Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws wythnosol URC 25/3/20

Diweddariad Statws wythnosol URC 25/3/20

Gareth Davies, WRU Chairman

Annwyl Rygbi Cymreig,

Rhannu:

Hoffwn ddechrau’r diweddariad hwn gyda diolch o waelod calon i’r gymuned rygbi Gymreig a’r clybiau sy’n aelodau gyda ni. Bu inni dderbyn llu o ymatebion i’r newyddion fod yn rheidrwydd arnom i ganslo tymor 2019/2020 yr wythnos ddiwethaf,yn ddealladwy yn mynegi siomedigaeth ond y cyfan mewn empathi llawn i’r sefyllfa yr ydym ynddi oll.

Tynnwyd sylw at yr agwedd hon gan Glwb Rygbi Pontypwl, sy’n methu aros am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair y Grŵp Indigo, ysgrifenodd lythyr agored yn derbyn gyda grȃs a pherspectif iawn y penderfyniad sy’n golygu dim disgyniad na dyrchafiad i neb y tymor hwn. Bu iddynt ysgrifennu (yn y Saesneg gwreiddiol) “We are a club that always strives to react to adversity in the right way and this situation is no exception,” ag hefyd, nid ydynt yn eithriad mewn Rygbi Cymreig gan fod yr agwedd hon wedi lledaenu ar draws y wlad. Ledled hyd a llȇd Cymru, mae’r gȇm gymunedol wedi derbyn y penderfyniad yn llawn ac mae pawb yn amgylchynu mewn cefnogaeth i’r rhai mwyaf anghennus ac yma, yn Undeb Rygbi Cymru, byddwn yn parhau i wneuthur y cyfan a allwn i gefnogi’r gweithredoedd hyn.

Wrth gwrs, rydym yng nghanol digwyddiad byd-eang ac rydym mewn cyswllt cyson gyda holl wledydd mawr mewn rygbi’n y byd. Reglurodd pob un ohonom ym mha le yr ydym yn sefyll, a beth yw oblygiadau ariannol ein sefyllfa bresennol.  Bu inni drafod lle y gallem fod gyda’r Chwe Gwlad a bu inni siarad am yr hydref a beth sy’n digwydd gyda theithiau’r haf.  Gallwn weithio ar wahanol sefyllfaoedd brys, ond ni allwn, ar hyn o bryd, ateb y cwestiwn o ba bryd y gallwn ail-ddechrau.

Byddwch yn dawel eich meddwl fod gennym eich diddordebau mwyaf yn ein golwg, ein Clybiau sy’n aelodau, yng nghalon pob dim yr ydym yn ei wneuthur a byddwn yn cadw’r llinellau o gyfathrebu cyson a chefnogaeth yn agored fel yr ydym yn gweithio drwy’r amseroedd anodd yma.

Anogaf glybiau i gael mynediad at ein llinell gymorth unigryw er mwyn gweld pa ymorth sydd ar gael mor aml ȃ phosibl.

Yr eiddoch mewn rygbi,

Cadeirydd URC – Gareth Davies

Ein Hamcan

Mae’n hamcan yn syml. Cynlluniwn i ddod allan o’r creisis hwn gydag URC a phob tîm a chlwb, yn amatur, rhan-broffesiynol neu’n broffesiynol, yn parhau’n grwn ag yn gallu cael dyfodol cynaliadwy.

Y gȇm gymunedol

Ar ddydd Gwener, yr 20fed Mawrth, cadarnhaodd Bwrdd URC ddileu tymor 2019/20 ar gyfer pob cystadleuaeth URC. Mae’r penderfyniad hwn yn gymwys i holl gystadlaethau cwpan a chynghrair URC yn ogystal ȃ’r gystadleuaeth traws-ffin rhwng clybiau Cymreig ac Albanaidd a oedd i ddechrau’n Ebrill. Golyga hyn na fydd dyrchafiad na disgybiad yn unrhywun o gynghreiriau URC a bydd clybiau’n aros yn y gynghrair y maent ynddynt yn bresennol. Mae’r gwaharddiad ar weithredodd rygbi’n parhau gyda chyfleusterau ar gau tan dderbynir rhybudd pellach ac mae hyn yn cynnwys dim ymarfer wedi’i drefnu na gemau, defnydd o gyfleusterau campfa clwb, sesiynau trefnedig neu unrhyw gasgliad heb ganiatȃd ar safloedd rygbi.

Bu i dair factor rygbi gynorthwyo i ddod i’r penderfyniad hwn:

– Ni does unrhyw dîm mewn unrhyw gynghrair ar hyn o bryd yn siwr, yn fathemategol o ddyrchafiad neu ostyngiad

– Ceir 1,113 o gemau Cynghrair Genedlaethol Specsavers URC ac Uwch Gynghrair Grŵp Indigo a fyddai angen eu chwarae er cwblhau cystadlaethau cynghrair neu, i’w roi mewn ffordd arall, dim ond 65% o’r tymor sydd wedi’i gwblhau

– Byddai angen lleiafswm o wyth wythnos i gwblhau’r gemau sydd heb eu chwarae

Archwiliwyd nifer sylweddol o atebion posibl, ond, yn y pendraw, cytunwyd mai’r unig ddewis tȇg a chyson oedd i ddileu’r tymor.

Rygbi Merched a Genethod

Yn cyd-fynd gyda’r cyhoeddiad am ganslo holl gystadlaethau URC ar gyfer tymor 2019/20, am eglurhȃd pellach, mae’r canslo hwn yn cynnwys cystadlaeuaeth Cwpan Merched a Genethod a ddechreuodd ym Mawrth. Yn cyd-fynd gyda gwahardd holl weithgareddau rygbi yng Nghymru, mae’r gwaharddiad hwn yn cynnwys Hybiau Benywaidd URC. Adolygir unrhyw weithred Hwb Benywaidd i’r dyfodol yn dilyn diwedd y tymor traddodiadol a’r ddarpariaeth o ffurfiau gwahanol ar gyfer merched hŷn yng nghyd-destun cyngor llywodraeth ar sail parhaus. Yn ogystal, adolygir y Rhaglen Ranbarthol (Hŷn a Dan 18) a oedd i gymryd lle ym Mehefin, Gorffennaf ag Awst, yn barhaus yng nghyd-destun cyngor y llywodraeth.

Treialu Ail-osod y Tymor

Mehefin diwethaf, yn seiliedig ar adborth gan gkybiau a rhai oedd yn cymryd rhan mewn treial o rygbi mini’n ystod misoedd yr haf, cyhoeddwyd rhaglen treial pellach o ail-osod tymor, a oedd i gynnwys gemau’n Mehefin a Gorffennaf 2020.

Seilir y treial hwn i raddau health ar y tymor rygbi traddodiadol ond cyflwyna toriad gaeaf newydd ar gyfer rygbi mini i’r clybiau a oedd yn cymryd rhan yn Rhagfyr a Ionawr gydag estyniad byrrach i’r tymor er mwyn ymgorffori rhai o’r buddion a brofwyd gan chwaraewyr a gwirfoddolwyr yr haf diwethaf – ond gyda thoriad clir i bawb yn ystod gwyliau’r ysgol.
Roedd mwy na 65 clwb ar draws Cymru i fod i gymryd rhan yn yr ail dreial hwn, ond, yn awr, adolygir y bwriad o barhau’n Mehefin a Gorffennaf ar sail barhausa fydd yn cyd-fynd gyda chyngor y llywodraeth.

Beth yr ydym yn ei wneud i helpu?

Cyllid

Derbyniodd pob clwb ddogfen gefnogaeth sy’n manylu ar ffynonellau cyllido ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Cynnwys y wybodaeth y camau cyntaf y gall clwb ei gymryd i leihau costau sy’n parhau. Yn ogystal, ceir arweiniad ar y dewisiadau cyllidol a mesurau arbed costau i’r tymor canolig a thymor hir y gall clybiau eu hystyried. Rhoddir manylion pellach yn y ddogfen ar y dilead o gyfraniadau gwasanaethau Darlledu i glybiau gan ‘Sky Sports’, ‘BT Sport’ a ‘Premier Sports’, sy’n cynnig darpariaethau cadarnhaol amrywiol. Linciwyd clybiau gyda ‘Molson Coors’ a ‘Heineken’ gan gynnig cyngor a chefnogaeth ar faterion bragu, yn cynnwys sut i gau selerydd a rheoli benthyciadau cyfredol ag ati.

Cadarnhaodd banc ‘Natwest’ y gall clybiau ymgeisio am ohiriad o 6 mis ar ad-daliadau capital ac anogir clybiau i gysylltu gyda chyflenwyr egni swyddogol URC, ‘Amber energy’, y rhai yr ydym yn partner gyda er mwyn cyflenwi’r Fframwaith Egni URC 2020. Yn syml, wrth brynu egni’n ganolog ar ran yr holl glybiau sy’n cymryd rhan, gall URC gyrraedd arbedion mawr iawn a chynorthwyo clybiau i leihau eu biliau an egni oherwydd gwelir llawer o’r costau sydd ynghlwm gyda chyflenwyr yn darparu egni i fusnesau bychan, megis clybiau rygbi’n cael eu dileu.

Gwelir mwy o fanylion yn ogystal ar becynnau cefnogi busnesau newydd Llywodraeth Cymru a chapasiti HMRC i ohirio taliadau TWE/TAW a bydd URC yn parhau i gyfathrebu gyda chlybiau ar y materion hyn.

Sefydlwyd llinell gymorth fel y gall clybiau ofyn unrhyw gwestiwn penodol nad sydd, o bosibl, yn cael ei gyfeirio ato’n y ddogfen cefnogaeth a ddisgrifiwyd. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid allanol fel ag i gyflwyno’r cyngor mwyaf addas i glybiau.

Blaenoriaeth allweddol ar gyfer Ebrill: Gosodom i fyny Ganolfan Gymorth er mwyn cynnig cefnogaeth i’r holl glybiau ac ryfym yn parhau i ddatblygu’r broses a’r fethodoleg ar gyfer gweithio allan pa gefnogaeth ariannol pellach y gellir ei gynnig i glybiau a phenderfynu sut y buasem yn rhannu cyllid ychwanegol pe byddent yn dod ar gael.

Gall yr holl glybiau sy’n aelodau gysylltu gyda’r linell gymorth drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol – clubdevelopment@wru.wales

Yn olaf, erbyn hyn trosglwyddwyd y taliadau o £1k y clwb, a nodwyd yn niweddariad yr wythnos ddiwethaf, i’r holl glybiau yng Nghymru sy’n aelodau.

Adnoddau

Mae’n timau ar, ac oddiar y maes, yng nghanol y broses o greu gweithgareddau cyffrous a chynnwys i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy’r portal arlein ‘Game Locker’ (www.wrugamelocker.wales), sy’n cynnwys mewnbwn gan staff cyflwr a pherfformiad y Sgwad Cenedlaethol ac felly, os gwelwch yn dda, parhewch i wylio’r safle yma.

Mae nifer o swyddogion hwb URC ar hyn o bryd ynghlwm gyda chefnogi’r argaeledd ysgolion i blant gweithwyr allweddol, gyda chynlluniau i adnoddau Dosbarth Digidol WRU i ddod yn fwy hygyrch i bob ysgol.

Yn y tymor hir, rydym yn cynllunio treialu ein cyrsiau arlein ar gyfer hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr eraill fel rhan o’n Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) cyson, fel ag i sicrhau fod pawb yn barod i gychwyn yn syth unwaith y bydd rygbi’n ail ddechrau.

Y gȇm broffesiynol

Gohiriwyd twrnamentau Cyfres Saith pob Ochr y Byd HSBC i ddynion yn Llundain a Pharis, tan fis Medi’n y lle cyntaf. Gohiriwyd twrnament Saith pob Ochr y Byd HSBC i ferched yn Langford tan yn hwyrach yn y flwyddyn. Gohiriwyd y digwyddiad terfynol o Gyfres Her HSBC Saith pob Ochr y Byd tan yn hwyrach yn y flwyddyn. Gohiriwyd rhai digwyddiadau ymgymhwyso rhanbarthol Cwpan Rygbi’r Byd 2021 a 2023. Canslwyd Pencampwriaeth Dan 20 Rygbi’r Byd 2020, a oedd i fod i ddigwydd yng Nghogledd yr Eidal yn niwedd Mehefin a Gorffennaf, yn dilyn ymgynghori manwl gyda ‘Federazione Italiana Rugby’ ag, yr wythnos hon, nododd y Pwyllgor Olympic Rhyngwladol a Tokyo 2020 wrthym y bydd y Gemau Olympic a Pharalympic yn cael eu gohirio.

Yn y cyfamser, yr wythnos hon, bu i brif weithredwr URC, Martyn Phillips, gytuno i aros ymlaen ar y pen am y dyfodol rhagweladwy ac mae’r newyddion hyn yn rhoi inni’r sefydlogrwydd angenrheidiol ar y cyfnod pwysig yma.

“Bu’n fraint fawr imi weithio i Rygbi Cymreig tros y bum mlynedd ddiwethaf a daeth yn glir inni gyd, nad yw yn awr yn amser da i ddechrau’r trawsnewid i SPW Newydd, ac felly, rwy’n falch iawn i barhau’n y rôl fel yr ydym yn negydu amgylchiadau nas gwelwyd o’r blaen,” meddai Phillips.

“Mae’n amcan yn syml. Gosodom i ni’n hunain yr amcan i ddod allan o’r creisis yma’n gyda URC a phob tîm a chlwb, boed hwy’n amatur, rhannol broffesiynol neu’n broffesiynol, yn gyfan ac yn alluog i gael dyfodol cynaladwy.

“Rwyf yn gwybod yr hyn a olyga rygbi yng Nghymru ac rwyf yn ymroddedig i aros tan yr amser hynny y byddwn yn cyrraedd dyfroedd tawelach ac y gallwn, unwaith yn rhagor, fwynhau’r hyn y mae chwaraeon a rygbi’n ei olygu inni gyd.

“Mae cymaint o bob lar draws Cymru yn gwneud aberthiadau enfawr ar y funud i’n cefnogi oll drwy amseroedd hynod o anodd. O’i gymharu gyda’r heriau y maent hwy’n eu wynebu ac yn erbyn y cyd-destun ehangach, nid oedd gennyf benderfyniad i’w wneud.”

Bydd Martyn a’i dîm pwyllgorol yn parhau i weithio’n agos gyda Rygbi’r Byd, Chwe Gwlad, RPCE a Pro14 ar yr holl ddewisiadau ar ail gychwyn rygbi unwaith y bydd yr amodau’n iawn.

“Tra’r canslwyd y tymor rygbi Cymreig 2019/20, parhawn i weithio gyda’n partneriaid yn y Chwe Gwlad, Rygbi Clwb Proffesiynol Ewropeaidd a PRO14 er canfod y ffordd ymlaen,” ychwanegodd Phillips.

“Mae’r rhagolwg o ail-drefnu digwyddiadau’n rhywbeth sy’n parhau i ffurfio rhan o gynllunio argyfwng am beth amser tan y bydd y pandemic wedi diflannu.

“Mewn cyfarfod bwrdd a drefnwyd ar gyfer heddiw, Mercher 25ain Mawrth, diweddarir Bwrdd URC ar gynlluniau i wrthsefyll y risgiau a ddaw i’r amlwg gyda’r pandemic coronafeirws ar fusnes URC a’r gȇm broffesiynol yng Nghymru’n gyffredinol.

“Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP) a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymreig (CChRC) fel ag i reoli’r effaith negyddol ar y pen elît o’r gȇm.

“Mae’r Undeb yn parhau mewn proses gyson o fodelu ariannol ac ail-fodelu fel ag i gynllunio argyfwng ar gyfer holl sefyllfaoedd y gellir eu rhagweld yn y dyfodol.

“Canlyniad da fyddai fod y pandemic yn lleihau erbyn Mai neu Fehefin ag y gellid cwblhau’r tymor hwn yn yr haf, ond yr hyn y mae’n rhaid inni’i wneud yn y cyfamser yw cynllunio ar gyfer popeth annisgwyl.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert