Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 20/05/20

Diweddariad Statws URC 20/05/20

Marianne Økland

“Bu i gynhadledd fideo gyda charfan a hyfforddwyr ein merched perfformiad uchel fy nghadael gydag argraff uchel gydag ymroddiad a ffocws y grŵp cyfan i uwch-hau’r cyfleon a gyflwynir gan y sefyllfa gloi bresennol gan anwybyddu’r trallodion amlwg.

Rhannu:

Mae’r chwaraewyr wedi parhau i wthio’u cyflyrau adatblygiad eu sgiliau ac mae’r grŵp yn benderfynol ac yn ddi-symud o un gwir gwrs, i weithredu’r cynllun a’i gael mewn lle i adeiladau ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf gan fod yn ‘barod i fynd’ unwaith y bydd y cyfyngiadau’n cael eu codi.

Mae strategaeth Undeb Rygbi Cymru i wella’n gynyddol a newid yn sylweddol yn yr adran hon, drwy fuddsoddiad amser, arian ac adnoddau wedi’u targedu’n parhau heb newid gan fod mewn llinell gyda breuddwydion Rygbi’r Byd yn yr ardal yma.

Merched sy’n gyfrifol am 25% o boblogaeth chwarae yng nghȇm y byd a dylid adlewyrchu hyn yn holl ardaloedd y gȇm. Rydym eisiau parhau i gynorthwyo gyrru’r twf cymryd rhan ac, yn ogystal, i gael y gȇm yn ôl ymlaen mor fuan ȃ phosibl yn yr ardal hon cymaint ag unrhyw ardal.

Rydym yn ymwybodol y bydd 2021 yn flwyddyn fawr i gȇm y merched, gyda’r gemau Olympaidd wedi’u gohirio tan yr haf hwnnw, ni fydd ond saith wythnos rhwng twrnament Saith pob ochr Olympaidd y merched a Chwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd, gyda’r rhain yn ddigwyddiadau o bwys mawr ac yn gosod cyfleon arbennig i gynyddu proffil rygbi merched gam arall.

Buaswn, yn ogystal, yn hoffi ychwanegu fy nghroeso i Marianne Økland sy’n ymuno gyda’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wrth ochr Amanda Blanc fel ein hail Gyfarwyddwr annibynnol sydd ddim yn Swyddog gweithredol. Rwyf yn gwybod fod Marianne yn frwdfrydig am rygbi a gȇm y merched yn benodol. Edrychwn ymlaen at yr arweinyddiaeth ychwanegol y bydd yn dod gyda hi i’r elfen bwysig o raglen BRP.

Hefyd, buom yn brysur yn gweithio ar ddewisiadau cyllido mewn argyfwng posibl ar gyfer clybiau. Fel y bu inni ddweud ar y dechrau, serch na fedrir byth warantu, ein bwriad yw gwneud y cyfan ag y gallwn i sicrhau y bydd pob clwb yn dod allan yn iawn ar ochr arall y creisis hwn.

Ar y nodyn yna, rydym yn gwerthfawrogi’r holl glybiau hynny sydd wedi anfon ymatebion i’r arolwg i mewn er mwyn inni ddeall a maintioli’r problemau serch fod yna o gwmpas 100 o glybiau yr ydym eisiau clywed ganddynt os gwelwch yn dda?

Buasem, yn ogystal, yn hoffi rhoi credyd i’r clybiau sydd wedi llwyddo i anfon ceisiadau ar gyfer y cynlluniau cyllido amrywiol gan wahanol lywodraethau, cenedlaethol a lleol, ag sydd, neu’n mynd i weld y budd ariannol o’r cynlluniau hyn.

Yn amlwg, mae’r ardal yma’n parhau i ddatblygu ac rydym yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda’n clybiau er gwneud y gorau o’r cyfleon sydd ar gael.

Mae gennym gyfarfod o Fwrdd URC ar y 10fed Mehefin lle y byddwn yn adolygu’r canfyddiadau o’r arolygon ac yn asesu beth, os rhywfaint, o gyfleon ychwanegol y bydd raid inni eu darparu fel cyfleon am gyllid pellach.

Yn ngholeuni tryloywder, bydd yr adolygiad Bwrdd yn debygol o ddilyn y ffurf dilynol:

  • Asesiad o sefyllfa ariannol ddiweddaraf URC fel ag i benderfynu pa, os unrhywrai, o gronfeydd argyfwng y gellir eu rhoi ar gael
  • Adolygiad o ddata arolygon clwb sydd wedi’i ddychwelyd i gynorthwyo i adnabod yr hyn y mae clybiau wir ei angen fel cymorth a sut y gellir dosrannu’r cronfeydd hynny
  • Rhoddir blaenoriaeth i glybiau sydd wedi cymryd pob mesur rhesymol i wella’u hunain
  • Byddwn hefyd yn edrych, lle bydd hynny’n bosibl, i ddyrannu cyllid i glybiau sydd gyda chynlluniau mewn lle i warchod dyfodol cynaliadwy

Yn amlwg, parha’r dyfodol i fod yn ansicr a gydag ond ychydig o welediad o ba bryd y bydd bywyd yn dychwelyd i normal newydd. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn gwneud y cyfan ag y gallwn i gael cronfeydd ar gael ac i wneud ein gorau i gyllido’n ôl yr angen i’r ardaloedd lle y caiff yr effaith mwyaf.

Yn ychwanegol, byddwn yn parhau i fonitro pecynnau cefnogi llywodraeth ag yn parhau i ddarparu cyngor a chefnogaeth drwy’r amser.

Yn y cyfamser, os gwelwch yn dda, arhoswch yn ddiogel.

Martyn Phillips
Prif Weithredwr URC

  1. SUT I OROESI’R CREISIS

Am asesiad manwl a rhannu cyflawn o sut y mae Rygbi Cymreig yn ymdrin ȃ’r creisis coronfeirws cyfredol, tiwniwch i mewn i bodcast Rheolwr Datblygiad Clwb Cenedlaethol URC, Chris Munro, ar bodcast diweddaraf URC: https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-20-2020/

Trafoda Chris y canlyniadau arolwg sy’n rhoi gwelediad mewnol hynod ddefnyddiol, cyllido a sut y dosrennir ef (rhyw £1.9m wedi cael ei rannu gan 126 clwb drwy URC ag wedi’i baratoi gan Lywodraeth Cymru ac mae £420k pellach yn parhau i fod ar gael (os gwelwch yn dda, cwblhewch yr ‘arolwg effaith clwb’ anfonwyd at eich ysgrifennydd clwb, dim ond rhyw 50 clwb sydd heb wneud cyn belled ond, rydym yn awyddus i glywed gan bawb). y strategaeth ‘clwb y dyfodol’ sy’n parhau’n ddi-dor a’r camau y mae’r Undeb yn parhau i’w cymryd er sicrhau fod clybiau rygbi ledled Cymru’n parhau yng nghalon eu cymunedau ymhellach na’r creisis hwn.

  1. ØKLAND YN YMUNO GYDA BPR

Bu i Fwrdd Proffesiynol Rygbi (PRB) rygbi Cymreig benodi cyfarfwyddwr newydd sy’n annibynnol ond ddim yn swyddog gweithredol, Marianne Økland, sydd yn ffigwr hŷn yn y sector ariannol.

Mae Økland yn gyfarwyddwr sydd ddim yn swyddog gweithredol ac yn cario portfolio gyda phrofiad arweinyddiaeth rhyngwladol o fyrddau a leolir mewn chwe gwlad gwahanol, yn fwyaf arbennig mewn bancio a morio.

Ymuna gyda’r cadeirydd sydd newydd ei phenodi, Amanda Blanc, i gwblhau y criw annibynnol o’r BPR, y corff sydd gyda throsolwg o’r gȇm broffesiynol yng Nghymru ac sydd yn cynnwys, yn ogystal, gynrychiolaeth o Undeb Rygbi Cymru a phob un o’r pedwar tîm rhanbarthol Cymreig.

Ganwyd yn Norwy ac yn raddedig o’r Ysgol Norwyeg mewn Economeg, mae aelod newydd Bwrdd BPR wedi cadeirio ystod lydan o bwyllgorau bwrdd ei hun, gyda ffocws ar reoli risg, awdit a llywodraethiant corfforaethol.

Mae hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith Penguins International RFC, clwb sy’n teithio ac yn ymrwymedig i hybu rygbi a’i werthoedd ar draws y byd ag sydd wedi hyfforddi tros 20,000 o blant, gan fwyaf mewn gwledydd datblygol, ac sy’n tynnu sylw at nifer o chwaraewyr rhyngwladol (cyn a rhai presennol) (yn cynnwys Derek Quinnell, David Pickering ag Alan Phillips) fel cyn chwaraewyr

“We are delighted to welcome on board someone of such calibre and with such a high level of experience, who joins the PRB at this pivotal moment for the future of the game in Wales,” meddai cadeirydd BRP, Amanda Blanc. Darllenwch fwy yma: bit.ly/PRBaddition

  1. RYGBI’R BYD YN LAWNSIO GYRIANT RECRIWTIO AR GYFER HYFFORDDWYR BENYWAIDD

Heddiw, bu i Rygbi’r Byd (RB) lawnsio offeryn cit rygbi newydd (ar gael yma ar www.women.rugby) i gynorthwyo undebau a chymdeithasau rhanbarthol i recriwtio, datblygu a chadw mwy o hyfforddwyr rygbi benywaidd ar bob lefel o’r gȇm.

Fel rhan o gynllun RB i gyflymu datblygiad global merched mewn rygbi 2017-25, pilar craidd yw arweinyddiaeth ddylanwadol ar, ac oddiar y maes, yn cynnwys ardaloedd hyfforddi a dyfarnu, gyda merched, ar hyn o bryd, yn llenwi 25% o boblogaeth chwarae rygbi ar draws y byd.

Yn 2018, canfyddodd adolygiad RB ar statws merched mewn hyfforddi perfformiad uchel, arweiniwyd gan newyddian Neuadd Poblogrwydd Rygbi’r Byd, Carol Isherwood, fod llawer o’r heriau a’r rhwystrau sy’n dylanwadu ar ddiffyg merched mewn safleoedd hyfforddi perfformiad uchel yn gymhleth a rhyng-gysylltiol, ac angen datrysiadau cyfunedig.

“The development of the toolkit was one of the key recommendations in the Carol Isherwood report, with its purpose to assist unions in creating more global diversity in coaching teams and increase the number of women coaching rugby at elite level,” meddai Rheolwr Cyffredinol Rygbi Merched RB, Katie Sadleir.

“It can also act as a ‘cultural change kit’ to create pathways for unions to start understanding their organisational unconscious bias and the steps necessary to make constructive change. The interventions, approaches and innovative ways of working can be applied to the whole game.”

Cadarnhaodd Sadlier fod rygbi Merched yn parhau i fod yn un o’r “top three priorities” i RB, serch fod y pandemig coronafeirws yn gosod straen ar gyllidebau, yn ystod cyfweliad diweddar gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4.

“It is the strategic growth area of the game,” (gydag ymwneud i fyny 28% flwyddyn i flwyddyn), dywedodd.

“We’re pushing normalising women’s rugby on and off the field, I’ve been talking a lot about the impact of Covid and the challenges, and we’re in a really unique situation. 2021 will be an amazing opportunity.”

Darllenwch fwy yma https://www.bbc.co.uk/sport/rugby-union/52689325

HYFFORDDWYR BENYWAIDD CYMRU

Mae ein Rachel Taylor ni – cyn gapten Cymru, prif hyfforddwr Bae Colwyn a hyfforddwr sgiliau Academi Gogledd Cymru (y rôl broffesiynol gyntaf i hyfforddwraig fenywaidd) – yn un o saith hyfforddwr benywaidd elȉt o rygbi saith pob ochr a 15’au sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn Academi Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon Merched ar gyfer Hyfforddwyr Perfformiad Uchel, fel rhan o gynllun peilot mewn partneriaeth gyda Phwyllgor Rhyngwladol yr Olympiad.

Ar y thema hon, bu aelod Bwrdd URC, Liza Burgess, cyn gapten arall i Gymru a newyddian yn Neuadd Enwogrwydd Rygbi’r Byd, wedi bod yn siarad am werth mynd i hyfforddi i ferched. Gwyliwch sawl fideo gyda Liza a Rachel ar y ‘WRU Game Locker Coaches’ Corner’ yma https://www.wrugamelocker.wales/en/resources-and-videos/resources/coaches-corner/

  1. Wythnos ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a chodi arian

Mae’r teulu rygbi wedi arddangos ei ysbryd cymunedol unwaith eto yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Thema’r wythnos yw caredigrwydd – i ni’n hunain yn ogystal ag i eraill a dyna’r hyn a welwn gan glybiau, staff a gwirfoddolwyr yn wythnosol drwy’r gȇm. Os yw yn cadw cysylltiad gyda aelodau bregus o’n cymunedau drwy godi’r ffôn, neu gydlynu ymdrechion codi arian sy’n codi ysbryd pawb sydd ynghlwm yn yr her gorfforol gan ddarparu cefnogaeth sydd ei angen i’r derbynwyr, bu inni weld clybiau rygbi a grwpiau’n dod at ei gilydd yn fwy nag erioed o’r blaen, hyd yn oed, os mai’n rhithiol yw hynny.

Mae rhai clybiau, fel ag yr adroddwyd mewn Diweddariadau diweddar, wedi ymdrechu’n fawr i godi arian, gan roi’r arian yn awr tuag at llesiant meddwl y rhai sydd ei angen fwyaf ar yr adeg yma… cadwch lygad ar ein safweoedd a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ywthnos hon i ddarganfod mwy gan gynnwys rhai ymdrechion mawr, gan swyddog cynhwysiad y Dreigiau, Gareth Sullivan a Jylius Roszkowski o Rygbi Cerdded Pontyclun, er mwyn cadw y rhai sydd fwyaf ar wahȃn yn gynwysedig ac yn cymryd rhan. https://www.wrugamelocker.wales/en/resources-and-videos/resources/coaches-corner/

BYW’N IACH GYDA LLOYD

Tra y mae’r mwyafrif o chwaraewyr rygbi’n ceisio’u gorau i aros mewn cyflwr corfforol da yn ystod y cload, edrych Lloyd Ashley fel y darlun cyfan ac mae wedi lawnsio ei fusnes llesiant ei hun.

Roedd gan loc y Gweilch amser ychwanegol ar ei ddwylo oherwydd y pandemig Covid-19 yh arwain at ohiriad heb derfyn o bob rygbi ac mae’n rhoi’r amser i ddefnydd da.

Mae Ashley wedi lawnsio ‘Living Well with Lloyd Ashley’ – cwmni y gobeithia fydd yn helpu chwaraewyr rygbi a’r cyhoedd yn gyffredinol i edrych ar ôl eu hunain yn well.

Gwybydda’n rhy dda’r doll y gall rygbi proffesiynol ei gymryd, yn feddyliol ac yn gorfforol wedi iddo chwarae mwy na 100 o weithiau i’r Gweilch o’i ymddangosiad cyntaf yn 2011 ac mae’n gweithio’n barod gydag academi’r rhanbarth i gefnogi eu llesiant meddyliol.

Mae hefyd yn cydweithio’n agos gyda Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymreig a gobeithia gymryd ei ddull strwythuredig a darlun mawr i fusnesau ledled Cymru.

Darllenwch fwy yma: www.wru.wales/2020/05/alls-well-with-ospreys-star-ashley/

MILLTIROEDD MEDDWL BARRI

Mae Clwb Rygbi Barri wedi gosod iddynt eu hunain her sydd yn rhannol am godi arian ar gyfer elusen ond, hefyd, yn neilltuol ar gyfer cadw ymarferwyr y clwb ynghlwm gan annog pawb i aros yn iach o lefel mini ac iau drwodd i’r rhai hŷn.

Mae’r clwb, yn rhithiol, yn casglu at ei gilydd mewn timau i rasio ar draws rhywbeth sy’n cyfesur ȃ’r ‘Route 66’ enwog – yr holl chwaraewyr, hyfforddwyr, rhieni a dyfarnwyr yn cadw record o’u cerdded, taith feic neu rediad drwy Strava, cymryd llun sgrin o’r milltiroedd a deithiwyd a llwytho.

Y grŵp – o mini, iau neu hŷn – sy’n cyflawni’r 3,940km gyntaf, drwy adio yr holl filltiroedd a wnaethpwyd sydd yn ennill.

Yr elusen fydd yn cael budd yw Canolfan Gancr Felindre ond gosododd Barri’r her i gadw’r holl glwb ynghlwm wrth aros mewn cyswllt drwy un digwyddiad tra’n ymbellhau’n gymdeithasol ac mae’r clwb cyfan y tu ôl i’r digwyddiad gyda llawer o bobl yn cymryd rhan mewn nifer o ddulliau.

Dyma’r linc i ddarganfod mwy ag i gyfrannu  https://tinyurl.com/y7prcj5y

HER CYLCHDAITH CLWB CYMRU

Sialens epig gan aelodau Clwb Rygbi, a rasiodd ‘yn rhithiol’ o gwmpas Cymru 4 gwaith (4120 milltir) mewn amser o dan 8 awr – sydd wedi codi mwy na £11,500 gan barhau i gyfrif tuag at staff GIG a gweithwyr allweddol.

Aeth pwyllgot y Clwb ati’n syth i benderfynu’r ffordd orau i wario neu gyfrannu’r arian ac wedi dod i’r casgliad, wedi ymchwilio ag ymgynhori y bydd yn mynd at bwrcasu tabledau i gartrefi gofal yn, ac o gwmpas ardal Caerdydd, fydd yn caniatau staff a chleifion i aros mewn cysylltiad gyda rhai a gerir. Gyda’r linell tag ‘Keeping Wales Connected’, byddent hefyd yn cyfrannu tabled i gartref gofal ym mhob un o drefi/dinasoedd o’r 40 clwb rygbi y bu iddynt ‘ymweld’ ȃ hwy’n ystod eu taith ‘rithiol’ gan gysylltu gyda’r clybiau rygbi hynny i gynorthwyo fod hyn yn digwydd.

GWIRIO’N ÔL GYDAG ABERHONDDU

Mae Aberhonddu’n awr wedi codi tros £11,000 drwy eu menter newydd ‘Name an Ewe’ a dyranwyd yr arian yma erbyn hyn i lesiant meddwl staff GIG, cleifion a theuluoedd. Mae’r clwb wedi symud ymlaen at eu hymgyrch nesaf i godi arain gyda defaid – cneifio’r ddiadell noddedig!

AIL BWRPASU ARIAN TLWS GAN RUALl

Bu i Rygbi Undeb Ardal Llanelli, sydd gyda gofal tros ryygbi 2ail Dimau a chlybiau sy’n aelodau ond yn sefyll are u traed eu hunain yn Sir Gaerfyrddin yn ogystal ȃ Llanbedr Pont Steffan a Thregaron yn Ceredigion, wedi cyfrannu £500 yr un i Unedau Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ag Ysbyty’r Tywysog Siarl, Llanelli i gydnabod ymdrechion y staff yn y creisis iechyd cyfredol.

Gosodwyd yr arian i’r ochr i bwrpas pwrcasu tlysau cynghrair a chwpannau ond, gyda rygbi wedi dod i ben am yn awr a chystadlaethau ddim i’w darfod y tymor hwn, trawodd RUALl ar y syniad o gael pwrpas newydd i’r cronfeydd.

Cytunodd yr holl glybiau y dylai’r arian yn y pwrs neilltuol hwn fynd i’r GIG ar yr amser anodd yma ac, yn benodol i’r unedau hynny sy’n edrych ar ôl y chwaraewyr eu hunain a allai dderbyn anafiadau tra’n chwarae’r gȇm y maent yn ei charu.

Rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen  – nosweithiau gwobrwyo clybiau

O gwmpas y wlad yn awr, buasech yn gweld, yn arferol ar yr adeg yma, y cyflwyniadau gwobrau clwb blynyddol yn digwydd ac mae’n siwr y byddai un mewn clwb rygbi gerllaw i chwi. Wel, mae rygbi Cymreig unwaith eto wedi profi na ellir ei ddal i lawr.

Cariodd clybiau ar draws Cymru ymlaen heb gael eu dal yn ôl gan y cload gan benderfynu trefnu’u seremoniau’u hunain beth bynnag – ie, rydych yn gywir, drwy zoom!

Gareth Sullivan, Swyddog Cynhwysedd y Dreigiau, oedd un o’r rhai cyntaf i gysylltu gan fynegi’i falchder gyda’r noson gyflwyno a drefnwyd yn rhithiol ar gyfer ei dimau Holl Ser Gallu Cymysg y Dreigiau.

Cynorthwyodd Gareth i sicrhau fod yr holl chwaraewyr yn bresennol ar yr alwad zoom a dywed fod mentrau fel hyn – a darpariaeth o gymorth technegol sy’n cyd-fynd ȃ’r syniad – yn allweddol ar gyfer llesiant a iechyd meddwl y chwaraewyr.

CARDIFF MET ONLINE

Ddim i gael eu gadael ar ôl, trefnodd Met Caerdydd eu gwobrau rhithiol eu hunain nos Sadwrn ddiwethaf.  Ymunodd dros 100 o aelodau’r clwb yr alwad fideo a chafwyd digwyddiad bywiog am ddwy awr.

Defnyddiodd y clwb ‘keynote’ i’w cyflwyniad a rhanwyd y sgrin gyda phawb ar y noson, gydag adolygiadau a sawl fideo’n cael eu darparu gan hyfforddwyr i gadw’r noson i dicio trosodd.  Roeddent, hyd yn oed, yn gallu caniatau i enillwyr gwobrau i gyflwyno areithiau derbyn.

Chwaraewr y flwyddyn i Met Caerdydd oedd Will Hurd, ac aet y wobr am y chwaraewr oedd wedi gwella’i chwarae fwyaf i Max Heathman, gyda Bingo Ivanisevic yn ennill y wobr am y chwaraewr newydd gorau. Will Gibson oedd chwaraewr y flwyddyn yn ôl gweddill y chwaraewyr ac enillwyd gwobr am y person clwb y flwyddyn, yn gydradd, gan y dadansoddwyr,Ryan Humphreys-Thomas ag Aidan Fitzgerald.

PARKER YN DERBYN CANMOLIAETH PONTY

Enwebwyd y loc, Kristian Parker, fel Chwaraewr y Tymor gan gefnogwyr Pontypridd.

Mewn pôl arlein, bu i Parker guro’r asgellwr, Dale Stuckey o drwch blewyn am y ganmoliaeth, sy’n adlewyrchu ar fform arbennig y ddau chwaraewr a’u cysondeb drwy’r ymgyrch.

Yn ei dymor llawn cyntaf gyda Pontypridd, ymddangosodd Parker 18 gwaith, gyda’r cyfan yn y XV oedd yn dechrau – mwy o ddechreuadau na neb arall yn y garfan.

Roedd ei ddull crafog o chwarae, ei hyblygrwydd i chwarae naill ai’n yr ail reng neu’r rheng- ôl, a’i barodrwydd i roi ei gorff ar y llinell dro ar ôl tro oedd y nodweddion a wnaeth gymaint o argraff ar gednogaeth Ponty.

Yn wreiddiol o Church Village, chwaraeodd Parker ynghynt i Glyn Ebwy yn yr Uwch-Gynghrair cyn gwneud y symudiad i fod yn agosach at gartref i Pontypridd. Roedd yn symudiad sydd, yn sicr, wedi bod o fudd i’r clwb a’r chwaraewr, fel yr adlewyrchir gyda’r wobr Chwarewr y Tymor haeddiannol.

Yn ail agos at y ganmoliaeth, y gwibiwr o asgellwr, Dale Stuckey, a wnaeth 17 ymddangosiad yn ystod y tymor a sgoriodd y nifer uchaf o geisiau gyda chyfanswm o 8.

Mae Kristian Parker, wrth ennill y wobr,wedi cyrraedd triawd arbennig iawn gan iddo eisoes gael ei enwebu fel Chwarewr y Tymor gan y Chwaraewyr eraill a chan y Cefnogwyr.

Enwebwyd dau flaenwr arall mewn ymgyrch agos iawn at Wobr Stuart Williams Memorial Award, sef, propiaus Huw Owen a Morgan Bosanko fu’n fodelau o gysondeb ac ymroddiad drwy’r holl ymgyrch a theimlwyd eu bod yn haeddu clod arbennig.

Noddir y wobr flynyddol, a roddir er côf o’r hoelen wyth o brop Ponty, Stuart Williams,a fu ein gadael yn drseidiol yn  2013, Undeb GMB a chyflwynir hi i’r perfformiwr anhygoel allan o uned y blaenwyr.

  1. Hyfforddi hyfforddwyr gyda Clements

Tra y mae bywyd wedi dod i ben yn sgrechlyd i chwaraewyr hwyrach, mae’r cload presennol sydd o gwmpas y byd wedi profi nad yw’n rhwystr i brif hyfforddwyr Cymru.

Webinarau, galwadau cynhadledd zoom a ‘google hangouts’ yw rhai o’r llwyfannau a ddefnyddir gan brif hyfforddwyr rygbi yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn barod i gychwyn pan fydd gweinyddwyr y gamp yn pwyso’r botwm ail-danio – pa bryd bynnag y bydd hynny.

Bu i roi o’r enwau mwyaf  mewn chwaraeon perfformiad o gwmpas y byd cyfan alw i mewn i rannu a gwrando gyda goreuon Cymru – Shaun Wane (Prif Hyfforddwr Rygbi’r Gynghrair yn Lloegr) ag Anthony Seibold (Prif Hyfforddwr Brisbane Broncos) i enwi ond dau.

Deunaw mis i mewn i’r swydd fel rheolwr hyfforddi perfformiad Undeb Rygbi Cymru, gwelwyd Dan Clements yn dawel a chyda methodoleg neilltuol, yn cyflwyno newidiadau sylweddol i ben uchaf y tirwedd hyfforddi yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma: bit.ly/Elitecoaching

COFIO’R DADANSODDWR CYNTAF, LYONS

Cyn hyfforddwr Cymru, Kevin Bowering, arweiniodd y teyrngedau i Keith Lyons, y dadnasoddwr chwaraeon cyntaf a ganfyddodd y Ganolfan Dadansoddi Meddyliol sy’n fyd-enwog ym Mhrifysgol Metropolitan, Caerdydd.

Bu i Lyons, anwyd yng Nghogledd Cymru, farw’r wythnos ddiwethaf yn Awstralia, lle y bu’n brwydro’n erbyn timor yr ymennydd am beth amser. Roedd yn 68 oed.

Yn addysgwr a gwyddonydd chwaraeon a arbenigodd mewn gweld a dadansoddi perfformiad mewn chwaraeon, roedd yn un o’r rhai cyntaf o ddaansoddi mewn chwaraeon ag yn awdur y llyfr cyntaf ar y defnydd o fideo mewn chwaraeon.

Yn ystod ei ddyddiau amatur, chwaraeodd rygbi tros Goleg Loughborough College, Cymry Llundain a Rosslyn Park a chynrychiolodd Gogledd Cymru yh erbyn tri thîm teithiol rhyngwladol. Yn ddiamu, symudodd yn ei flaen i hyfforddi a dylanwadwyd yn fawr arno gan yr hyfforddwyr ardderchog, Ray Williams, Tony Gray a Jim Greenwood.

Yn 199, penodwyd ef yn ddadansoddwr meddyliol i Undeb Rygbi Cymru a chefnogodd hyfforddwyr cenedlaethol Cymru, Alan Davies, Alec Evans a Kevin Bowring. Roedd hyh yn ei wneud ef yn un o’r dadansoddwyr perfformiad cyntaf i’w gydnabod yn rygbi’r byd.

Darllenwh fwy yma: www.wru.wales/2020/05/obituary-professor-keith-lyons/

PA UN YW CAIS CORAU CYMRU ERIOED?

Yn olaf, profodd yn dasg anodd iawn, ond mae cefnogwyr rygbi wedi camu ymlaen i fireinio’r 139 mlynedd o rygbi hanesyddol i ddewis 16 ymgeisydd ar gyfer ‘Cais Cymreig Gorau Erioed’.

Llanwyd ein pôl arlein gyda cheisiadau a dyma’r cyfle olaf i benderfynu, yn swyddogol, yn union pwy sgoriodd y cais Cymreig gorau erioed.

Bydd pedair rownd o fynd yn ben ben i ddewis ohonynt cyn y coronir yr enillydd yn y rownd derfynol.

Dechreua’r rownd gyntaf yn ffurfiol gydag wyth pen wrth ben i’w penderfynu.

Ar un ochr y dynfa,gwelir pedair gornest ben ben gydag ymdrech Pum Gwlad Keith Jarrett yn erbyn Lloegr yn 1967 y cyfranwr hynaf tra, ar yr ochr arall y dynfa,tiriad Justin Tipuric yn erbyn Lloegr yn gynharach eleni yn y Chwe Gwlad yw’ enwebiad  mwyaf diweddar o ran amser.

Gwyliwch yr holl ymgeiswyr a phleidleisiwch tros eich ffefryn yma:  www.wru.wales/2020/05/vote-for-the-greatest-ever-welsh-try-2/

METHU PENDERFYNU, CYMRWCH ARWEINIAD GAN SHANE?

Saif Shane Williams 18 tiriad mawr o flaen unrhyw un arall yn y rhestr sgorio ceisiau tros Gymru ac mae’n hynod falch fod dau o’i ymdrechion yn y rasa r gyfer y teitl ‘Cais Gorau Cymru’.

Ond, mae cyn asgellwr y Gweilch, a sgoriodd 58 mewn 87 ymddangosiad i Gymru, yn gwybod yn union pa un o’r 16 cais a ddewisiwyd yn arbennig y mae’n mynd i bleidleisio trosto.

“Phil Bennett’s try against Scotland at Murrayfield in 1977 is my favourite, meddai Williams.

“It was a great team effort, showcased so many different elements of skill and was rounded off with the most magnificent sidestep.”

Un o ddau gais Williams yn y ras yn erbyn sgôr ardderchog Benny 43 mlynedd yn ôl, oedd hefyd yn erbyn yr Albanwyr – ei ymdrech funud olaf i ennill yr ornest epig yng Nghaerdydd yn 2010.

Dywed Williams, sydd hefyd gydag ymdrech ar ei ben ei hun yn erbyn y Springboks o hanner ffordd yn cael ei chynnwys yn y gweithredu, “a real honour”i fod ymysg yr ymgeiswyr, ond dywedodd yn ogystal, fod yna ffefryn drwy’r amser arall, yn ei restr.

Cliciwch yma i weld cais Phil Bennett a chlywed mwy gan Shane www.wru.wales/2020/05/williams-picks-bennetts-classic-as-the-greatest-ever-welsh-try/

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert