Neidio i'r prif gynnwys

Cymry Cymraeg: Sioned Foulkes

Cymry Cymraeg: Sioned Foulkes

Fel îs-gadeirydd Clwb Rygbi Rhuthun, mae gen i nifer o gyfrifoldebau.

Rhannu:

Dwi’n cadeirio’r îs-bwyllgor Gwaith a Datblygiad y clwb, sy’n edrych ar ddatblygu’r cyfleusterau rygbi a chyfleusterau ar gyfer y gymuned, a dwi hefyd yn swyddog y cyfryngau cymdeithasol – yn sicrhau bod gwybodaeth ni ar Twitter, Facebook ac Instagram, a sicrhau bod proffil y clwb yn weledol a hefyd yn ddwyieithog. Mae gen i nifer o swyddi, i fod yn onest (casglu arian ymaelodaeth gan y chwaraewyr i gyd ydi un o’r swyddi gwaetha!).

Eleni, am y tro cyntaf ers i mi ddechrau yn y clwb ugain mlynedd yn ôl, dwi ‘di ail-gymryd rôl fel Cynorthwyydd Cymorth Cyntaf i’r tîm cyntaf ar ddydd Sadwrn, felly fel arfer ‘da chi’n gallu ffeindio fi ar ochr y cae mewn bŵts a waterproofs!

Pan wnaeth popeth fynd ar chwâl efo’r COVID-19 roedd ’na ansicrwydd mawr am ba mor hir roedd y sefyllfa’n mynd i fynd yn ei flaen, a doedd neb yn siŵr beth oedd yn mynd i ddigwydd. Ond wrth i bethau ddatblygu roedd hi’n amlwg bod y sefyllfa un ddifrifol gyda’r feirws, felly penderfynon ni gau’r clwb i chwaraewyr, mae’r gampfa wedi cau, ac yn amlwg roedd rhaid cyhoeddi hyn i bawb.

Ers hynny mae ’di bod yn ddistaw iawn. Gan gau’r clwb yn gyfan gwbl mae ’na gostau i gyd-fynd efo hynny. ‘Da ni wedi rhoi aelod o staff ar furlough i sicrhau eu dyfodol nhw, ond hefyd i helpu ni fel clwb i arbed arian.

Un o’r pethau mwyaf anodd yw’r stoc cwrw sydd wedi bod yn eistedd yn y clwb, a dwi’n siŵr bod nifer o glybiau yn yr un sefyllfa dros y wlad. ‘Da ni methu gwerthu o, ond da ni’n gobeithio bydd y bragdy yn gallu helpu ni allan. Peth arall yw’r cit, ond, digwydd bod, mae’n cyflenwyr ni wedi gorfod mynd ar furlough hefyd, felly does dim gofyn i ni werthu yn yr amser yma.

Ond tra bod y clwb ar gau mae ‘na gostau bach pob mis, ac mae’r costau yna’n adio i fyny, sy’n gallu mynd yn anodd iawn tra bod dim incwm. ‘Da ni wedi bod yn lwcus i gael grant i helpu talu’r biliau sydd wedi bod yn dod i mewn tra bod ni wedi cau.

Fel clwb, rydyn ni’n cymryd agwedd synhwyrol tuag at arian ac mae gennym ni arian wrth gefn, swm cyson pob blwyddyn. Bydd hynny yn gallu cadw ni i fynd dros y 12 mis nesaf os nad oes modd ariannu’r clwb mewn ffyrdd eraill.

Mae’n anodd dweud pryd ‘da ni’n mynd i allu agor, neu sut byddwn ni’n gallu ail-agor. Bydd ‘pellteru cymdeithasol’ yn effeithio’r niferoedd ‘da ni’n gallu cael yn y clwb, ac mae materion glendid, glanhau a pharatoi bwyd i’w hystyried. Mae gymaint o bethau sydd yn mynd i gael eu heffeithio. Yr amcan yw fydd yr effaith hir dymor yn un sylweddol, ac efallai yn fwy hir dymor na mae pobl yn ei feddwl achos yr holl bethau mae rhaid i ni ystyried pan da ni’n ail-agor.

‘Da ni’n addasu fel pawb arall, ac mae cyfarfodydd rŵan yn cael eu cynnal dros y wê. Dyliwn ni brynu shares yn Zoom! Mae ’na hefyd gyfarfodydd ar Microsoft Teams a grwpiau WhatsApp yn cadw’r chwaraewyr yn brysur. Mae lot o sgyrsiau rhwng timau gwahanol yr adran iau, ieuenctid, ac rydw i hefyd yn cael galwad wythnosol efo Rhys, un o hyfforddwr y tîm cyntaf, i weld sut mae pawb yn dod yn eu blaenau.

‘Da ni’n lwcus bod gennym ni Swyddog Hwb Rygbi, Emyr Gwynedd, ac mae o’n paratoi cyfres o heriau sgiliau rygbi a chystadlaethau, ac maen nhw’n mynd allan ar ein cyfryngau cymdeithasol. Mae’n cadw’r adran iau yn brysur ac yn ffit, ac mae ‘na wobrau i ennill. Mae gennym ni Hwb Merched hefyd, y Cigfrain / Ravens, ac mae’r hyfforddwr Mike Evans wedi bod yn brysur yn cadw’r merched yn ffit – maen nhw ’di dechrau clwb rhedeg Strava newydd, a chwis ar-lein.

Y flaenoriaeth fel clwb ydi i ni gael trwy’r cyfnod yma mewn rhyw fath o siâp da a gobeithio gallwn ni aros yn iawn yn ariannol er mwyn bod yn barod i ail-ddechrau. Mae gennym ni waith dwys yn digwydd ar gaeau’r tîm cyntaf a’r ail dîm ar hyn o bryd i’w hatgyweirio a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd, pan mae’n ddiogel i wneud hynny, wrth gwrs.

Cawsom ni dymor da cyn iddi orffen yn gynamersol – roedd y tîm cyntaf yn gobeithio gorffen y tymor yma yn y pedwar uchaf yn y gynghrair; roedd yr ail dîm heb golli gêm; tra oedd yr ieuenctid yn gwneud yn dda, a’r tîmau iau yn ffynnu, felly mae pawb yn ysu eisiau dechrau hyfforddiant a chwarae eto.

Mae ‘na waith paratoi eleni ar gyfer ein trigain blwyddyn, felly bydd ‘na ddathliadau mawr ar y gweill. O safbwynt hynny, mae’n bwysig iawn bod y cefnogwyr yn rhan o’r dathliadau. ‘Da ni’n gobeithio bydd hi’n lot o hwyl ac yn ffordd dda o gael pawb i ddathlu a symud ymlaen i’r dyfodol ar ôl cyfnod anodd.

Roedd Sioned yn siarad ar WRU Game Locker, adnodd ar-lein ar gyfer hyfforddwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert