Neidio i'r prif gynnwys

Bedwas yn dringo allan o waelod y tabl

Bedwas

Capten Bedwas, Alun Rees, yn ymosod

Llwyddodd Bedwas i gyrraedd y garreg filltir gyntaf yn ystod tair wythnos allweddol o safbwynt ymdrechion y chwaraewyr i osgoi disgyn o Uwch Gynghrair Principality, wrth iddynt gipio’r pum pwynt llawn yn eu buddugoliaeth gartref o 36-28 yn erbyn Castell-nedd.

Rhannu:

Eu gwrthwynebwyr nesaf ar gae’r Bridgefield fydd Cross Keys a Llanelli, sydd hefyd yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, ac mae’r capten Alun Rees yn gwybod y gallai perfformiad tebyg i’r un yn erbyn Castell-nedd fod yn allweddol o safbwynt eu galluogi i gadw eu lle.

“Nid yw’n sefyllfa ddymunol i fod ynddi, ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed ar y cae ymarfer a chwarae’n dda bob dydd Sadwrn,” meddai Rees.

”Byddwn yn dal ati gan obeithio y bydd ein canlyniadau erbyn diwedd y tymor yn siarad drostynt eu hunain ac y byddwn wedi gwneud digon i osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair. Mae’n frwydr ffyrnig ar y gwaelod.

“Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni guro’r timau sydd o’n hamgylch. Dyna pam yr oedd y gêm yn erbyn Castell-nedd mor bwysig – roedd yn rhaid i ni sicrhau buddugoliaeth yn eu herbyn nhw.

”Mae’n braf ein bod yn parhau’n rhan o gystadleuaeth Cwpan Cenedlaethol URC, ond ein prif ffocws ar hyn o bryd yw’r gynghrair.”

Llwyddodd Bedwas i sgorio pum cais i sicrhau buddugoliaeth hollbwysig â phwynt bonws yn erbyn gwŷr dewr Crysau Duon Cymru, a lwyddodd i sgorio tri chais eu hunain.

Roedd y pum pwynt yn ddigon i sicrhau bod tîm y Bridgefield ddau bwynt yn glir o’r pedwar safle isaf ar benwythnos pan fethodd Llanelli a Cross Keys â sicrhau unrhyw bwyntiau o gwbl, a allai fod yn dyngedfennol.

Roedd seren y gêm, Joe Scrivens, wedi llwyddo i sgorio 16 o bwyntiau erbyn diwedd y gêm. Sgoriodd ei dri phwynt cyntaf i ddod â’r sgôr yn gyfartal yn gynnar yn y gêm, ar ôl i Jordan Rees sgorio pwyntiau cyntaf Castell-nedd â chic gosb.

Llwyddodd Rees, capten a bachwr Bedwas, i groesi’r llinell o fan agos i sgorio cais a gafodd ei drosi, ac yna llwyddodd yr wythwr Dale Rogers i dirio’r bêl a lledu’r bwlch i 17-6.

Ar un adeg roedd yn ymddangos y byddai Bedwas ymhell ar y blaen erbyn diwedd yr hanner cyntaf, pan wibiodd Adam Williams i lawr yr asgell i sgorio, ond llwyddodd mewnwr Castell-nedd Nicky Griffiths i sgorio cais yn erbyn ei gyn-glwb, gan leihau’r bwlch i 11 pwynt ar yr hanner.

Llwyddodd un o’r Gweilch a chyn-ganolwr Tîm dan 20 Cymru, Keiran Williams, i dorri drwodd ar ôl yr egwyl i roi rhywfaint o obaith i’r ymwelwyr, a daeth cic gosb arall o droed Rees â’r tîm o fewn tri phwynt i’w gwrthwynebwyr. Ond yna, sgoriodd Scrivens ei gais ei hun a throsi cais Sion Parry wedyn i fynd â nhw ymhellach ar y blaen.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert