Neidio i'r prif gynnwys

Gwerth £100,000 o gyllid yn dod â chae newydd a llifoleuadau i Nant Conwy

Gwerth £100,000 o gyllid yn dod â chae newydd a llifoleuadau i Nant Conwy

Mae Clwb Rygbi Nant Conwy wedi bod yn llwyddiannus drwy sicrhau pecyn ariannol o dros £100,000 i dalu am drydydd cae rygbi newydd gyda llif oleuadau ym Mhant Carw, Trefriw.

Rhannu:

Bydd y prosiect cyffrous hwn yn rhoi adnodd cymunedol newydd sbon yng nghanol Dyffryn Conwy. 
 
Eglurodd Robin Williams,Cadeirydd Nant Conwy “Rydym yn hynod falch o sicrhau cefnogaeth grantiau gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Datblygu Wledig yr UE, Undeb Rygbi Cymru, Chwaraeon Cymru, innogy Renewables UK a Dwr Cymru. Mae’r prosiect i greu trydydd cae gyda llif oleuadau wedi bod yn un uchelgeisiol iawn i’r clwb, ac wedi dod i’r amlwg oherwydd y nifer cynyddol o hogiau a genod ifanc sydd eisiau chwarae rygbi”.

Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith tirlunio yn ystod misoedd yr haf, gyda gwaith peirianyddol, draenio, darparu’r pridd ac wyneb y tir i gyd wedi eu cwblhau i safonau URC / IRB.  Mae llif oleuadau LED newydd ac effeithlon wedi cael eu gosod er mwyn galluogi’r 18 tîm i hyfforddi ac ymarfer trwy gydol misoedd tywyll y gaeaf.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cyllidwyr sydd wedi ein galluogi i wireddu’r prosiect yma, heb eu cymorth ariannol, ni fyddem wedi gallu gwneud dim” meddai Robin.
 
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig; Grant Adnoddau Undeb Rygbi Cymru; Arian y Loteri Genedlaethol a ddosbarthir trwy Grant Datblygu Chwaraeon Cymru; innogy Renewables UK – Cronfa Gymunedol Hydro Dolgarrog; Dwr Cymru – Cronfa Gymunedol.

“Bydd y cae rygbi newydd yn rhoi adnodd sydd wir ei angen arnom yn sgil y niferoedd cynyddol sy’n hyfforddi ac yn chwarae gemau.  Mae’n adlewyrchu gwaith y gwirfoddolwyr sy’n hyfforddwyr, rheolwyr a phersonél cefnogol, bod y clwb yn parhau i dyfu o nerth i nerth.  Mae gennym dros 225 yn yr adran iau, dros 100 yn yr adran ieuenctid ac adran merched sy’n ffynnu gyda dros 100 o aelodau” meddai Robin.

“Mi fydd y llif oleuadau LED newydd yn galluogi i’n timau ni hyfforddi dros misoedd y gaeaf ac yn si?r o helpu’r clwb barhau yn y llwyddiant a gafwyd y tymor diwethaf” ychwanegodd. 
 
Mae rhai o lwyddiannau diweddar y clwb yn cynnwys y merched yn ennill Pencampwriaeth Cymru o dan 18, merched o dan 15 yn cael eu coroni yn Bencampwyr Gogledd Cymru, bechgyn o dan 16 yn ennill Pencampwriaeth RGC, dan 13 yn ennill Pencampwriaeth Ewro ym Mharis, yr ail dîm yn ennill y 3edd Adran yng Ngogledd Cymru, a llwyddiant anhygoel y tîm cyntaf yn chwarae yng nghystadleuaeth Plât SWALEC/ URC yn Stadiwm y Principality, Caerdydd yn gynharach eleni.
 
Dywedodd Carla Williams, chwaraewraig o dan 12 a Ceirw Nant “Mae gan Glwb Rygbi Nant Conwy adran gref o ran ieuenctid a merched.  Rwy’n hynod lwcus ac yn falch i chwarae i’r clwb gartre a ledled Gogledd Cymru.  Bydd y cae newydd yn golygu ein bod yn gallu parhau i ddenu mwy o ieuenctid a merched i’r rygbi”. 
 
Dywedodd Julie Paterson, Pennaeth Gweithrediadau Rygbi, “Mae Clwb Rygbi Nant Conwy yn sicr yn glwb sydd â chefnogaeth gref, ac yn hynod arloesol a chynhwysol.  Mae prosiect o’r maint yma,  fydd yn gwella profiad pawb yn y clwb, yn dangos be ellir ei gyflawni gyda gr?p o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed ac ar y cyd gyda phartneriaid allanol.  Maent yn parhau i ledaenu diddordeb yn y clwb, gan hyrwyddo ei statws fel canolbwynt cymdeithasol ac emosiynol yr holl ardal”.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert