Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC – eglurhad pellach i rygbi cymunedol

Diweddariad Statws URC – eglurhad pellach i rygbi cymunedol

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi egluro ymhellach sut y bydd arweiniad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar [COVID], yn weithredol o ddydd Llun, 1af Mehefin.

Atgoffa’r corff llywodraethol cenedlaethol bawb sydd yn ymwneud ȃ rygbi cymunedol, o chwaraewyr a rhieni i hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr – bod holl weithrediadau rygbi wedi’i ohirio, ar hyn o bryd, gan gadarnhau y rhyddheir canllawiau o ddyfnder a ddilynir gan broses drwyadl yn ei dro cyn y rhoddir caniatȃd i unrhyw fath o rygbi cymunedol ddigwydd yng Nghymru. Fodd bynnag, am eglurder pellach, darparodd URC arweiniad ar ymarfer yn ddiogel o mewn i’r canllawiau cyfredol.

Rhannu:

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC, “Tra bod holl weithrediadau rygbi cymunedol trefniedig wedi’i ohirio, ar hyn o bryd, yng Nghymru, cydnabyddwn fod chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr drwy’r holl rygbi cymunedol yn awyddus iawn i gamu ymlaen gyda’u cynlluniau i fod yn barod am ddychweliad rygbi, pa bryd bynnag y dedfrydir y bydd hynny’n ddiogel ac yn cyd-fynd gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Byddwn yn cysylltu gyda phob clwb, grwpiau rygbi a Hybiau Benywaidd yn y man gydag arweiniad o ddyfnder i gynorthwyo gyda phroses dychwelyd i chwarae. Bydd hyn yn cynnwys cyfarfodydd arlein a chyngor ar gael cyfleusterau a phobl yn barod am yr adeg pan fydd yn amser i ddechrau ymarfer a gweithredoedd oddiar y maes gyda chaniatȃd. Bydd diogelwch pawb a fydd ynghlwm yn flaenoriaeth wrth ddatblygu a darparu’r canllawiau hyn.
“Tan yr amser hynny, anogwn bawb o mewn y gȇm i aros yn ffit ac actif tu fewn i’r gweithredu cymalog sy’n digwydd gan Lywodraeth Cymru.”
Gwybodaeth allweddol ddiweddaraf mewn perthynas ȃ rygbi cymunedol Cymreig: 
– O ddydd Llun, 1af Mehefin, mae chwaraewyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr, fel gweddill cymdeithas yng Nghymru, yn awr yn gallu ymarfer y tu allan gydag aelodau o’u hannedd ag un annedd-dŷ arall, o fewn pum milltir i’w cartref.
– Mae’r rheol pellhȃd cymdeithasol o 2 fetr yn dal mewn grym parthed aelodau o annedd-dŷ arall – ni chaniateir unrhyw gyswllt corfforol – gwiriwch raglenni URC  Stay Active am arweiniad
– Mae hylendid personol mor bwysig ag erioed. Golchwch eich dwylo’n rheolaidd a pheidiwch a rhannu unrhyw offer ymarfer – peli, conau ag ati – gydag aelodau o annedd-dŷ arall. Peidiwch a rhannu poteli diodydd.
– Pob cyfleuster y tu mewn i glwb i barhau ar gau fel y nodir yng nghanllawiau’r llywodraeth
– Mae pob adnodd maes sy’n eiddo i glwb hefyd i aros ar gau tra y mae rygbi trefnedig wedi’i ohirio

Dychwelyd i Grŵp Gwaith Rygbi

Gosodwyd tasg i ‘Grŵp Gwaith Dychwelyd i Rygbi’ i edrych ar y protocolau a’r trefniadaethau y bydd eu hangen a’u defnyddio drwy’r holl gemau proffesiynol a chymunedol cyn iddynt ddychwelyd.
Edrych y grŵp hwn, wrth gydymffurfio ȃ Rygbi’r Byd, ar nifer o agweddau megis materion meddygol gyda’r prif ffocws ar wneud yn sicr fod pawb sy’n ynghlwm, yn dychwelyd i amgylchedd mor ddiogel ȃ phosibl.
Yn ogystal, bydd yn ystyried cymryd rhan, gweithrediadau a datblygiad clwb gyda’r Undeb wedi ymrwymo i sicrhau fod pob clwb mewn sefyllfa i ddychwelyd unwaith y rhoddir arweiniad inni wneuthur hynny ac mae’n bwysig nodi’n bod, mewn gwirionedd, yn cael ein harwain gan ganllawiau Llywodraeth.
Gobeithir cylchlythyru argymhellion allweddol gan y Grŵp Gwaith tros yr wythnosau nesaf.

COFRESTRIADAU A THROSGLWYDDIADAU
Yn nhermau trosglwyddiadau, penderfynodd Bwrdd y Gȇm Gymunedol y gohirir, tros dro, y portal trosglwyddo, drwy MyWRU, a fuasai, fel arfer, yn agor ar y 1af Mehefin er mwyn caniatau i glybiau i ddechrau trosgwlyddiadau, ynghyd ȃ chofrestriadau chwaraewyr Newydd a’r rhai sy’n symud i fyny’n y gemau Gwrywaidd a Benywaidd yn ogystal ȃ Mini, Iau ac Ieuenctid.
Rhoddir gwybod wrth glybiau’n unionsyth pan godir y gohiriad hwn, er sicrhau fod cyfle mwy na digonol i ddechrau trosgwlyddiadau, cofrestriadau a symudiadau i fyny.
Oso es gan glybiau unrhyw gwestiynau yn y cyfamser ar y mater hwn, os gwelwch yn dda, e-bostiwch rheolwr gweithrediadau rygbi URC, Adam Taylor, ar ataylor@wru.wales  
Disgwylir cylchlythyru argymhellion allweddol gan y Grŵp Gwaith tros yr wythnosau nesaf.

Wythnos Gwirfoddolwyr
Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, mae’n bwysig cydnabod y cyfraniad enfawr ar, ac oddiar y maes, y mae gwirfoodolwyr yn ei roi i Rygbi Cymreig bob amser.
Gweithia’n hyfforddwyr, rhieni, dyfarnwyr, cymorthyddion cyntaf a gweinyddwyr yn ddiflino i sicrhau fod clybiau rygbi’n parhau i fod yn leoedd hapus i bawb yng nghalonau’n cymunedau gan alluogi rygbi i fod yn llawn bywyd.

FFOCWS AR TONDU

Mae un tîm i ŵr a gwraig yng Nghlwb Rygbi Tondu – cadeirydd a thrysorydd, Graham a Jo Thomas – yn enghraifft ardderchog o’r ymdrech enfawr sy’n mynd ymlaen drwy Gymru gyfan ar yr adeg yma.
Mae Graham, sydd yn hyfforddwr i’r tîm dan 15 oed yn y clwb, yn goruchwylio un o’r adrannau mini ac Iau’n yr ardal yn ogystal ag fel y dywedodd noddwyr y clwb,  “We have some fantastic volunteers throughout the club. We’ve been looking at how to keep the club connected at this time through quizzes and challenges. We’ve been running a ‘Greatest ever Tondu XV’ on social media which has worked very well to keep everyone engaged.”We’re going through something we’ve never seen before. As a business you try to put something aside for an emergency and it feels like this is that emergency. We’ve shut the club down completely apart from essential maintenance and apart from making sure the club is there when we return, mental health is one of the most important aspects. Our club mentor and well-being coach Rob Lester has sent a short video to all our groups making sure we stay in contact and check in on each other regularly.
“We are also looking ahead at the future. There are some positives we can take from this period, for example club meetings via zoom or other apps, while a challenge for some at first, could prove useful in the long-term when many can struggle to get to the club. I think one of the challenges will be getting the young people back off the X-Box as they’ve inevitably been forced to do that for a lot of the time in lockdown.
“Once government guidelines allow us to re-open our clubhouse, we have looked at ways we could re-open the space while keeping social distancing measures. We have a garden and could possibly become a café or drop-in centre for the community.
“Our 45 or so coaches are also keen to do something but we will of course wait and react whenever we get the green light.”
Mae Jo, sy’n gweithio mewn yswiriant yn hyderus y cymerwyd pob mesur i ddiogelu’r clwb yn gyllidol.
“We contacted Business Wales immediately and were grateful to receive both the Welsh Government and WRU grants. We’ve also applied to Bridgend Council. We took advantage of the furlough system to ensure our staff are looked after and our expenditure is reduced to an absolute minimum. I’d be happy to help other clubs on areas such as insurance and we’d also be keen to hear from other clubs in terms of their ideas during this time.”

Newyddion diweddaraf

Cyfle’r wythnos hon i glywed yn faith am sut y mae hyfforddwyr disglair y dyfodol yn cael eu datblygu. Unwaith, roedd Cymru’n arwain y byd mewn datblygu hyfforddi, ac, yn awr, mae ymdrech weithgar iawn i ddychwelyd i ben y pac. Rydym yn siarad gyda’r gŵr sy’n rhedeg yr ymdrechion hynny – rheolwr hyfforddi perfformiad URC, Dan Clements. Gwrandewch ar:
https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-22-2020/

CARTER YN CHWILIO AM ORWELION NEWYDD
Os yr ydych yn gweithio gyda rygbi ac eisiau gweld y byd, mae’r potensial i wneud hynny’n ddiddiwedd. Dim ond gofyn i Marc Carter, Pennaeth Dadansoddi Perfformiad Hong Kong sydd eisiau. Mae’r ffaith fod Carter yn berson allblyg, yn ogystal ȃ bod yn ddadansoddwr sgilgar, yn amlwg wedi creu argraff hyfforddwyr o gwmpas y byd cyfan sydd wedi cyflogi’r gŵr o Barri.
Dechreuodd ei yrfa’n nes at adref fodd bynnag, gyda chyflwyniad i ddadansoddi perfformiad gyda Gleision Caerdydd gan bennaeth yr adran, Rhodri Manning.
Yn dilyn y cyfnod hwnnw, treuliodd gyfnod gyda Rygbi Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Ar y pryd, roedd gan RGC gysylltiadau cryf gyda Rygbi Canada, gyda dim llai na naw Canucks yn eu carfan yn 2010, ac, yn fuan, roedd Carter yn cynorthwyo’r tîm cenedlaethol i addasu i feddalwedd dadansoddi newydd ar eu taith yn Ewrop.
Yn dilyn hynny, dilynodd nifer o enwau mawr o’r gȇm Gymreig, megis, Paul John, Jevon Groves a Leigh Jones, sydd wedi ymuno gydag Undeb Rygbi Hong Kong yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Darllenwch fwy am Marc yma:
www.wru.wales/article/carter-explores-new-horizons-in-rugby/

CWMTWRCH YN CADW’N BRYSUR
Fel arall o fewn y clwb, gyda’r ‘TŷClwb’ newydd a’r hwb cymunedol ar fin cael ei gwblhau ar Barc Glyncynwal.
Bu aelodaU’r clwb yn brysur tros y misoedd diwethaf. Yn eu mysg, mae Helen Jones wedi bod yn brysur yn gwneud bagiau golchi dillad ar gyfer nyrsys a gofalwyr tram ae Andrew Dady a Bertie Roberts ymysg gwirfoddolwyr sydd, ar hyn o bryd, yn cyflenwi prydau wedi’u coginio a chynhwysion groser ffres drwy Canolfan Ystradowen & Neuadd Cwmllynfell.
Bu Jenny Simmons yn gweu gofalwyr clustiau gyda 100% gwlȃn cotwm fel y gellir eu golchi ar 60º. Yn ogystal, bu iddi ddechrau gwneud masgiau defnydd syml wedi’u gwneud allan o dair haen o ddefnydd gyda chotwm dwys yn y canol. Mae Jenny’n fodlon gwneud y rhain am ddim os oes unrhywun mewn angen neu gellir eu prynu am £5 gyda’r holl arian a dderbynir yn mynd at fanc bwyd Ystradgynlais.

FLEUR DE LYS YN AROS YN GADARNHAOL
Yn ddiweddar, cododd tîm dynion Clwb Rygbi Fleur de Lys £1,300 i’r GIG drwy seiclo tros 2,000 milltir.
Canmolodd ysgrifennydd y clwb, Sue Davies, drwy ddweud ,”a great team effort” sydd wedi bywiogi’r clwb wedi rhai blynyddoedd anodd, sydd wedi cynnwys tȃn mawr yn y ‘Tŷ Clwb’ yn cael ei ddilyn gan y cload mewn pentref bychan lle y teimlwyd yn arw y marwolaethau o’r feirws.
Mae’r codwyr arian wedi gwneud eu hysgrifenyddes yn falch iawn, iawn ac mae’r clwb yn parhau’n gadarnhaol gan edrych ymlaen at dymor newydd a dychweliad i rygbi.
“This was also a heartfelt way to inspire and motivate our team to get exercise,” ychwanegodd Davies.

DOWLAIS YN GWNEUD EU RHAN TROS GYNALADWYEDD GIG

Wrth gau eu ‘Tŷ Clwb’ yn dilyn y cload, bu i Glwb Rygbi Dowlais roddi’u holl stoc o ddiodydd ysgafn a chreision i Ganolfan Iechyd Kier Hardie ym Merthyr Tudful. Mae’r Ganolfan Iechyd wedi bod yn hyfforddi gweithwyr GIG i sefyll yn erbyn y Coronafeirws ac roeddent yn gwerthfawrogi’r weithred yn arw iawn.

DÔS O GOFIO’N ÔL – CHWARAEWYR DA MEWN SAWL CAMP – CASNEWYDD

Mae Rygbi Cymreig wedi bod yn ffodus gyda nifer dda o chwaraewyr da allai chwarae mewn sawl camp. Enillodd Ken Jones fedal arian Olympaidd, enillodd Nigel Walker fedal efydd mewn Athletau Tu Mewn yng Nghymru a chwaraeodd Maurice Turnbull griced tros Loegr.
Roedd Arthur ‘Candy’ Evans ( https://www.wru.wales/2020/05/remembering-arthur-candy-evans/ ) yn bencampwr pwysau trwm mewn bocsio amatur a bu i Fred Parfitt, ddim yn unig ennill y Goron Driphlyg gyda Chymru mewn rygbi’n 1893, ond hefyd, mewn bowlio. Enillodd naw cap rhyngwladol mewn rygbi a chwaraeodd tros Gymru mewn Bowlio tros gyfnod o 20 mlynedd.
Arweiniodd Wilf Wooler Forgannwg at deitl Pencampwriaeth Criced y Siroedd am y tro cyntaf yn 1948 a bu i Keith Jarrett chwarae tros y Sir gymreig yn erbyn y teithwyr o India a Phacistan.
Ymysg y rhai oedd ddim mor enwog hwyrach, saif tri brwdfrydig o Glwb Athletau Casnewydd – Bert Dauncey, Louis Phillips a Tom Pearson. Estynai eu talentau mewn sawl camp a bu iddynt ennill llawer mwy o glod rhyngwladol nag a wnaethant ar y maes rygbi. Mwy yma:www.wru.wales/2020/06/remembering-newports-great-all-rounders/

AG YN OLAF …. Y CAIS GORAU ERIOED
Ac yna, roedd pedwar! Ond am bedwarawd ydynt.
Bu ichwi bleidleisio’n eich miloedd i’n cynorthwyo i ddarganfod y ‘Cais Gorau Erioed Tros Gymru’ a daeth ein 16 uchaf i lawr i’r ‘Pedwar Perffaith’. Gwelir y ‘Cyn Feistri’ o’r ‘Saith Degau Siwper’ yn erbyn dau o’r ‘Medwyr Modern’ o’r ‘Cyfnod Proffesiynol’.
Felly,pwy sydd yn mynd i saethu’n y rownd olaf wrth i Scott Gibbs fynd yn erbyn Syr Gareth Edwards a Phil Bennett yn wynebu Justin Tupuric – mae’n 1972 v 1999 a 1977 v 2020.
Dim ond i ychwanegu cyd-destun ehangach i’r bedair sgôr anhygoel, meddyliem y buasem yn mynd trwyddynt gyda chrib mȃn ichwi.
Mwy yma…

Sylwadau’r Prif Weithredwr
Briff ‘cadw golwg’ sydd gan Rygbi Cymreig ar y funud, ond mae hyn yn safle gadarnhaol iawn i fod ynddo fel yr ydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer dychwelyd i chwarae.
Nid ni fydd y gamp gyntaf yn ôl – rydym yn gwybod yn barod fod pȇl-droed Uwch Gynghrair i fod i ddychwelyd ar yr 17eg Mehefin.
Mae’n debyg mai pȇl-droed yw’r gamp agosaf atom ni, gyda’i phoblogrwydd perswadiol ar lefel gymunedol a thier proffesiynol sydd yn ei gyrru a bydd yn ffon fesur hynod ddefnyddiol.
Mae gennym gyfle mawr i ddysgu mewn manylder am sut i greu amgylcheddau diogel ar gyfer chwaraewyr, profiion i’r feirws, hylendid a saniteiddio, trefniadau diwrnod gȇm, rheoli safle, teithio i, ac o, gemau a diogelwch cyffredinol i bawb arall sydd ynghlwm o ddyfarnwyr i staff eraill ag, yn amlwg yn y dyfodol, y gwylwyr.
Hyd yn oed yn fwy pwysig, nid ni fydd y genedl chwarae rygbi gyntaf i ddychwelyd – ar hyn o bryd, mae Seland Newydd yn negydu eu Hanghenion Dychwelyd i Rygbi eu hunain a fydd yn arwain at gyflenwi eu gemau proffesiynol cyntaf o’r ‘Investec Super Rugby Aotearoa’ ar ddydd Sadwrn, 13eg Mehefin, gyda phob lefel o rygbi clwb a chymunedol isod yn dilyn ar yr 20fed Mehefin.
Byddwn yn gwylio ac yn dysgu a byddwn mewn gwell lle oherwydd y cyfle i wneud hyn.
Mynegodd cystadleuaeth y PRO14 ei hawydd i ddychwelyd at ddiwedd Awst, ni fu inni enwi dyddiad na gosod unrhyw gemau mewn concrid yng Nghymru oherwydd ein bod, wrth gwrs, yn cadw’n glos iawn at gyngor Llywodraeth Cymru ac yn meddwl fod yn rhaid i’r cyflwr fod yn gywir – ond, pan fydd y cyflwr yn gywir, bydd ein briff gwylio presennol yn ein gosod mewn sefyllfa dda iawn.
Mae’r gȇm gymunedol yng Nghymru’n gysylltiedig gyda’r gȇm broffesiynol a gallai fod yn baturiol i ystyried a meddwl pan fydd y sefyllfa’n gywir i un ddychwelyd y buasent, yn ogstal, yn caniatau i’r llall ail ddechrau – ond, rhaid inni gymryd gofal mawr i ymdrin ȃ’r ddwy elfen o rygbi Cymreig hyn ar wahȃn.
Byddwn yn dysgu’n ogystal o’r rhyngweithiau blaenorol a osodir yn Seland Newydd ag mewn chwaraeon megis pȇl-droed ar lefel domestig, ond yr ydym yn hollol ymwybodol y bydd y linell amser gogyfer ȃ dychweliad rygbi cymunedol yn rhedeg cwrs gwahanol.
Rydym i gyd yn wir obeithio, ag eisiau i’r creisis iechyd presennol fod trosodd ag i rygbi ddychwelyd drwy’r wlad, ond, adleisiaf feddylfryd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies, yn gynharach yr wythnos hon, pan ddywedodd ,‘it is better not to rush and get it right’ ag y dylem fod yn,‘patient and unified’ ar yr adeg yma.
Ein neges gyfredol i’n clybiau cymunedol – fod rygbi cymunedol yn parhau wedi’i ohirio tan y ceir rhybudd pellach, ond y bydd gwaith ar ffitrwydd a pharatoi yn gallu parhau’n lleol tra’n dilyn rheoliadau.
Fel y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru’n newid, felly y bydd ein cyngor i glybiau, ac rydym wedi ymrwymo i gadw’r llif cyson hwn o wybodaeth a chyngor da i lifo.
Ond, am yn awr, amynedd a chipio’r cyfle i wylio chwaraeon a gwledydd eraill, sydd ar y blaen wrth gynllunio dychwelyd i gymryd rhannnau actif a chwarae, yw’r hyn sydd ei angen.
Y ‘modus operandi’ cyfredol ar gyfer holl rygbi Cymreig, yn enwedig, ar lefel leol, yw i edrych a dysgu.
Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert