Neidio i'r prif gynnwys

Buddugoliaeth dros y Cwins yn rhoi cyfle i Lanelli yn ôl Fisher

Paul Fisher

Mae Paul Fisher, hyfforddwr Llanelli, yn gobeithio am adfywiad diwedd tymorweekend

Mae Paul Fisher, prif hyfforddwr Llanelli, o’r farn y gallai buddugoliaeth ei chwaraewyr dros Gwins Caerfyrddin sbarduno newid o bwys yn nhynged ei dîm wrth i’r frwydr i aros yn Uwch Gynghrair Principality ddwysáu dros ychydig fisoedd ola’r tymor.

Rhannu:

Er i chwaraewyr Llanelli gipio buddugoliaeth gyffrous yn erbyn y Cwins, sy’n golygu eu bod wedi curo’u gelynion rhanbarthol ddwywaith y tymor hwn, llwyddodd Bedwas sydd hefyd yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair i fynd ar y blaen i Lanelli gyda buddugoliaeth â phwynt bonws yn erbyn Bargoed.

Bydd gwŷr Fisher yn croesawu Bargoed y penwythnos hwn mewn brwydr fawr arall ar waelod y tabl, wrth iddynt geisio dringo allan o’r pedwar safle isaf.

“Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni drechu’r Cwins os oedden ni am gael unrhyw obaith o aros yn y gynghrair. Rydym wedi rhoi cyfle i ni ein hunain yn awr, ac mae’r gêm yn erbyn Bargoed yn hollbwysig,” meddai Fisher.

“Ar wahân i Gaerdydd rydym wedi chwarae yn erbyn y chwe thîm sydd ar frig y gynghrair, gartref ac oddi cartref, ac mae gennym saith gêm gartref yn weddill. Rwy’n gobeithio y bydd y fuddugoliaeth hon yn rhoi hyder i’r chwaraewyr ddal ati i ennill.”

Dywedodd capten Pontypridd, Dafydd Lockyer, nad yw ei chwaraewyr yn poeni am y trafod sy’n digwydd oddi ar y cae yn Heol Sardis ynghylch sefyllfa ariannol y clwb, a phwysleisiodd eu bod â’u golygon o hyd ar ennill y dwbl o bosibl, wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth dros y penwythnos o 45-0 dros Gastell-nedd sydd ar waelod y tabl.

Croesodd Alex Webber y llinell gais ddwywaith yn yr hanner cyntaf i roi mantais o 24-0 i’w dîm ar yr hanner, ac yna cymerodd y blaenwyr yr awenau wrth i Shay Smallman, Rhys Shellard a’r wythwr gwych Alun Lawrence sgorio.

Dringodd Bedwas allan o’r pedwar safle isaf a fyddai’n golygu bod y tîm yn colli ei le yn yr Uwch Gynghrair yn awtomatig, gan sgorio cyfanswm gwych o saith cais yn y fuddugoliaeth o 52-7 dros Fargoed sydd hefyd yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl bod 14 pwynt ar ei hôl hi, llwyddodd Llanymddyfri i sicrhau buddugoliaeth nodedig o 31-24 dros RGC1404 yn Stadiwm Zip World. Roedd ceisiau gan Richard Williams, Joe Powell, Richard Brooks a Kristian Jones yn ddigon i roi buddugoliaeth â phwynt bonws i dîm Euros Evans, wrth i’r maswr Jack Maynard gicio 11 pwynt.

Cafwyd canlyniad annisgwyl wrth i Lynebwy golli o 29-15 yn Abertawe lle sgoriodd Jay Williams, Chris Morgans, Nathan Trowbridge a Callum Carson geisiau i’r crysau gwynion. Am yr eildro y tymor hwn, cafodd Aberafan gêm gyfartal gartref yn erbyn gwrthwynebwyr o Went – y tro hwn bu’n rhaid rhannu’r ysbail â Chasnewydd yn dilyn gêm gyfartal lle’r oedd y sgôr yn 13 pwynt yr un.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert