Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 13/05/20

Diweddariad Statws URC 13/05/20

02.05.20 - Sheep are allowed onto the pitch at Brecon rugby club to keep the grass short while COVID-19 Coronavirus stops sport during the pandemic.

Ein huchelgais dywededig ar ddechrau’r creisis hwn oedd dod a’n holl glybiau gyda ni ag i gyfarfod pawb eto ar yr ochr arall.

Bwriadwn gyfrif yr un nifer o glybiau allan, pan fydd y tymor yn ail-ddechrau unwaith eto, ag y bu inni gyfrif i mewn ar ddiwedd Mawrth – pa bryd y cymerwyd y penderfyniad i ohirio chwarae am gyfnod amhenodol ar sail cyngor y llywodraeth – ac rydym yn datblygu’n dda.

Trwy ein grŵp gwaith Covid-19, osodwyd i fyny er mwyn edrych ar yr ochr berfformio a’r ochr gymunedol o’m gȇm, rydym yn creu set o bwyntiau o arweiniad, yn seiliedig ar, gyda linc i, ac yn symud yn gyfochrog ȃ phwyntiau arweiniaid y llywodraeth.

Bydd ein harweiniad yn gorchuddio holl agweddau o’r dychweliad i chwarae a ddisgwylir – o ddiogelwch a hylendid hyd at arferion chwaraewyr, cyfuno cefnogwyr a rheolaeth clybiau.

Gobeithiwn fod y clybiau sy’n aelodau wedi sylwi ein bod wedi cynyddu’n arferion cyfathrebu, wrth ysgrifennu mewn manylder ddwywaith yr wythnos, ond, yn ogystal, yn gofyn i’n rheolwyr rhanbarthol i geisio cael cymaint ȃ phosibl o gyswllt uniongyrchol, gan mai dyma’r math o berthynas a fydd yn hollol angenrheidiol i’n cynaldwyedd i’r dyfodol.

Yr ydym hefyd erbyn hyn wedi derbyn ymatebion gan dros 200 o glybiau i arolwg sy’n targedu cynaladwyedd yn uniongyrchol, yn ystod y creisis cyfredol.

Mae’r wybodaeth yma’n hollbwysig inni fel y parhawn i lunio cynlluniau i ddychwelyd i rygbi. Cynorthwya’r wybodaeth yr ydym wedi ei dderbyn gan ein clybiau inni sicrhau eu bod yn dod allan gyda ni, yn gyfan, i fyd ôl y cload mawr, pan fo’r amser yn gywir, a’u bod yn dod allan yn barod i ddychwelyd i safleoedd yng nghalonnau cymunedau drwy Gymru gyfan.

Mae ychwaneg o wybodaeth i ddod am yr arolwg yma a’i botensial ar gyfer cyllid pellach, ond, digon yw dywedyd fod y math hyn o gasglu gwybodaeth a’n hymateb cyfunol yn siwr o barhau i fod o fudd yn y tymor hir ag yn rhoi cyfleon anferth inni greu clwb sydd gydag amgylchedd sefydlog yn ariannol i’r dyfodol.

Ym Mawrth, bu inni drosglwyddo taliad o £1,000 yr un i bob clwb allan o gronfa caledi a gynlluniwyd i gynorthwyo ymladd yn erbyn effeithiau’r creisis presennol. Roedd hyn yn ychwanegol at gyllido penodol i glybiau a effeithiwyd gan faterion llifogydd Storm Dennis, a’n taliad awdit chwarterol rheolaidd i glybiau a wnaethpwyd ar ddiwedd Ebrill fel sy’n arferol.

O wybod am y taliadau hyn ac am y gefnogaeth allanol gan Lywodraeth Cymru, awgryma’r arolwg y bydd y mwyafrif o’n clybiau’n parhau i fod yn gynaliadwy am leiafswm o chwe mis.

Mae hyn yn newyddion ardderchog o wybod am y sefyllfa gyfredol, ond, rydym yn gwybod mai nid dyma fyddai’r achos os na fuasai’r gefnogaeth hyn ar gael, ac rydym hefyd yn pryderu fod rhai clybiau’n parhau hwyrach i syrthio drwy’r craciau yn nhermau cael mynediad at gyllido gan Lywodraeth Cymru.

Tra’r effeithiwyd yn fawr ar nifer o glybiau gan Storm Dennis a’r Pandemig, Covid-19, i rai, nid yw eu sefyllfa ariannol yn codi’n gyfangwbl o’r sefyllfaoedd hyn.

Adroddodd rhai clybiau mai digon o arian wrth gefn ar gyfer mis neu ddau oedd ar gael iddynt yn Ebrill 2020 ac awgryma hyn glwb sy’n byw uwchben yr hyn sydd ganddo.

Ni wnaf y pwynt hwn i feirniadu unigolion na, hyd yn oed, glybiau neilltuol, ond, er mwyn i bwyntio’r cyfle inni oll weithio gyda’n gilydd er sicrhau fod ein modelau ariannol drwy’n gȇm yn rhai cynaliwadwy ac yn addas i’r pwrpas.

Gwnawn hyn gyda’n gilydd, yn union fel y byddwn yn dod allan o’r sefyllfa bresennol fel un. Ni yw Undeb Rygbi Cymru, undeb o glybiau, ac rydym yma i chwi fel yr ydych chwi yma i ni.

Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd URC

COVID-19: Arweiniad Clybiau & Webinarau
Yn dilyn adolygiad o’r Arolwg Effaith Clybiau a dderbyniwyd hyd yn hyn, fel ag y crybwyllwyd uchod, defnyddir yr awgrymiadau a ddarparwyd gan glybiau i gynnal cyfres o webinarau’n ystod yr ywthnosau nesaf.
Fel y gallwn ddarparu’r gefnogaeth mwyaf addas, os gwelwch yn dda, a fedrwch gwblhau ac anfon yr un fer o: https://app.doopoll.co/poll/jthrG2Q7CsT45Ch88

Newid rheol rygbi
Cyhoeddodd Cyngor Rygbi’r Byd na fydd yn bosibl o hyn ymlaen gan ddechrau’n syth, i sgorio cais drwy dirio’r bȇl yn erbyn gwarchodwr postyn onibai fod y bȇl yn cyffwrdd y llinell gôl.  Yn ei gyfarfod heddiw, cefnogodd Cyngor Rygbi’r Byd addasiad bychan i Reol 8.2 sy’n berthnasol i sgorio’n erbyn gwaelod postyn.
Cefnogwyd yr addasiad bychan i Reol 8.2 gan Gyngor Rygbi’r Byd yn ystod ei gyfarfod arbennig a gynhaliwyd drwy gynhadledd-tele heddiw ac yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Rygbi’r ffederasiwn rhyngwladol  a’r Grŵp Adolygu Rheolau arbenigol.
Gyda chwaraewyr amddiffynol ar hyn o bryd, yn gyfreithiol, yn gorfod aros y tu ôl i’r linell gôl, a chyda siap a maint gwarchodwyr pyst yn cynyddu am resymau llȇs, mae’n fwyfwy anodd i dimau amddiffyn yr ardal yma’n gyfreithlon.
Mewn rhai achosion eithafol, codwyd, neu symudwyd gwarchodwyr pyst gan dimau sy’n amddiffyn, gan adael y pyst yn agored a heb warchodaeth, ac felly, yn cynyddu’r siawns o anaf.
Bydd y rheol yn awry n darllen fel hyn: Ni fydd y gwarchodwr post bellach yn ymestyniad o’r linell gôl ac felly, bydd Rheol 8.2 (a) y darllen: Sgorir cais pan fydd y chwaraewr sy’n ymosod a) y cyntaf i dirio’r bȇl tu ôl i linell gôl y gwrthwynebwyr.
Mwy: www.world.rugby/news/569171

Cyngor cyllidol

CRONFA LLYWODRAETH CYMRU
Tra y seibiwyd y Gronfa Gwytnwch Economaidd, er mwyn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru i ystyried pa gymorth pellach sydd gan fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol eu hangen, nis gwaharddwyd eto a gobeithir y bydd yn cael ei hail-lawnsio’n y dyfodol agos.
Argymhellir fod clybiau’n parhau i fonitro safwe Busnesau Cymru am ddiweddariadau pellach:businesswales.gov.wales/

CEFNOGAETH YNG NGHYMRU I ELUSENNAU BYCHAN
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorthdal cefnogaeth busnes o £10,000 ar gyfer elusennau bychan o mewn y sector adwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd y pecyn newydd gwerth £26 miliwn yn cefnogi 2,600 eiddo ychwanegol gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai. Cynnwys hyn leoliadau chwaraeon a chanolfannau cymunedol.
Yr ydym yn disgwyl am fanylion ar gymhwysedd a sut i ymgeisio am y Gronfa ac felly, eto, os gwelwch yn dda, bydd angen monitro’r safwe Busnesau Cymru am hyn.

BENTHYCIAD BOWNSIO’N ÔL
Cynlluniwyd y Cynllun Benthyciad Bownsio’n Ôl er mwyn galluogi busnesau i gael mynediad at gyllid yn gyflymach yn ystod lledaeniad yr haint coronafeirws.
Cefnoga’r cynllun fusnes i fenthyca rhwng £2,000ag i fyny at 25% o’i drosiant,gyda’r benthyciad uchaf fydd ar gael yn £50,000, i’w ad-dalu dros gyfnod o chwe blynedd.
Bydd y Llywodraeth yn gofalu am y taliadau llôg tros y 12 mis cyntaf o’r nbenthyciad a gall yr ymgeisydd drefnu’n ogystal i dalu’r gweddill yn gynharach na’r tymor o chwe blynedd, heb dderbyn cais ffi am wneuthur hynny.
Manylion pellach: www.gov.uk/guidance/apply-for-a-coronavirus-bounce-back-loan
Hefyd, C’auGA: www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/coronavirus-business-interruption-loan-schemes/bounce-back-loans/faqs-for-small-businesses/

Dylai clybiau sydd gyda chwestiynau penodol yn berthnasol i gyllid neu unrhyw destun arall gysylltu gyda Llinell Gymorth URC ‘clubdevelopment@wru.wales

Dyfarnwyr
Os na fu ichwi diwnio i mewn yn barod, cymerwch y cyfle yma, os gwelwch yn dda, i wrando ar gyfraniad hir gan reolwr cenedlaethol Cymru ar berfformiad dyfarnwyr, Paul Adams, ar bodcast URC yr wythnos hon.
Felly, pa effaith y mae’r cload mawr yn ei gael ar ddyfarnwyr; roedd rhai i fod i deithio’r byd yr haf hwn ar gyfer cyfres ryngwladol i’r Gemau Olympaidd. Trafoda Paul yr effaith ar ddyfarnwyr cyfredol a datblygiad i’r dyfodol.
https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-19-2020/

Newyddion o rygbi Cymreig

MAE SIWAN YN GWYBOD BETH MAE EISIAU
Mae capten Merched Cymru, Siwan Lillicrap, yn benderfynol i wneud y gorau o’r cyfnod ‘cload’.
“Our eyes are on the prize,” meddai’r chwaraewraig rheng-ôl gyda 34cap.
“We’re just 15 months out from the Rugby World Cup in New Zealand so it’s vital we keep focussed and try to make gains during this time.
“It can be tough training on your own but we have weekly programmes to follow, we’ve got nutritional support and we’ve used the time to learn and develop our understanding of what we do so it’s been good from that point of view.
“It would be easy to sit back at the moment but if we do, others will make those gains on us. That provides an added motivation to help complete some savage sessions at times.”
“It’s important to stay on top of training as well as other commitments such as work and family.”
Fel nifer o deuluoedd, effeithiwyd ar deulu Siwan agn y Coronafeirws.
“My mother and her partner, an NHS worker, had to completely isolate for two weeks after he fell ill. Luckily, he’s made a full recovery but I stepped in to help care for my grandparents,”
“It’s been nice seeing them more often when taking up meals and supplies and have a chat through the window or door. I also set them up on Facetime so the whole family can stay in touch.”
Mwy: www.wru.wales/2020/05/siwan-eyes-on-the-prize-and-keep-talking/


JOSH YN TROI’N HYFFORDDWR
Bydd Josh Turnbull yn cyfuno’i ddyletswyddau chwarae gyda Gleision Caerdydd gyda hyfforddi’r blaenwyr yng nghlwb Uwch Gynghrair Cymru, Cwiniaid Caerfyrddin y tymor nesaf.
Cymryd trosodd y bydd y gŵr rheng-ôl rhyngwladol Cymru, fel hyfforddwr y blaenwyr yn dilyn y penderfyniad gan Emyr Phillips i sefyll i lawr fel prif hyfforddwr wedi dau dymor mewn gofal ar Barc Caerfyrddin.
Nid yw Turnbull yn newyddian i hyfforddi wedi gweithio gyda chlwb y Bencampwriaeth Gymreig, Castell Newydd Emlyn, lle y dechreuodd ei yrfa, y tymor diwethaf.
Bydd yn ymuno gyda Phrif Hyfforddwr newydd, Craig Evans, yn rhengoedd hyfforddi’r Cwiniaid ar gyfer ymgyrch 2020-21.
Ychwaneg yma: community.wru.wales/2020/05/11/turnbull-set-for-quins-coaching-role/

SIOE DAF A DICO
Bydd selogion Pontypridd, Dafydd Lockyer a Chris Dicomidis yn parhau i ychwanegu’u cyfoeth o brofiad i garfan Heol Sardis y tymor nesaf wedi iddynt arwyddo ymlaen ar gyfer 12 mis arall o chwarae’n Uwch-Gynghrair Grŵp Indigo.
Rhyngddynt, mae’r cyn gapiaid Dan 21 Cymru wedi chwarae 739 o gemau i ‘Ponty’ tros y 16 tymor diwethaf.
Bydd Lockyer yn 35 y mis nesaf, tra bydd chwaraewr rhyngwladol Cyprus, Dicomidis yn cyrraedd yr un oedran ym Medi.
Mwy: community.wru.wales/2020/05/08/daf-and-dico-sign-up-for-more-at-sardis-road/

GWELD ENFYSIAU
Gan aros gyda ‘Ponty’, mae’r clwb wedi bod yn gweithio’n galed tu ôl i’r llenni yn yr ‘house of pain’ er mwyn lawnsio cit newydd yn barod ac mewn gobaith am ymgyrch 2020/21  – a hwyrach iddynt ddal mŵd y genedl.
Yng ngholeuni’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan ein GIG Cymreig, bu i’r clwb gynhyrchu cit gydag ond ychydig ar gael mewn teyrnged i’r GIG – un a ddefnyddir am y tymor cyfan.
Mae’r crys newydd yn gynllun eiconig Clwb Rygbi Pontypridd sy’n cael ei adnabod ar amrantiad drwy’r holl gymuned rygbi oherwydd buddugoliaeth epig y Clwb yng Nghwpan Cymru tros Gastell Nedd yn 1996, ond mae gan y cit thema o enfys GIG amlwg iawn i adlewyrchu cefnogaeth i holl weithwyr iechyd rheng flaen.
Yn dilyn lawnsiad y cit, bydd cefnogaeth i’r Gwasnaeth Iechyd yn parhau gan fod y clwb wedi dewis GIG Cymru ac, yn benodol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fel ei elusen ar gyfer tymor 20/21.
Canfyddwch fwy a gweler y cit trosoch eich hunan yma: www.ponty.net/ponty-launch-rainbow-kit-in-support-of-nhs/

RGC ag i Fyny

Yr wythnos hon, bu i gyn chwaraewr rheng – ôl RGC, Sean Lonsdale, lofnodi’i ddyfodol tymor hir i arweinwyr Uwch-Gynghrair Gallagher, Exeter Chiefs ac mae’r chwarewr 22 oedsy’n gymwys i Gymru’n rhan o garfan sydd eisoes yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Tomas Francis ag Alex Cuthbert, yn ogystal ȃ chyn gefnwr y Dreigiau, Phil Dollman.
Ymddangosodd Lonsdale 31 gwaith i’r Chiefs wedi iddo ymuno o dîm Gogledd Cymru yn 2018, ond mae’r blaenwr, anwyd ym Manceinion, yn un o nifer o chwaraewyr sydd wedi graddio o RGC gan ennill cytundebau proffesiynol.
Gadawodd James Lang Fae Colwyn i ymuno gyda Harlequins ag aeth ymlaen i chwarae tros yr Alban, tra mae rhif 10 arall, Jacob Botica, gyda’r Dreigiau ar hyn o bryd.
Yn RGC hefyd y bu i selogydd rheng-ôl y Gweilch dorri’i ddannedd yn ogystal, fel y gwnaeth prop Dan 20 Cymru, Sam Wainwright, a ymunodd gyda phencampwyr Ewrop, y Saraseniaid , y tymor hwn.
Darllenwch fwy yma: community.wru.wales/2020/05/11/ex-gog-lonsdale-signs-on-long-term-at-exeter/

YR ADDAWOL MANON WEDI’I LLORIO AM YN AWR OND YN CADW’N BRYSUR
Edrych y dyfodol yn ddisglair i Manon Johnes, 19 oed o Gaerdydd, ond bu iddi eisoes gyrraedd llawer iawn o rywun mor ifanc.
Ddim yn unig bu iddi ennill ei chap cyntaf yn 17 oed yn y fuddugoliaeth yn erbyn De’r Affrig ar ddiwedd 2018, ond, yn awr mae ganddi gwrs gradd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen i edrych ymalen ato.
Bwriad cydnabyddiaeth ryngwladol fel glaslances a chofrestriad ym mhrifysgol gyda’r mwyaf llewyrchus yn y byd oedd bod yn ddalwyr llyfrau i flwyddyn gap o deithio, ond nid yw wedi gweithio allan yn union felly.
The travelling won’t be happening any more due to the lockdown, but I’m keeping myself busy,” meddai’r flaenasgellwraig ochr agored lewyrchus.

A gwnaeth hynny trwy weithio fel athrawes gynorthwyol yn Ysgol Gwaelod y Garth fymryn y tu allan i’r ddinas. Dywedodd fod cadw plant i weithwyr allweddol yn hapus wedi bod yn hwyl.
Dechreuodd y cyfan iddi fel yr unig ferch yn y tîm yn CRICC, adran iau Cwiniaid Caerdydd, y buasai’n mynd ymlaen i’w cynrychioli hefyd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.wru.wales/article/holistic-approach-working-well-for-young-star-manon/

Codi Arian yn parhau…

PENTYRCH I TORONTO I TOM
Roedd chwaraewyr hŷn yng Nghlwb Rygbi Pentyrch i fod i hedfan i Toronto ar y 27ain Mai am eu taith rygbi.
Gan fod hyn wedi’i ganslo, oherwydd y pandemig, bu iddynt benderfynu annog pob grŵp oedran yn y clwb i seiclo’r pellter rhwng Pentyrch a Toronto (3,428 milltir) er budd un o elusennau mwyaf hodffus y clwb, Tom Maynard Trust.
Roedd y daith feics i’w chwblhau o fewn wythnos a gwnaethpwyd hynny, gyda £1791.00 wedi’i godi cyn belled.
Teithiwyd pellter o 4,264 milltir, 836 milltir yn fwy nag oedd angen, sy’n chwarter y siwrnai’n ôl ag ymlaen. Yn awr, mae meddyliau’n ffocysu ar, o bosibl, orffen y daith gartref. Ddim i gael ei oresgyn, bu i Lywydd y Clwb, Huw Llywelyn Davies, hefyd gymryd rhan yn yr her 2.6 pan fu iddo seiclo ychydig tros 26 miltir i godi arian ar gyfer Ysbyty Felindre. Ar hyn o bryd, mae wedi derbyn cyfraniadau syn cyfansymu i £3,786.

ARDAL F YN CAMU I FYNY
Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd sy’n cael budd yn ystod yr amseroedd blin hyn,allan  o weithgareddau Undeb Rygbi Gorllewin Cymru, sydd wedi cyfrannu £1,000 at yr achos da hwn.
Mae aelod oes o URGC ac ysgrifennydd Ardal F, Dennis Jones, wedi nodi wrthym yn ogystal am gyfraniad pellach o £500 gan yr Ardal i Unedau Gofal Dwys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ag Ysbyty Treforus, Abertawe – tystiolaeth bellach o’r hyn y mae’n cymuned rygbi’n parhau i’w wneud er ceisio cynorthwyo’n GIG ffantastig.

DEG UCHAF I GYDWELI
Pob lwc i chwaraewyr a chyn-chwaraewyr clwb rygbi Cydweli sydd yn ymgymryd ȃ her deg marathon a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn yma, 16eg Mai.
Codir arian at Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda fel y clocir 260 milltir o gwmpas y meysydd rygbi yng Nghydweliy, gydag ymbellhau cymdeithasol yn ystod yr her, yn amlwg yn brif beth.

CLYWSOCH EF YMA GYNTAF
Stori a gyfeiriwyd ati gyntaf yn Niweddariad Statws URC a gyhoeddwyd ar 29/04/20, wedi dal sylw a dychymyg y cyfryngau cenedlaethol, wedi cyrraedd sawl man a, hyd yn oed, yn cael sylw ar Good Morning Britain rai dyddiau’n ôl.
Mae Clwb Rygbi Aberhonddu wedi ‘codi’r bȇȇl’ yn iawn, drwy sicrhau tros £8,500 i GIG Cymru ac, yn awr, wedi gosod targed newydd o £10,000 tra maent yn gwahodd noddwyr i ‘enwi’r famog’ – dewis allan o ddiadell o ddefaid sy’n awr yn byw ar Barc de Pugh.
Meddyliom ni y buasem yn mynd a’r stori drwy gylch llawn ag anfon person Teledu URC a ffefryn pawb fel ffrind y gȇm gymunedol, Phil Steele, i Aberhondduer cylchu’r cyfan i fyny; gweler y fideo – gydag ymddangosiad cameo gan Andy Powell – yma: twitter.com/i/status/1259867560079773697
Ac nid yw’n rhy hwyr i lenwi ffurflen nawdd yma: www.breconrfc.co.uk/web/newsitem.aspx?n=2a090a58-8de8-427d-abce-fa3f0df0f2b2

Yn olaf, os gwelwch yn dda, gweler isod neges o gefnogaeth gan EUB Dug Caergrawnt a gyrhaeddodd yr wythnos hon.

‘Ysgrifennaf i ddynodi fy nghefnogaeth a’m diolch i holl staff a chwaraewyr yn Undeb Rygbi Cymru.
Nid oes amheuaeth fod yr wythnosau diweddar yma wedi bod yn rhai pryderus a chythryblus, fel y mae gemau a thwrnamentau’n cael eu canslo ac rydych i gyd yn  wynebu pwysau ychwanegol wrth geisio jyglo bywyd personol ag un proffesiynol.
Fodd bynnag, rwyf yn ymwybodol o’r ysbryd ardderchog sy’n rhedeg drwy gymuned Rygbi Cymreig, ac anogaf bawb i barhau i gymryd yr amser i gefnogi ei gilydd yn y ffordd yr ydych wedi bod yn ei wneud.
Gobeithiaf na fydd yn rhy hir cyn y gelwlch fod yn ôl yn ymwneud ȃ’r gȇm ond, yn y cyfamser, daw hyn gyda fy nymuniadau gorau am iechyd da i chwi a’ch teuluoedd oll tros yr wythnosau sydd ar ddod.’

Rhannu:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert