Neidio i'r prif gynnwys

Lawnsio canolfannau datblygu sgiliau merched

Dyffryn Conwy

Canolfannau sgiliau i merched wedi cael eu lawnsio

A fu ichwi gael blasu rygbi mewn ysgol neu gyda Chlwb / Hwb menywod ac yn awyddus am fwy? Awydd cymryd rhan am y tro cyntaf? Yn chwarae rygbi’n rheolaidd yn yr ysgol neu Hwb Menywod ac eisiau gwella’ch gȇm?

Rhannu:

Mae URC wedi lawnsio rhaglen sgiliau a chyflyru wyth wythnos ar gyfer genethod o oed ysgolion Uwchradd mewn pedair canolfan o’r radd flaenaf ar draws Cymru’r Hydref hwn.

Mae cofrestru’n agored yn awr i holl enethod o oedrannau Blwyddyn 7 i Flwyddyn 13 o unrhyw allu gan gynnwys y rhai sy’n newydd i’r gȇm.

Dechreuir y rhaglen gyntaf yn Academi Chwaraeon Llandarcy nos Lun nesaf, 30ain Medi lle y rhedir y rhaglen wythnosol gan y chwaraewyr 7 pob ochr rhyngwladaol Cymru Stef Andrews a Kayleigh Powell. Bydd cyn gapten Cymru a hyfforddwraig sgiliau academi RGC Rachel Taylor yn rhedeg y rhaglen yng Nghanolfan Parc Eirias a fydd yn cael ei gynnal ar nosweithiau Iau o’r 3ydd Hydref. Ar brynhawniau Sul o ddydd Sul, 6ed Hydref y cynhelir sesiynau’n Parc y Scarlets tra y cynhelir sesiynau’n Mharc Chwaraeon PDE, Trefforest ar nosweithiau Gwener gan ddechrau ar yr 11eg Hydref.

Bydd canolfannau datblygu sgiliau URC yn cyfarfod yr angen gan enethod am gyfleon rygbi ychwanegol gan gynnig sesiynau wythnosol er mwyn uwch-sgilio sgiliau craidd, techneg a ffitrwydd genethod.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol URC tros Ferched a Genethod, Charlotte Wathan, “Mae’r galw gan ferched i chwarae rygbi ar i fyny’n fawr iawn a bydd y canolfannau datblygu’n rhoi cyfleon newydd i enethod pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru i gymryd rhan mewn rygbi neu i wella fel chwaraewyr, heb wahanaiaeth a ydynt yn mwynhau’n barod, ffurfiannau gwahanol o rygbi mewn ysgolion , clwb neu amgylchfyd Hwb Menywod.”

Cofrestrwch yn awr i gymryd rhan yn rhaglen Canolfan Sgiliau a Datblygu URC ar: http://bit.ly/WRUskilldevcentres

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert