Neidio i'r prif gynnwys

Cymry Cymraeg: Llion Jones

Cymry Cymraeg: Llion Jones

“Mae’n gyfnod rhyfedd iawn, a phob dim wedi dod i stop.”

Rhannu:

Yn sicr, mae pandemig y Covid-19 wedi cael dylanwad aruthrol ar y byd chwaraeon. O’r meysydd rhyngwladol i’r caeau yn ein trefi a’n pentrefi lleiaf.

Mae pawb wedi gorfod addasu, a mae hynny yn sicr yn wir am waith Llion Jones o Glwb Rygbi Nant Conwy.

Ers dwy flynedd bellach mae Llion wedi gweithio fel Swyddog Rygbi dros Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol Creuddyn a Chlwb Rygbi Nant Conwy.

Ond gyda rygbi wedi dod i stop am y tro, mae Llion, 24 mlwydd oed, wedi rhoi ei ben i lawr a darganfod ffyrdd eraill o gyfrannu yn bositif i’w gymuned, fel mae’n egluro: “Mae fy rôl i wedi newid rhywfaint erbyn hyn. Tydw’i ddim yn swyddog rygbi ond yn swyddog cymunedol.

“‘Da ni wedi gosod rhwydwaith cymunedol i’r henoed a phobl fregus yn yr ardal, a mae ‘na set-up lle mae pobl yn fy ffonio i, a mae tîm ohonom ni’n helpu i ddosbarthu meddygyniaeth, neu’n mynd i siopa i’r bobl hynny sydd angen help llaw.

“Mae’n dangos y rôl y mae’r clwb rygbi yn ei chwarae yn y gymuned leol.

“Dwi hefyd wedi bod yn gosod heriau i’r plant er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli cysylltiad hefo rygbi. ‘Da ni’n gyrru fideos sgiliau i’n gilydd a mae’n cadw pawb yn ymwybodol eu bod nhw’n gallu parhau i weithio ar ei sgiliau rygbi o adref.

“Mae’n sialens ar adegau, ond ‘da ni’n gwneud ein gorau i gadw pethau i fynd ar hyn o bryd, a ffordd dda o wneud hynny ydi trwy gynnal gwahanol gystadlaethau, a ‘da ni wedi bod yn defnyddio apps fel Strava i wneud hynny. Mae wedi bod yn hwyl!”

Fel clwb, mae Nant Conwy wedi mwynhau cryn dipyn o lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal ag ennill Cynghrair 1 y Gogledd yn 2018, fe wnaeth y tîm cyntaf gyrraedd rownd derfynol y Plat Cenedlaethol.

Er mai colli i Frynmawr oedd eu hanes yn Stadiwm y Principality, mae Llion wedi gweld fod dylanwad llwyddiant y clwb wedi ysbrydoli pobl ifanc yr ardal i ymuno a chymryd rhan.

“Dros y chwech neu saith mlynedd diwethaf, mae’r clwb wedi parhau i dyfu a mae’r llwyddiant yn amlwg wedi helpu.

“Mae adran iau y clwb yn enfawr ar y funud, a mae hynny oherwydd y llwyddiant ar y cae, ac yn ganlyniad i’r hyn y mae’r clwb cyfan yn ceisio’i gyflawni.

“Mae’n glwb sydd yn chwarae rôl bwysig yn y gymuned, yn ogystal â’r ysgol leol, a mae nhw i gyd yn gysylltiedig efo’i gilydd.

“Yn ogystal â chynnal gemau, ‘da ni wedi gweld y clwb a’r caeau yn cynnal gwyliau cerddorol ac ati dros yr haf, a mae ganddon ni glybiau eraill fel y Clwb Seiclo a’r Clwb Rhedeg sy’n defnyddio ei hadnoddau. Mae lot o bethau yn mynd ymlaen.”

Yn ystod yr wythnos, mae Llion yn rhannu ei amser rhwng Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn a nifer o ysgolion cynradd yr ardal, ac ar y penwythnosau mae o hefyd yn chwarau i dimau’r clwb rygbi.

Cyn cychwyn ar y swydd hon, roedd Llion yn rhan o dîm yr Urdd, oedd wedi eu lleoli yng Ngwersyll Glan-llyn, Y Bala.

Roedd y profiad hwnnw wedi ei baratoi ar gyfer rôl gyda Undeb Rygbi Cymru, a mae’n ymfalchio yn y ffaith ei fod yn cael ymarfer ei grefft trwy’r Gymraeg.

“Oeddwn i’n gweithio i’r Urdd am bedair blynedd cyn cael y swydd yma, ac wedi fy lleoli yn Y Bala,” meddai Llion.

“Y person oedd yn y rôl yma cyn fi oedd hyfforddwr tîm cyntaf Nant Conwy. Roedd o’n ymddeol felly nes i neidio ar y cyfle, a dwi wedi bod yma ers dwy flynedd bellach.

“Roedd yr Urdd yn blatfform da i helpu fi i ddod mewn i’r swydd yma. Mae’r profiad yna o gynnal gweithgareddau efo plant yn rhan o fy swydd i rwan hefyd a mae pob sesiwn a gwers yn gynhwysol a dwi’n meddwl fod yr Urdd wedi helpu fi efo hynny.

“Mae rhyw 80 y cant o aelodau’r clwb yn siarad Cymraeg siwr o fod, ac er fod Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol ddwyieithog yn swyddogol, mae ‘na ganran uchel o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

“Cymraeg ydi fy iaith gyntaf i a dwi’n gwneud lot o’r gwersi a’r sesiynnau hyfforddi trwy’r Gymraeg.

“Mae’n ardal wledig gyda lot o ffermydd, a Chymraeg ydi iaith gyntaf y clwb a’r ardal. Mae’n rhan o hunaniaeth y clwb.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert