jones fydd yn arwain chwaraewyr Cymru yn eu gêm agoriadol yn erbyn Awstralia yng Nghyfres Under Armour 2017 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 11 Tachwedd (bydd y gic gyntaf am 5.15pm).

Rhannu:

Mae Jones yn un o saith o garfan y Llewod a fydd ymhlith y pymtheg a fydd yn dechrau yn yr ornest yn erbyn y Walabïaid, ochr yn ochr â Ken Owens, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Jonathan Davies, Liam Williams a Leigh Halfpenny.

Bydd tri aelod o’r tîm yn chwarae yn eu gêm ryngwladol gyntaf gartref yn Stadiwm Principality, sef yr olwyr Owen Williams a Steff Evans a’r blaenasgellwr Josh Navidi.

Mae Evans, a sgoriodd ddau gais dros Gymru yn ei gêm ryngwladol ddiwethaf yn erbyn Samoa, yn un o’r tri ôl ochr yn ochr â Williams a’r cefnwr Halfpenny.

Mae tri chwaraewr heb gap wedi’u henwi ymhlith yr eilyddion: prop y Dreigiau Leon Brown a dau o’r Gweilch, sef Sam Cross ac Owen Watkin. Kristian Dacey a Nicky Smith fydd yn eilyddion ar gyfer y rheng flaen ochr yn ochr â Brown, a Cory Hill yw’r blaenwr arall.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sadwrn ac at ddechrau’r Gyfres Under Armour,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

“Rydw i wrth fy modd bod Steff Evans, Owen Williams a Josh Navidi wedi cael cyfle i chwarae eu gêm ryngwladol gyntaf gartref. Bydd yr awyrgylch yn fendigedig ac mae’n gyfle gwych iddynt.

“Bydd yn gêm gyntaf anodd – rydym yn gwybod hynny ac mae angen i ni ymroi o’r cychwyn cynta’. Mae gennym garfan o chwaraewyr talentog tu hwnt sy’n chwarae’n dda, ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth y gallant ei gyflawni.”
 
T?M CYMRU YN ERBYN AWSTRALIA (Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, y gic gyntaf am 5.15pm)
15. Leigh Halfpenny (Scarlets) (71 cap)
14. Liam Williams (Saraseniaid) (43 chap)
13. Jonathan Davies (Scarlets) (64 cap)
12. Owen Williams (Caerloyw) (1 cap)
11. Steff Evans (Scarlets) (2 gap)
10. Dan Biggar (Gweilch) (56 chap)
9. Gareth Davies (Scarlets) (26 chap)
1. Rob Evans (Scarlets) (17 cap)
2. Ken Owens (Scarlets) (50 cap)
3. Tomas Francis (Caerwysg) (23 chap)
4. Jake Ball (Scarlets) (26 chap)
5. Alun Wyn Jones (Capten) (Gweilch) (110 cap)
6. Aaron Shingler (Scarlets) (10 cap)
7. Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (3 chap)
8. Taulupe Faletau (Caerfaddon) (66 chap)
 
EILYDDION:
16. Kristian Dacey (Gleision Caerdydd) (4 cap)
17. Nicky Smith (Gweilch) (14 cap)
18. Leon Brown (Dreigiau) (*Heb gap)
19. Cory Hill (Dreigiau) (6 chap)
20. Sam Cross (Gweilch) (*Heb gap)
21. Aled Davies (Scarlets) (2 gap)
22. Owen Watkin (Gweilch) (*Heb gap)
23. Hallam Amos (Dreigiau) (11 cap)
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert