Neidio i'r prif gynnwys

Ymgynghoriad clwb yn llunio strategaeth i’r dyfodol

Club of the Future

Cyfarfod clybiau yn Dreforys

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cwblhau cyfres o weithdai clwb o gwmpas Cymru fel rhan o ymgynghoriad pell-gyrhaeddol i gynorthwyo ffurfio a llunio strategaeth ‘clwb y dyfodol’.

Rhannu:

Yn dilyn cyfres o ymweliadau clwb gan Brif Weithredwr URC Martyn Phillips; ymgynghoriad gyda Bwrdd URC a phartneriaid allanol yn ogystal ag arolwg dechreuol o gynrychiolwyr clybiau yn CCB 2019 o URC, bu i’r gweithdai ym mhob Ardal URC roddi llwyfan i glybiau i rannu mewnolygon ar yr heriau a wynebir a’r datrysiadau a ganfuwyd ar draws sawl lle ar, ac oddiar y maes, o recriwtio chwaraewyr a gwirfoddolwyr i lywodraethiant clwb; o ddatblygiad cyfleusterau i ffrydiau cyllido.

Dywedodd Pennaeth Cymunedol URC Geraint John, “Amcan y cyfnod ymgynghori yma yw i adnabod a rhannu arfer ddarhwng clybiau a defnyddio’r hyn a ganfyddir er cynorthwyo clybiau baratoi ar gyfdeer y genhedlaeth nesaf. Roeddwn i’n ffodus cael tyfu i fyny mewn clwb rygbi a amgylchynwyd gan fy holl deulu gan syrthio mewn cariad gyda’r gȇm. Rydym eisiau parhau’r traddodiad hwnnw ac er mwyn cynorthwyo’n 300 clwb i ffynnu ond cydnabyddwn na fydd hynny’n bosibl mae’n debyg onibai’n bod yn taclo rhai materion yn uniongyrchol gan ddysgu oddiwrth lwyddiannau’n gilydd – a’n methiannau.

“Rydym yn hollol ymwybodol o’r newidiadau socio-economaidd sy’n wynebu rhai cymunedau Cymreig tra bod clybiau ledled Cymru’n canfod fod angen iddynt addasu i ofynion newidiol cymdeithas drwy ddod yn fwy hyblyg, yn fwy cynhwysol ac yn fwy agored i gydweithio gyda grwpiau cymunedol eraill a chynulleidfaoedd newydd.”

Cynhaliwyd naw gweithdy clwb o gwmpas Cymru gan gynhyrchu nifer fawr o syniadau ag engreifftiau sy’n herio’r meddwl, fydd yn awr yn cael eu bwydo’n ôl iddynt yng ngham nesaf y broses. Mae ymgynhoriad pellach yn digwydd yn ogystal gyda grwpiau chwaraeon cymuned- seiliedig eraill ac oddimewn i sefyllfaoedd addysgol sy’n cynnwys chwarewyr presennol a phobl ifanc sydd ddim, ar hyn o bryd, yn rhan o glwb rygbi neu dîm er mwyn casglu’n barnau hwy am y gȇm glwb.

Serch fod recrwitio a chadw gwirfoddolwyr yn thema ail-adroddus yn y gweithdai, roedd nifer o engreifftiau o glybiau ddim yn unig yn cynyddu’u pwll o dalent oddiar y maes ond yn defnyddio ystod sgiliau pobl ifanc yn effeithiol.

Mae rhai clybiau’n gweithio gyda’i gilydd er cynnig cyfleon chwarae ar lefelau iau a ieuenctid a thrwy ychwanegu gwaed a syniadau newydd i redeg clybiau, soniodd llawer am yr ychwanegiad i niferoedd ar lefel hŷn, gyda chynnydd mewn ail dimau’n un o’r buddion a grybwyllwyd.

Weithiau, gwelir rhedeg cyfleusterau clwb yn her, yn enwedig o gwmpas y mater o drosglwyddiad ased capital ac roedd clybiau’n croesawu’r cynnig o hyfforddiant ychwanegol ar gyfer gwirfoddolwyr a rheolaeth clwb.

Dywedodd Ysgrifennydd Ystradgynlais, Alun Jenkins, “Rydym yn awyddus iawn i foderneiddio ac addasu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Mae’n hyfforddwr, Vernon Cooper bellach yn dirmon hyfforddiedig, bu inni ymuno gydag Abercraf er ffurfio tîm ieuenctid sy’n mynd yn dda ac rydym yn y broses o ddiweddaru ein cegin a chyfleustrau’r clwb fel ag i ddenu mwy o grwpiau cymunedol a gwesteio partion a chyfarfodydd.

“Bu inni ganfod fod pobl ieuengach, gan gynnwys cyn chwaraewyr ddim eisiau clymu’u hunain i ymuno gyda phwyllgorau clwb. Fodd bynnag, roeddenyt yn hollol hapus i fod yn wirfoddolwyr ac mae grŵp o ddau bellach wedi dod yn grŵp o 15 gwirfoddolwr sydd wrth law i beth bynnag sydd angen ei wneud ar ddiwrnod gȇm neu’n ystod yr wythnos. Yn ogystal, mae gennym berson 16 oed sydd wedi rhoi ei hun ymlaen i fod yn aelod pwyllgor sydd yn union y math o waed ifanc yr ydym ei angen i gynnal a chadw’r clwb am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cwmgwrach, Jeremy Williams, “Bu inni weld cynnydd mewn niferoedd hŷn sy’n chwarae drwy sicrhau fod y clwb yn le hwyliog i fod ynddo sy’n caniatau inni bellach redeg ail Dîm. Daethom o gwirfoddolwyr ifanc ymlaen ac mae llawer o’n chwaraewyr yn grefftwyr ac yn hapus i gynorthwyo.

“Mae’n Clwb yn gryf a phrysur gyda gosod blodau, bowlio gwyrdd tu fewn a chlybiau bocsio ymysg y rhai sy’n ei ddefnyddio ond erys nifer o heriau ac mae’n ddefnyddiol iawn siarad a thrafod gyda chlybiau eraill er mwyn dysgu oddiwrth ein gilydd ar faterion gwahanol.”

Ychwanegodd Martyn Phillips, “Mae gan y clybiau gorau y bobl iawn yn eu rhedeg – pobl gyffredin sy’n cyrraedd uchelfannau arbennig – ac rydym eisiau sicrhau eu bod yn teimlo cefnogaeth i’w hymdrechion i sicrhau cyfleon rygbi a chyfleusterau gydag awyrgylch atyniadol sy’n siwtio y bywydau prysur sydd gan ein chwaraewyr presennol a rhai’r dyfodol, ein rhieni a’n gwirfoddolwyr.

Mae clybiau optimistaidd yn gweld cyfle ymhob rhwystr, yn glyfar wrth adeiladu perthynas ac yn addasu i wneud eu hunain yn gynhwysol ar, ac oddiar, y maes.Yr hyn a oedd ynglir o’m hymweliadau i glybiau oedd nad yw un maint yn addas i bawb. Bydd clwb yng nghanol dinas angen cynllun gwahanol i un clwb gwledig.
Mae strategaeth clwb y dyfodol yn ceisio cynnig i’r bobl hynny, ag i’r clybiau, yr arfau i’w cynorthwyo i gynorthwyo’u hunain.”

Ychwanegodd Geraint John, “Fel canlyniad i’r ymgynghoriad gyda chlybiau a grwpiau ac unigolion eraill, byddwn yn awr yn dychwelyd at y clybiau mewn cyfarfodydd Ardal gyda chrynodeb o’r broses ymgynghori cyn belled a chyfle i gynnig mewnbwn ychwanegol fel yr ydym yn gweithio tuag at strategaeth sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion ein gwirfoddolwyr fydd yn galluogi’n clybiau i ffynnu’n y dyfodol ar, ac oddiar y maes.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert