Neidio i'r prif gynnwys

Lydiate yn gapten ar dîm Cymru

Lydiate yn gapten ar dîm Cymru

Bydd Dan Lydiate yn gapten ar dîm Cymru am y trydydd tro pan fydd yn arwain ei wlad yng ngornest gyntaf Cymru yn erbyn Georgia yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 18 Tachwedd (bydd y gic gyntaf am 2.30pm).

Rhannu:

Mae Lydiate yn un o 14 newid i’r tîm a wynebodd Awstralia y penwythnos diwethaf, a dim ond Liam Williams sy’n cadw ei le yn y tîm yn dilyn y gêm gyntaf yn y Gyfres Under Armour. Bydd Williams yn symud i safle’r cefnwr ac yn chwarae ochr yn ochr ag Alex Cuthbert a Hallam Amos wrth i’r tri ôl gael eu hailwampio’n llwyr.

“Roeddem yn teimlo yr wythnos hon ei bod yn bwysig iawn i ni roi cyfle i nifer dda o’r garfan gael cymaint ag sy’n bosibl o brofiad o chwarae mewn gêm brawf,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Mae’n gyfle cyffrous i rai o’r bechgyn iau gamu i’r cae a dangos eu doniau. Mae gennym dipyn o brofiad i’w daflu i’r pair hefyd, o ran chwaraewyr sydd â nifer dda o gapiau ac o ran chwaraewyr sydd wedi bod yn rhan o’r amgylchedd hwn ers peth amser.”

“Mae Georgia yn dod i Gaerdydd yn dilyn buddugoliaeth dda y penwythnos diwethaf. Byddant yn awyddus i ddangos beth y gallant ei wneud ar y llwyfan hwn ac mae’n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny.”
 
T?M CYMRU YN ERBYN GEORGIA (Dydd Sadwrn 18 Tachwedd, y gic gyntaf am 2.30pm)
15. Liam Williams (Saraseniaid) (44 cap)
14. Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd) (46 chap)
13. Scott Williams (Scarlets) (48 cap)
12. Owen Watkin (Gweilch) (1 cap)
11. Hallam Amos (Dreigiau) (12 cap)
10. Rhys Priestland (Caerfaddon) (48 cap)
9. Rhys Webb (Gweilch) (28 cap)
1. Nicky Smith (Gweilch) (15 cap)
2. Kristian Dacey (Gleision Caerdydd) (5 cap)
3. Leon Brown (Dreigiau) (1 cap)
4. Adam Beard (Gweilch) (1 cap)
5. Cory Hill (Dreigiau) (7 cap)
6. Dan Lydiate (Capten) (Gweilch) (60 cap)
7. Sam Cross (Gweilch) (1 cap)
8. Seb Davies (Gleision Caerdydd) (2 gap)
 
EILYDDION:
16. Elliot Dee (Dreigiau) (*Heb gap)
17. Wyn Jones (Scarlets) (2 gap)
18. Tomas Francis (Caerwysg) (24 cap)
19. Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (4 cap)
20. Taulupe Faletau (Caerfaddon) (67 cap)
21. Aled Davies (Scarlets) (3 chap)
22. Dan Biggar (Gweilch) (57 cap)
23. Owen Williams (Caerloyw) (2 gap)
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert