Neidio i'r prif gynnwys

Clwb yn hybu gweithwyr rheng flaen

Clwb yn hybu gweithwyr rheng flaen

Chris Jones (chwith) a Rhys Luckwell (Capten Clwb Rygbi) yn cyrraedd yr ysbyty gydag anrhegion blasus.

Mae yna glwb rygbi yng nghanol Caerdydd sydd wedi bod yn chwarae eu rhan wrth roi hwb i weithwyr rheng flaen GIG yn ystod yr argyfwng presennol.

Rhannu:

Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, sy’n chwarae yn y trydedd haen yng Nghynghrair Cenedlaethol Specsavers​, wedi bod yn codi arian i ddangos eu gwerthfawrogiad am yr ymroddiad a’r ysbryd diflino sy’n cael ei ddangos gan staff y GIG yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae aelodau o’r clwb, sydd wedi ei leoli yn ardal Pontcanna o’r ddinas, wedi cyfrannu agos at £2000, ac mae’r arian wedi cael ei wario ar ddibenion ymarferol cyn belled.

Neithiwr archebwyd a danfonwyd 40 pizza i weithwyr shifft nos Ysbyty Athrofaol Cymru (mewn cydweithrediad gyda bwyty Dough Thrower yn Nhreganna).

Yn y cyfamser, mi fydd y clwb yn dosbarthu bagiau golchi dillad sy’n medru cael ei olchi mewn peiriant a fydd yn cynnwys deunydd ymolchi i staff ysbytai ledled De Ddwyrain Cymru (150 i UHW, 50 i Ysbyty Brenhinol Morgannwg a 50 i Ysbyty Brenhinol Gwent).

Ar lefel fwy technegol, mae aelodau Clwb wedi cynhyrchu masg gorchudd gwyneb ar gyfer cartrefi gofal ac ysbytai o amgylch ardal Caerdydd. Serch hynny, maen’t yn parhau i chwilio am argraffydd 3D a fyddai yn cynyddu’r cynhyrchiad o’r eitemau pwysig yma. ​

Dywedai Rhys Jones, Cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd: “Ni’n glwb cymunedol sy wedi dod at ein gilydd yn y cyfnod anodd yma i helpu’n gilydd ac helpu eraill. Aelodau o’r garfan dath lan ar syniad o #Diolch i’r GiG ac ma’r ymateb or Clwb di bod yn anhygoel.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert