Neidio i'r prif gynnwys

Hannah Hughes: “gwneud y gorau o sefyllfa heriol”

Hannah Hughes: “gwneud y gorau o sefyllfa heriol”

Mae hi yn amser annodd ac ansicr i ni gyd ar hyn o bryd a mae ymdopi gyda’r ffaith fy mod yn gorfod aros yn llonydd wedi bod yn ddigon annodd heb sôn am ymdopi i weithio mewn ffordd greadigol gartref…

Rhannu:

Fel Swyddog Hwb Rygbi Grŵp Llandrillo Menai fy rôl yw datblygu, tyfu a gwella’r gêm genedlaethol wrth ehangu ei apêl gan sicrhau fod rygbi yn gynhwysol ym mhob adran ac oedran yn ein cymunedau. Drwy gynyddu a gwella ymgysylltiad a chyfranogiad gall URC hyrwyddo gwerthoedd craidd rygbi yn ogystal a darparu cyfle i wella cydlyniad iechyd a lles, theuluoedd a chymunedau.

Fel rheol byddwn yn ymroddi i gefnogi cyfleoedd cyfoethogi myfyrwyr drwy ddarparu a threfnu ystod eang o weithgareddau sy’n cefnogi a hyrwyddo ffordd iach o fyw drwy gyflwyno rhaglen gweithgareddau iach a chefnogi dysgwyr i wirfoddoli a hyfforddi er mwyn datblygu sgiliau a phrofiadau gydol oes.

Sut oeddwn am barhau gwneud hyn tu ôl i sgrin ofynnwch chi??

Wel … creadigrwydd a thechnoleg!!

Nid yw’r gwasanaeth ddarparir wedi newid, os rhywbeth rwyf yn brysurach nawr ac yn gweithio yn agosach gyda gwasanaethau ar draws y Grŵp ac yn parhau i drefnu a darparu gweithgareddau a chyfleoedd.

Cymerais y cyfle wythnos yma i hyrwyddo pwysigrwydd cadw’n actif a iach yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Yn cydweithio gyda swyddogion Lles y Coleg fe wnaethon ni drefnu amserlen o weithgareddau dyddiol am yr wythnos gan sicrhau fod themau fframwaith lles (5 ffordd i les) yn cydfynd.

Yn ystod yr wythnos rydym wedi cael sesiwn Mwydro Mawrth ar y cyd efo Cangen Cymraeg, sesiynau Piyo a Ioga Llesiant Mercher, Top Tips Llysgenhadon Actif am gadw yn brysur gartref a sesiwn Rygbi Ffit a Dawns i ddathlu Gwenu Gwener ar y cyd gyda Street Games.

Nid yw Corona am fy rhwystro i ymgysylltu gyda myfyrwyr a staff y Coleg a dwi yn meddwl ei bod hi yn bwysig i gadw mewn cysylltiad a bod yn positif a gwneud y gorau o’r sefyllfa heriol hwn!

Pob amser yn barod am sgwrs os byddwch angen .. @gllmrygbi

Cadwch yn Saff a Daliwch i Wenu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert