Neidio i'r prif gynnwys

Her hyfforddi newydd i Taylor

Kavanagh Taylor Roberts

Mae Jessica Kavanagh, Rachel Taylor a Dave Roberts yn cychwyn mewn swyddi newydd yn datblygu rygbi yng Ngogledd Cymru

Penodwyd Rachel Taylor fel yr Hyfforddwraig fenywaidd gyntaf fydd yn gweithredu fel hyfforddwraig sgiliau Academi Ranbarthol URC (Gogledd Cymru – RGC). Fel rhan o’r paced a fydd yn gweld cynnydd mewn cefnogaeth i chwaraewyr Academi Gogledd Cymru, bydd cyn gapten Merched Cymru Rachel Taylor yn cyflwyno’r cwricwlwm sgiliau cenedlaethol i chwaraewyr Acedemi Gogledd Cymru ochr yn ochr ȃ Phrif hyfforddwr newydd RGC Matt Silva a than arweiniad y rheolwr academi Josh Leach. Yn y rȏl gydlynol gyntaf ar gyfer sgiliau academi ar gyfer chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd, bydd hefyd yn datblygu chwaraewyr benywaidd yn y llwybr perfformiad Gogledd Cymru, o dan ofal y rheolwr rhanbarthol Marc Roberts, er sicrhau fod chwaraewyr benywaidd a gwrywaidd yn cyrraedd eu potensial llawn yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Rhannu:

Mae Newidiwr Gemau Merched a Genethod Gogledd Cymru Dave Roberts wedi cymryd lle Taylor fel Cydlynydd Rygbi URC ar gyfer Gogledd-Orllewin Cymru ac fel hwb ychwanegol i enethod a merched sy’n chwarae rygbi yng Nghogledd Cymru, mae’r asgellwr rhyngwladol Jessica Kavanagh yn cymryd lle Roberts fel Newidiwr Gemau Merched a Genethod ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC Geraint John, “Rydym yn hynod falch o benodiad Rachel Taylor fel hyfforddwr sgiliau’n Academi Gogledd Cymru. Mae’n brofiadol iawn fel chwaraewraig ryngwladol ac fel datblygwr rygbi proffesiynol ac mae’n gyffrous ei gweld yn defnyddio’r arbenigedd hwnnw i ddatblygu chwaraewyr benywaidd a gwrywaidd yng Nghogledd Cymru tra’n parhau i ddatblygu ymhellach fel hyfforddwr wedi iddi gymryd rolau fel Hyfforddwr gyda Merched RGC a Thîm 1af Bae Colwyn (dynion) yn ychwanegol at ymgymryd ȃ rolau hyfforddi gyda thimau merched Crawshay’s a’r Barbariaid yr hydref yma.

“Daw a dimensiwn newydd i lwybr chwaraewyr Gogledd Cymru tra, ar yr un pryd, yn elwa o brofiad ac arbenigedd Matt Silva a Josh Leach yn ogystal ȃ rheolwr perfformiad hyfforddi URC Dan Clements. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi Rachel yn ei datblygiad fel hyfforddwr perfformiad uchel.”

Bydd tîm cymunedol Gogledd Cymru hefyd yn elwa o’r rolau Newydd i Dave Roberts a Jessica Kavanagh.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Merched a Genethod URC Charlotte Wathan, “Mae rhain yn benodiadau ffantastig i broffil rygbi merched a merched mewn rygbi. Mae Rachel yn ambasador ardderchog i’r gȇm a bydd y rȏl gydlynol o mewn y llwybr perfformiad o fudd i bawb sydd ynghlwm. Bu i Dave gael effaith fawr iawn fel Newidiwr Gemau Merched a Genethod Gogledd Cymru tros y dair mlynedd ddiwethaf, gan wella’n ddramatig y cyfleon ar draws y rhanbarth ar, ac oddiar y cae gan gymryd y profiad hwnnw i rȏl Cydlynydd Rygbi’n ddidramgwydd, tra y bu i Jess Kavanagh ddangos ei hymrwymiad i gynyddu’r nifer o ferched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon trwy ei gwaith gyda ‘Byw’n Iach Gwynedd’ gan, yn sicr, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched a genethod yng Nghogledd Cymru.”

Mae’r lefel gynyddol o gefnogaeth i Academi Gogledd Cymru yn dod a’i strwythur yn gyfatebol ag academdiau rhanbarthol eraill gan sicrhau y bydd chwaraewyr Gogledd Cymru sydd gyda’r potensial o chwarae rygbi’n broffesiynol yn derbyn y gefnogaeth addas er budd rygbi Cymreig i gyd.

Ychwanegodd John, “Parhȃ Rhanbarth Ddatblygol Gogledd Cymru i fod yn flaenoriaeth i ni fel Undeb. Mae’n hollbwysig, lle bynnag yr ydych yn byw’n Nghymru, fod yna lwybr i lenwi’ch potensial mewn rygbi, naill ai fel chwarewr gwrywaidd neu fel un benywaidd, hyfforddwr, dyfarnwr, neu’n wirfoddolwr. Byddwn yn parhau i gynorthwyo a chefnogi RGC fel y maent yn paratoi at y cam nesaf ar eu taith.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert