Neidio i'r prif gynnwys

Menywod Prifysgol Abertawe yn trechu Caerdydd

Swansea University

Swansea University celebrate at the end of the game

Cipiodd Menywod Prifysgol Abertawe fuddugoliaeth gyffrous yn y funud olaf yng ngêm Prifysgolion Cymru gyda sgôr o 30-27 dros eu gelynion pennaf, Prifysgol Caerdydd, yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Yng nghartref tîm Warren Gatland, arwyr y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, creodd y ddau dîm gêm gyffrous a oedd yn haeddu ei lle yn y Stadiwm, wrth i Claire Dean sgorio cais yn y funud olaf i gipio’r fuddugoliaeth i Abertawe.

Yn ystod yr hanner cyntaf, aeth y naill dîm ac yna’r llall ar y blaen wrth i bum cais gael eu sgorio yn ystod y 40 munud agoriadol, ond Abertawe oedd ar y blaen ar yr hanner gyda sgôr o 15-10. Sgoriwyd ceisiau Caerdydd gan Megan Jenkins a Lilianna Podpolic.

Tarodd Abertawe yn ôl gyda cheisiau gan Emma Hennessey, Emily Sheppy a’r capten Jess McCreery.

Yn ystod yr ail hanner, sgoriodd Caerdydd gais dadleuol trwy law Ceri Edwards. Rhoddwyd y cais ond roedd yn ymddangos nad oedd Edwards wedi cyrraedd y llinell.

Er hynny, nid oedd menywod Abertawe am gael eu curo mewn gornest gyffrous.

Croesodd Courtney Keight a Cerys Hurenkamp y llinell cyn i Dean sgorio’r cais tyngedfennol i selio’r fuddugoliaeth.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert