Neidio i'r prif gynnwys

Abertawe yn cipio’r bencampwriaeth mewn steil

Abertawe yn cipio’r bencampwriaeth mewn steil

Buan y gwelodd criw Caernarfon, a oedd heb nifer sylweddol o’i chwaraewyr arferol y byddai ffrwyno rhyw gymaint ar ddawn ymosodol yr ymwelwyr yn dalcen caled.

Rhannu:

Er brwydro yn ddygn, Abertawe oedd y meistri a thryw’r fuddugoliaeth o 53 pwynt i 0, nhw yn sicr fydd yn cipio pencampwriaeth yr Adran Gyntaf unwaith eto.

Ymosodwyd yn feiddgar o’r eiliad cyntaf gyda Caernarfon yn falch o gyfraniad Greta Jâms a rwystrodd gais cynnar gyda thacl nerthol. Bu i’r ail reng Sarah Williams hefyd gyfrannu yn sylweddol i atal hyrddiadau cynnar y crysau gwynion. Er hyn, o gadw pêl ac amrywio canolbwynt yr ymosod, wedi wyth munud fe ganfu y ganolwraig ryngwladol Kerin Lake y bwlch anghenrheidiol i hollti’r amddiffyn a gwibio’r deugain llath anghenrheidiol i’r linell gais.

Er i Gaernarfon geisio taro nôl, ni lwyddwyd i gynhyrfu dim ar drefn amddiffynol Abertawe a phan oedd pêl yn dod i’w meddiant ‘roeddynt yn gwrthymosod gyda chyflymder gan ledaenu’r chwarae. Gwelwyd enghraifft o hyn wedi ugain munud pan i symudiad celfydd orffen gyda Natalia John yn y man ar lle i dderbyn y bas olaf cyn tirio dros y linell gais. Troswyd y cais gan Sasha Bailey.

Arweiniodd Brea Leung, capten y Cofis, trwy esiampl gyda Clair Wright yn addasu yn ganmoladwy ymhlith y cefnwyr. Braf hefyd oedd nodi datblygiad Catrin Williams fel aelod gweithgar o’r pac gyda Elin Royle yn nodweddiadol brysur fel arfer.

Ar y llaw arall cafwyd perfformiad canmoladwy iawn gan Siwan Lillicrap, ac er na chroesodd y linell ei hun, hi roddodd gais ar blât i’r prop Bethan Rickard a wnaeth yn wych i gyrraedd i gefnogi wedi hanner awr. Ceisiodd Beth Davies cefnwraig y Cofis i amrywio’r chwarae gan ddefnyddio y gic fychan dros yr amddiffyn yn effeithiol ond llwyddodd cefnwyr cyflym Abertawe i ddod i’r adwy bob tro.

Yna pan oedd y dyfarnwr yn ystyried galw am hanner amser fe ganfu Kerin Lake fwlch arall a gyda chyflymder trawiadol fe adawodd yr amddiffynwyr yn sefyll i redeg mewn o bellter gan roi trosiad arall cymharol rwydd i Sasha Bailey.

Gyda’r llethr o blaid Abertawe yn yr ail hanner ‘roedd disgwyl i’r dasg fod yn anodd i’r Cofis ac yn wir felly y bu, gan i Sasha Bailey, a gafodd gêm i’w chanmol yn fawr, sgorio o fewn y funud gyntaf drwy dderbyn pas a defnyddio ei chyflymder i gyrraedd y gornel.

Draenen arall yn ystlys Caernarfon oedd un o’u cyn chwaraewyr, sef Cara Hope, a fu yn amlwg iawn yn y chwarae rhydd ac a groesodd y linell gais yn dilyn rhediad nerthol ond methu a thirio yn llwyddianus yng ngholwg y dyfarnwr. Yn raddol ‘roedd y pwysau yn dweud ar y Cofis, ac wedi gwaith da gan Lillicrap eto i ddod a’i phac o fewn modfeddi, daeth Hannah Jones i’r adwy i gasglu ac ymestyn dros y linell gais. Hope a Lake gyfunodd wedyn i ryddhau Lowri Norkett a chaniatau iddi hithau gyrraedd y gornel o ugain metr.

Yn anffodus wedyn i’r Cofis daeth cais yn syth o’r ail ddechrau gyda Natalia John yn derbyn pas a rhyddhau ei hun o afael sawl chwaraewr a charlamu i’r linell gais. Yna wrth i flinder amlwg lethu sawl un, gwelwyd Robyn Lock hefyd yn torri’n glir o bellter a llwyddo i dirio dan y trawst. Gorchwyl olaf y gêm oedd ymdrech at drosiad arall gan Sasha Bailey, ac fe fu yn llwyddianus, fel yn wir y bu ychydig yng nghynt yn dilyn cais Natalia John.

Llongyfarchiadau mawr i’r crysau gwynion ar eu llwyddiant dros y tymor wrth chwarae rygbi deniadol, sy’n esiampl i eraill geisio ei efelychu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert