Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad stats URC 22/04/2020

Status Update

Rydym yn agosau at fynd i mewn at gymal nesaf ein cynllunio er mwyn lleihau effaith y coronafeirws ar rygbi Cymreig gan ddechrau meddwl yn ddifrifol am sut y bydd ein gȇm a’n cymdeithas – ac felly, busnes yn gyffredinol – yn cael ei newid ddim yn unig fel canlyniad i’r cload presennol, ond, yn ogystal, gan unrhyw reoliadau a allai ddilyn wedi iddo gael ei ddatgloi.

Rhannu:

Aiff ein Prif Weithredwr, Martyn Phillips i fwy o fanylder yn ddiweddarach yn y diweddariad hwn am beth a olyga hyn ar lefel ymarferol i staff unigol, chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a phersonel cyffredinol rygbi tra’n caniatau’r adweithiau posibl hynny y gallwn gynllunio amdanynt ar lefel mwy macro.

A siarad am y ‘darlun mawr’, roeddwn yn hapus iawn o gael fy enwebu’r wythnos ddiwethaf ar gyfer un o’r saith safle ar Bwyllgor Gwaith Rygbi’r Byd.

Hwn yw’r corff sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac sydd yng nghalon datblygu strategaeth ar gyfer gȇm y byd ar bob lefel a bu imi eisoes weithredu fel aelod o’r pwyllgor am ddwy flynedd.
Buasai’n fraint cael fy ail-ethol yn yr amser hwn o newid a chyfleon mawr i’r gȇm ar raddfa global, gyda phum ardal allweddol i’w penderfynu.

Y cyfle cyntaf fydd i ail-edrych ar strwythur y calendr global gan mai’n awr yw’r amser i greu rhestr gemau rhyngwladol heb glogio’r drefn a thynnu unrhyw gamgroesi neu gamdrefnu’n y gȇm broffesiynol ledled y byd.

Mae’n swnio’n ddelfryd syml ac mae’n hollol wir na fu erioed unrhyw gyfle gwell i wneud hyn, ond ni ddigwydd heb waith caled a diwyd pwyllgor gwaith Rygbi’r Byd.

Blaenoriaeth allweddol arall yw adolygiad cywir o lywodraethiant gȇm y byd, fel ag y bydd adolygiad o strwythurau cyllidol sy’n sail i’n gȇm.

Byddwn yn ffocysu ar gȇm y merched gydag egni newydd ac, yn olaf, bydd llȇs chwaraewyr yn parhau’n rhan lawn iawn o’r holl feddylfryd yn nhermau stategaethau i’r dyfodol.

Os y byddaf mor ffodus a chael fy ethol am dymor arall ar y pwyllgor hwn, bydd yn gyfrifoldeb y byddaf yn falch o’i gyflawni a gobeithiaf y bydd clybiau sy’n aelodau a’n llu o gyfranogwyr eraill, yn cael eu sicrhau’n y wybodaeth y bydd llais rygbi Cymreig yn parhau i gael ei glywed yn glir ag yn uchel ar y bwrdd gyda’r uchaf ei statws hwn.

Yr eiddoch mewn rygbi,

Gareth Davies
Cadeirydd URC

Rygbi Dan 19, Iau a Ieuenctid
Canfyddwch isod, os gwelwch yn dda, safbwynt swyddogol URC mewn perthynas ȃ rheoliadau symud chwaraewyr Dan 19, Iau a Ieuenctid yng Nghymru fel canlyniad i ganslo tymor 2019-20.

TROSGLWYDDIADAU
Gan fod dyddiad terfynol trosglwyddo Dan 19 wedi mynd heibio erbyn hyn heb agor eto tan y 1af Mehefin 2020, penderfynwyd na fyddwn yn derbyn nag yn prosesu unrhyw geisiadau am drosglwyddiadau Iau nag Ieuenctid tan y rhoddir rhybudd pellach.
Bydd URC yn parhau i fonitro’r sefyllfa a phan gyrhaeddir sefyllfa i ail-ddechrau, yn gadael yr holl glybiau wybod pa bryd y byddent yn gallu dechrau’r broses o weinyddu’r trosglwyddiadau.

CYFNOD PEDWAR MIS DI-CHWARAE
Oherwydd fod tymor 2019-20 wedi’i ganslo, bu i Bwyllgor Rheoli Cystadlaethau URC gyrraedd y farn fod y rheoliad sy’n rhoi statws ‘cynrychiolydd rhydd’ i chwaraewr wedi pedwar mis o absenoldeb (a ddisgrifir isod) yn cael ei wahardd tros dro o ddydd Gwener, 20fed Mawrth 2020 tan y byddwn mewn sefyllfa i benderfynu pa bryd y bydd chwarae’n ail-ddechrau.
Byddwch yn ymwybodol, yn ogystal, os gwelwch yn dda, pa bryd bynnag y bydd dychwelyd i chwarae’n digwydd, ni fydd y ffrȃm amser arferol lle na fydd y cyfnod pedwar mis yn cyfrif (h.y.1af Mehefin – 31ain Gorffennaf) yn parhau mewn gweithrediad.
Gwelwch isod, os gwelwch yn dda, wybodaeth am y dyfyniad allan o’r rheoliadau Cymhwysedd Chwaraewyr Mini, Iau a Ieuenctid sydd, yn awr, wedi’u gwahardd tros dro:

“If a player has not played for the Club with which he/she is registered for at least 4 months he/she will be deemed to be a “free agent” and will not be counted as one of the three allowed transfers into a Club if he/she registers with another Club. This is on the provision that the elapsed time will be during the playing season which is August 1st to May 31st. Before he/she may register with a new Club the player must show to the satisfaction of the WRU’s Rugby Competitions Manager that he/she has not played for his/her previous Club for at least 4 months. Should a club look to transfer players in after reaching their 3-player limit they will have to have received confirmation from the club who the player is transferring from as well as notify them that they will be exceeding the transfer limit. Should this be agreed and the Rugby Competitions Manager be made aware then the transfer will be granted.”

HUNAN-GOFRESTRIADAU
Tra y gwaharddwyd trosglwyddiadau, os y dymuna clybiau hunan-gofrestru chwaraewyr hollol newydd a rhai eraill sydd ddim yn gysylltiedig gydag unrhyw glwb, maent yn parhau’n rhydd i wneud hynny. Fodd bynnag, nodwch os gwelwch yn dda, y byddai trosglwyddiadau a gwblheir yn awr yn berthnasol i’r tymor 2019-20 a ganslwyd a byddai angen i holl chwaraewyr i adfywio’u cofrestriad gweithredol cyn tymor 2020-21, pryd bynnag y byddai’n dechrau.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau parthed yr uchod at, os gwelwch yn dda, eich Rheolwr Rygbi Rhanbarthol URC perthnasol neu drwy participation@wru.wales

Arolwg Effaith Clwb URC
Erbyn hyn, cwblhaodd 180 clwb yr Arolwg Effaith Clwb. Bydd y clybiau sydd wedi cwblhau’r arolwg yn derbyn cyfathrebiad gan Staff Cymunedol URC er cadarnhau unrhyw wybodaeth sy’n sefyll allan o’r arolwg, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer Lleihȃd mewn Trethi Busnesau Bychan ag os yw clybiau wedi cofrestru ar gyfer TAW. Buasem yn parhau i annog clybiau, os gwelwch yn dda, i ymateb os na wnaethant hynny’n barod.
Bydd hyn yn ein galluogi i gadanhau cymhwysedd i’r naill o’r cynlluniau amlinellir isod ac i adnabod y clybiau hynny sydd ddim yn gallu derbyn cefnogaeth ariannol. Yr ydym yn awr, yn dechrau dadansoddi’r data a dderbyniwyd ac felly, mae’n hollbwysig fod clybiau’n cwblhau’r Arolwg Effaith erbyn y dyddiad terfyn sef, y dydd Gwener hwn, 24ain Ebrill.

Cynllun Cefnogaeth Busnes Llywodraeth Cymru

Mae clybiau’n awr yn derbyn taliadau gan Awdurdodau Lleol ar draws Cymru. Mae staff o Adran Gymunedol URC eto’n y broses o gysylltu gyda chlybiau i glirio statws y ceisiadau.

Cronfa Gwydnwch Economeg Llywodraeth Cymru

Mae pecyn cymorth cymhorthdal diweddaraf Llywodraeth Cymru’n awr yn fyw.
Bydd Cronfa Gwydnwch Economaidd yn darparu cefnogaeth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig coronafeirws gan gynorthwyo sefydliadau reoli pwysedd llif arian. Bydd yn helpu i gywiro gwagleoedd sydd ddim yn cael eu cyfarfod gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DG, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Ohwrydd poblogrwydd y cymorthdal, rhyddhawyd y £300m o gyllido’n llawn, a thargedir ef at fusnesau meicro, MBC’au a busnesau mawr o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd critigol i Gymru.
Gall busnesau meicro sy’n cyflogi hyd at naw gweithiwr fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth hyd at £10k. Gofynir i’r sefydliad yn y cwestiwn am y cymhwysedd ar gyfer y gefnogaeth £10k:
• Wedi profi lleihad o fwy na 40% mewn trosiant o’r 1af Mawrth 2020
• Wedi cofrestru ar gyfer TAW
• Yn gallu arddangos yr ymdrechwyd i gadw gweithredoedd y busnes
• Ddim yn dilyn ffurfiau eraill o gyllid di-dȃl yn ôl Llywodraeth Cymru
• Ddim yn gymwys i dderbyn cymorthdaliadau lleihad treth fusnes

Hyfforddi

Mae tudalen ‘Coaches Corner’ yn fyw’n awr ar safwe‘Game Locker’ URC: http://bit.ly/WRUCoachesCorner
Mae’r ‘Coaches Corner’ yn darparu cyfweliadau webinar gyda hyfforddwyr o gwmpas y cymunedau a’r gȇm broffesiynolwedi’u cyn ddarlledu fel ag i rannu gwybodaeth ac arfer gorau.

Parha adran berfformiad URC i arwain seminarau arlein a gynlluniwyd i ehangu i’r eithaf argaeledd hyfforddwyr yn ystod y cyfnod presennol o gload ag i barhau eu datblygiad proffesiynol.
Y webinar ddiweddaraf a gynhaliwyd yr wythnos hon yn cynnwys Lachland Penfold, cyfarwyddwr perfformiad Melbourne Storm a gwelir siaradwyr gwadd eraill ar y gorwel yn cynnwys: y seicolegydd trwyddedig mewn perfformiad a chlinig, Dr. Jonathan Fader, sydd yn seiliedig yn UDA ac sydd wedi gweithio gyda’r New York Jets a’r New York Giants; Shaun Wane, prif hyfforddwr Rygbi’r Gynghrair Lloegr; a’r Athro Stephen Rollnick o Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, a ysgrifennodd yn ddiweddar y llyfr ‘Motivational Interviewing in Sports’, sy’n cynnwys arweiniad manwl ar faterion megis sut i roi cyngor i chwaraewyr, sut i gysylltu ȃ hwy’n gyflym, asut i’w cynorthwyo i ddatrys amheuon am heriau y tu fewn, a thu allan i gampau.
Targeda’r galwadau cynhadledd hyn hyfforddwyr sy’n gweithio’n mhen broffesiynol y gȇm a gwelir tros 50 hyfforddwr yn bresennol yn gyson ym mhob achos. Yn bennaf, o’n rhanbarthau a Llwybrau URC y daw’r hyfforddwyr yn y sesiynau byw,ond mae gennym, yn ogystal, hyfforddwyr Cymreig yn bresennol – rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd y tu allan i Gymru yn Uwch-Gynghrair Gallagher mewn ymdrech i barhau cefnogaeth i hyfforddiant Cymreig.
Rhennir y cynnwys (recordiadau) arlein ar safwe Game Locker URC ( www.wrugamelocker.wales/ ) yn y dyfodol agos fel y gall y byd hyfforddi’n ehangach (e.e. hyfforddwyr sy’n dymuno cyrraedd y lefel honno o hyfforddi) dderbyn budd o’r rhannu gwybodaeth.
Fel rhan neilltuol o’n rhaglen datblygu hyfforddi elît, y gobaith yw i barhau i ddarparu cyfleon safon byd o ddysgu tra yr ydym gartref oll ar hyn o bryd, ac rydym yn broactif wrth geisio canfod rhai o feddylwyr arweiniol mewn chwaraeon.
Yn sicr, rydym yn cadw at y feddylfryd fod y potensial i ddysgu o chwaraeon a sectorau eraill yn anferth, ac mae’r amser di-chwarae presennol yn rhoi inni’r hyblygrwydd a’r cyfle i gysylltu gyda phobl ardderchog ar draws y byd.
Lleda’r testunau o ddiwylliannau perfformiad uchel drwodd at gynllunio a chyfnodoli ond bu’r cyfle i’n hyfforddwyr i siarad a chysylltu gydag unigolion o arweinwyr arwain i nifer o ddadleuon arbennig.
Mewn lleoedd eraill, buom yn rhedeg trafodaethau rhithiol ar draws y bwrdd ar gyfer Hyfforddwyr Talent yng Nghymru, yr hyfforddwyr hynny sy’n gweithio gyda RAG, Coleg & Academi ag ati, gyda Gareth Williams (URC) yr wythnos hon yn cyflwyno ar hyfforddi chwaraewyr sy’n trawsnewid a bydd hyn yn parhau gyda sesiynau wythnosol.

Rygbi

Stori boblogaidd ar safwe URC a sianeli cymdeithasol yr wythnos hon oedd ein gwefeistr yn gofyn i bedwar gwyliwr rheolaidd o’r Gynghrair uchaf yn nhrefn Clwb Gymreig, yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, i roi inni’u barnau ar y chwaraewyr gorau, hyfforddwyr a dyfarnwyr o’r ymgyrch 2019/20.
Rhyngddynt, bu i’r pwnditiaid dewisiedig, gwŷr ystadegau ac ysgrifenwyr rygbi wylio dwsinau o gemau yr un drwy’r tymor byrhoedlog chwe mis gan weld pob clwb yn chwarae. Dewisodd pob un o’r pedwar ‘arbenigwr’, a ddewisiwyd yn ofalus, eu tîm y tymor a’r chwaraewyr, dyfarnwyr a hyfforddwyr gorau, a gellwch weld eu dewisiadau yma:
Ond – am gydbwysedd absoliwt – dyma’r ‘tîm gorau’ a gyhoeddwyd gan y tîm ‘The Welsh Premiership Podcast’, a redir gan fyfyrwyr Sgriblwyr Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru, a ofynodd i gefnogwyr enwi eu XV Uwch-Gynghrair Gorau:
15 Edd Howley (Caerdydd); 14 Dewi Cross (Pen y Bont), 13 Callum Carson (Abertawe), 12 Rhodri Jones (Llandyfri), 11 Elliot Frewen (Casnewydd); 10 Aled Thomas (Aberafan), 9 Lee Rees (Llandyfri); 1 Rowan Jenkins (Aberafan), 2 Gareth Harvey (Pen y Bont), 3 Ben Leung (Cwiniaid Caerfyrddin), 4 Ashley Sweet (Glyn Ebwy), 5 Haydn Pugh (Cwiniaid Caerfyrddin), 6 Joe Powell (Llandyfri), 7 Callum Bowden (Abertawe), 8 Richard Brooks (Llandyfri)

Mewn man arall, bu aelod o Fwrdd URC a’r fenyw gyntaf i’w hethol i sedd ar fwrdd uchaf rygbi Cymreig, Liza Burgess, wedi bod yn dwyn i gof y gȇm ryngwladol gyntaf erioed i dîm merched Cymreig.
Chwaraewyd y gȇm ym Mhontypwl 33 mlynedd yn ôl i’r mis hwn ar Ebrill 5ed, 1987. Ddim yn unig yr oedd yn ddiwrnod ‘carreg filltir’ i rygbi merched yng Nghymru, ond, yn ogystal, yn ddiwrnod mawr i Burgess a’i theulu. Gellwch ddarllen mwy – a gweld lluniau a rhannau fideo o’r gȇm! – yma:
https://www.wru.wales/article/liza-burgess-my-first-wales-squad/

Clybiau a GIG
Nid yn unig y mae clybiau ar draws Cymru wedi neidio i weithredu er mwyn cynorthwyo’r bregus a’r gweithwyr allweddol o fewn eu cymunedau, ond, yn ogystal, maent wedi cydlynu ymdrechion lleihau neu fod yn gyntaf i ymateb ceisiadau am gymorth gan gyrff megis GIG ac awdurdodau lleol.
Clybiau megis Hartridge, yn agos iawn at Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, wedi chwarae rôl allweddol mewn ymdrech godi arian anferthol sydd wedi darparu i-padiau i’r ysbyty, fel y gall teuluoedd gyfathrebu gyda’r rhai a garant, ac, yn ogystal, wrth ddarparu prydau i weithwyr allweddol a’r bregus yn yr ardal.
Mae nifer o glyniau wedi codi arian at elusennau GIG. Rhydyfelin, Castell Newydd Emlyn, Caldicot, Magor a Dan 12 Treforus – lle y gorfodwyd i dad un o’r chwaraewyr siafio’i hoff farf fel y gallai wisgo masg wyneb cywir tra’n gweithio ar ward anadlu’n Ysbyty Treforus – rhai engreifftiau o’r rhai a ‘brofodd y siafio’ i ddangos eu cefnogaeth i staff GIG, yn benodol, gyda’r clybiau hynny’n unig wedi codi dros £6k.
Yn Aberafan, Bu i’r ochr Uwch-Gynghrair Indigo lleol, CR Aberafan ymuno gyda ‘Age Connects’, Castell Nedd Porth Talbot sydd wedi gweld aelodau o’r tîm yn siopio a gwneud tasgau dyddiol tros y rhai sydd yn methu gwneud hynny o dan yr amodau presennol. Mae’r gwaith da a wnaethpwyd gan yr ochr a adnabyddir yn lleol fel ‘The Wizards’ wedi cael ei ganmol gan y bachgen lleol a seren Hollywood,Michael Sheen, y gellwch ei wylio yma ar

Mae clybiau eraill yn dod at ei gilydd i rannu bwyd, prescrypsiynau ac anghenion allweddol eraill i henoed a phobl fregus yn eu hardal.
Nant Conwy, Bethesda, nifer o glybiau’n rhanbarth y Sgarlets, wedi’i gydlynu gan y ‘Scarlets Foundation’, ond yn rhai engreifftiau o’r rhai, tra mae eraill, megis Penallta a CRICC yn rhannu anghenion angenrheidiol i ysbytai a staff GIG ac mae, hyd yn oed, engreifftiau o glybiau’n cynhyrchu adnoddau meddygol i gefnogi GIG ar yr adeg yma. Felinfoel oedd yn un arall i ymateb i alwad Grŵp Cymunedol y Sgarlets – i gynorthwyo rhannu pecynnau gofal angenrheidiol i bobl oedd yn ynysu. Gyda bron i 60 pecyn wedi’u rhannu yn y criw cyntaf a chynllunir rhannu mwy yr ywthnos hon gyda’r gwirfoddolwyr yn cynnwys hyfforddwyr, chwaraewyr y tîm cyntaf, rhieni ag aelodau’r pwyllgor gyda phawb yn chwarae’i ran.
Cyflwynodd Clwb Rygbi Dolgellau eu holl stoc darfodus i’r gorsafoedd heddlu ag ambiwlans lleol ac mae’r chwaraewyr hŷn ar gofrestr lleol o wirfoddolwyr ar gyfer siopa a rhannu nwyddau – gwasanaeth sy’n cael ei gyd-lynu’n lleol gan wirfoddolwyr sydd hefyd yn aelodau o bwtllgor y clwb.
Fel ag y nodwyd ynghynt,mae Dinbych, sydd gyda’r moto, ‘Calon y Gymuned’ yn filch iawn o gynorthwyo pan ofynwyd iddynt ddod yn Ganolfan Asesu Clefyd MC a Threharris, sydd hefyd yn falch o’u lle’n y gymuned,yn darparu prydau i weithwyr allweddol a’r bregus yn eu hardal, yn cael eu cario gan wirfoddolwyr o’r clwb.
Buasem wrth ein boddau’n clywed sut y bu i’ch clwb chwi gynorthwyo’n eich cymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn ac felly, os gwelwch yn dda, e-bostiwch clubdevelopment@wru.wales os y buasech yn hoffi‘ch stori gael ei chlywed.

Sylw gan y PW

I raddau helaeth erbyn hyn, rydym yn awr wedi cwblhau cyfnod a oedd yn gofyn llawer o’r tîm yn URC lle y bu inni gymryd y gweithredoedd angenrheidiol i gloi, neu i ohirio, gweithrediadau rygbi.
Bu inni gymryd cymaint o fesurau gostwng costau ag y gallem, newid ein harferion gweithio er mwyn addasu i’r cload a phan oedd angen, gefnogi’r addasiadau i ysbytai sy’n awr yn weithredol yn ein Stadiwm yng Nhaerdydd ag yn ein sylfaen perfformiad uchel yn y Vale Resort yn Hensol.
Symud ymlaen i’r cymal nesaf yr ydym yn awr – cymal sydd angen inni gadw gweithredodd i symud, ond gyda thîm sydd wedi’i leihau’n sylweddol, ynghyd ȃ throi’n golygon at sut y gallwn reoli’r trawsnewidiad yn ôl i’r hyn y gallai ‘normalrwydd newydd’ edrych i rygbi Cymreig.
Wrth gwrs, yn gyfredol,mae hyn yn ddiarwybod inni, ond rydym yn gweithio drwy geisio rhagweld a dod i farn sut fydd y dyfodol yn edrych, yn ogystal ȃ chymryd y cyfle real iawn i gyflwyno newidiadau a fuasai’n gyffredinol, yn dda i’r gȇm.
Rydym yn cynllunio ar gyfer sefyllfa er ceisio rhagweld ym mha achosion y bydd arferion ac ymddygiadau’n dychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ond hefyd, rhagweld lle y bydd y newidiadau a ddaeth gyda’r creisis COVID-19 yn arwain ni i’r ‘normalrwydd newydd’.
Gall ein cyfrangowyr, cefnogwyr, partneriaid, chwaraewyr yn ogstal ȃ phawb sy’n ymwneud ȃ rygbi Cymreig ar bob lefel, ffurfio arferion newydd a pharhaol gan ddod yn ôl atom gyda disgwyliadau, anghenion neu ddymuniadau gwahanol.

Er enghraifft, rhai o’r cwestiyau yr ydym yn ymdrin ȃ hwy yw:

• Pan fydd ein clybiau cymunedol yn agored eto, sut y byddwn yn sicrhau eu bod yn ddiogel a chroesawgar ag y bydd ein cymunedau eisiau dychwelyd. Mae’n bosibl y bydd pobl yn dychwelyd mewn mwy o niferoedd fel y bydd cymdeithas yn ‘mynd yn lleol’, ac felly, sut y gallwn wneud yn siwr ein bod yn barod?
• Sut yr ydym yn cydweithio gyda chlybiau er llunio’r cynlluniau dychwelyd i chwarae gemau, cynghreiriau a chystadlaethau wedi’i seilio ar gyngor meddygol a chyfyngiadau posibl?
• Sut y gallwn roi’r hyder fod dychwelyd i chwarae’n parhau i fod yn atyniadol a bod rygbi’n parhau’n ffurf o weithred gorfforol sy’n rhoi cynnig sydd ar gael i bawb yn ein cymunedau?
• Sut yr ydym yn paratoi at holl elfennau’n cymdeithas a allai barhau’n fregus i’r feirws, gan adael iddynt fod yn rhan o,ag i gymryd rhan, yn y teulu rygbi?
• Sut yr ydym yn trefnu digwyddiadau, yn fawr a bach, o fewn y cyfyngiadau allai barhau i fod mewn grym fel yr ydym yn trawsnewid drwy’r cyfnod wedi’r cload?
• Sut y bydd angen i’n model busnes newid fel yr ydym yn dod allan o’r pwysedd ariannol y gosodwyd ni ynddynt?
• Sut y dylem ymwneud yn gadarnhaol yn y gwahanol adolygiadau sydd ymlaen i ailffurfio’r tymor proffesiynol yn y tymhorau byr a hir. Sut, lle’n bosibl, y gellir symud materion sy’n hanesyddol wedi dal y gȇm yn ôl?
• Beth yw’r ‘normalrwydd newydd’ ar gyfer refeniw, costau a buddsoddiad mewn rygbi Cymreig a sut y byddwn yn byw y tu mewn i’n gallu yn y ‘normalrwydd newydd’ hwnnw??
• Sut y byddwn yn parhau – fel yr ydym yn gwybod y bydd raid inni – i gyllido ardaloedd lle y bu inni glustnodi buddsoddiadau newydd, megis mewn rygbi merched a genethod, mewn awyrgylch ariannol cyfnewidiol?
• Sut y dylem addasu ein arferion gweithio fel y gallwn fanteisio ar y newidiadau sydd wedi digwydd, gan ehangu’r cyfleon i’r eithaf o deithio llai, a pharhau gyda chyfathrebu allan o’r arferion gorau a pharhau i ehangu ymhellach ein cynigion digido arlein?
• Sut yr ydym yn gweithio gyda’n holl bartneriaid er deall sut yr effeithiwyd arnynt hwy ac addasu ein ffyrdd newydd ni o weithio i gyfarfod eu hanghenion cyfnewidiol hwy?
• Yn olaf ond, yn bwysig, rydym yn egniol wrth chwarae’n rhan wrth gefnogi’r ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i’r feirws hwn ag, yn ogystal, wrth gynorthwyo Cymru i addasu wrth ymateb. Sut y byddwn yn parhau i wneud yr hyn sy’n iawn pan fydd pob cyfle newydd yn dod i’r amlwg?

Tra y mae hon yn restr frawychus o faterion i roi sylw iddynt, rydym, yn barod, gryn dipyn o’r ffordd ymlaen at ganfod datrysiadau i nifer ohonynt.

Amseru sy’n parhau’n aneglur. Nid ydym yn gwybod pa bryd y byddwn yn gallu symud ymlaen at y datrysiadau hynny fel y mae cwrs y feirws yn parhau’n ansicr, ond yr hyn sydd yn sicr yw fod gennym gynlluniau penodol mewn lle i’w defnyddio pa bryd, ac ym mha le y bydd eu hangen.

Bydd dod allan o’r cload yn gyfle i ni fel busnes ag hefyd, yn fygythiad i’n ffordd sefydlog o weithio, o gario ymlaen a ffynu. Rhaid yw i’n meddylfryd fod yn bendant ar gymryd y cyfle a gynigir i sicrhau newid parhaol a budd tymor hir i rygbi Cymreig a’i deulu estynedig a theyrngar.

I’n tîm ni yma yn URC, rydym yn dechrau ffurfio ffordd o gael ein hunain yn ôl i drefn yn gydnerth ag i ddiffinio stratagaethau unigol ag adrannol i gyfarfod y ‘normalrwydd newydd’ unwaith y bydd y ffordd ymalen yn dod yn glir.

Beth bynnag yw’r rôl y bu i chwi ei chymryd er cynorthwyo rygbi Cymreig i barhau’n ystod y cyfnod hwn o bwysedd mawr, boed hynny’n derbyn y cynllun ‘furlough’ angenrheidiol gyda gras neu wynebu’r heriau o gyfrifoldebau ehangach ac arferion gweithio unigryw a gwahanol, rydym bob amser wedi bod yn hyn gyda’n gilydd a byddwn yn parhau felly ymhell i’r dyfodol gydag agosatrwydd a chydweithio’n gryfder allweddol inni.

Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips
PW, URC

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert