Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 08/07/20

Diweddariad Statws

Yr ydym, yn naturiol, wedi defnyddio’r tudalennau hyn i siarad yn uniongyrchol am rygbi Cymru, ein gêm gymunedol a sut y mae wedi bod yn sgîl yr argyfwng iechyd rhyngwladol presennol.

Rhannu:

Wrth gwrs, allwn ni ddim siarad am y gêm clwb heb sôn am y gêm ryngwladol, mae’r ddwy’n  gydgysylltiedig, ond yn yr un modd, ni allwn siarad am Gymru yn ynysig heb feddwl am y sîn rygbi fyd-eang.

Hoffwn gymryd eiliad i fynegi cydymdeimlad o’r galon i unrhyw un yn ein diwydiant, neu’r rhai sy’n gysylltiedig ag ef, allai fod yn profi caledi.

Clywsom newyddion yr wythnos hon o ochr arall Afon Hafren y bydd cyfres o ddiswyddiadau yn cael eu gorfodi ar yr RFU ac, yn nes adref, mae yna lawer o bobl drwy Gymru gyfan a fydd yn poeni am lu o ddiswyddiadau cynlluniedig a gyhoeddwyd gan eu cyflogwr.

Mae’r amseroedd hyn yn rhai anodd, ond yr ydym yn cymryd pob mesur posibl i sicrhau bod rygbi Cymru’n dod allan yn gyfan a chyflawn o’r argyfwng presennol hwn ac yr ydym yn dymuno’r gorau i’n cyfeillion a’n cydweithwyr.

Gallai buddsoddiad posibl pellach yn y gêm wrth gwrs helpu ac mae’n hysbys yn gyffredinol fod chwe gwlad, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod yn rhan o drafodaethau ecsgliwsif gyda phartneriaid cyfalaf CGS.  Ond mae’n bwysig nodi nad oes amserlen osool ar gyfer cwblhau’r broses hon. Pe bai unrhyw gytundeb yn mynd rhagddo, ni fyddai’n cael ei gyflymu oherwydd heriau a gyflwynir gan yr amgylchedd allanol presennol.  Mae’r trafodaethau’n gyfrinachol, ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb yn ôl y disgwyl, gan fod y datganiad llawn ar y pwnc gan y chwe gwlad wedi’i roi isod.

Rhaid i mi estyn llongyfarchiadau pawb ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru i un o’n nifer, Amanda Blanc, sydd hefyd yn cadeirio ein Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP). Penodwyd Amanda yn Brif Swyddog Gweithredol Aviva PLC yr wythnos hon ac erbyn hyn, mae’n un o ddim ond chwe benyw sydd wrth y llyw ar gwmnïau FTSE 100. Rydym yn hynod falch y bydd yn parhau’n ei rôl fel gwirfoddolwr gyda’r BRP. Mae’n un o bum benyw sy’n eistedd mewn rolau hŷn gyda Rygbi Cymru wrth ochr Aileen Richards, Liza Burgess, Marianne Okland, Amanda a Julie Paterson. Mae’r gyfres drawiadol hon o unigolion yn ymddangos yn eu tro ar Fwrdd URC, Cyngor URC, y BRP, Cyngor Rygbi’r Byd a’n Bwrdd Gweithredol, gyda’r rhan fwyaf yn eistedd ar draws mwy nag un ohonynt.

Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am y gyrfaoedd trawiadol sydd wedi arwain yr unigolion hyn i’w rolau presennol, mae pob un wedi’i benodi – neu wedi’i hethol, yn achos Liza Burgess – yn ôl eu rhinweddau eu hunain, ond rwy’n credu y dylem ymfalchïo yn ein hunain fel sefydliad fod gennym bellach bump o uwch ffigyrau benywaidd o’r fath yn cyfrannu at rygbi Cymru.

Rydym yn falch iawn, yn benodol, o lwyddiant Liza fel y Cyfarwyddwr Cenedlaethol benywaidd etholedig cyntaf i ymuno â Bwrdd URC, mewn 130 mlynedd o hanes yn arbennig, ond mae’n gobeithio y bydd mwy o fenywod yn ei dilyn. Nesaf, byddai’n hoffi gweld un o’r nifer fawr o fenywod ar flaen y gad yn y gêm gymunedol yng Nghymru yn cael ei hethol i’n Bwrdd fel cynrychiolydd ardal.

I godi’n llythrennol o’n sail clwb, os mynnwch chi, ac rwy’n cytuno.

Yr eiddoch mewn rygbi,

Gareth Davies

Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru

Datganiad y Chwe Gwlad

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Chwe Gwlad wedi bod yn rhan o drafodaethau ecsgliwsif gyda Phartneriaid Cyfalaf CVC. Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn adeiladol ac yn flaengar iawn.

Mae negodiadau o’r math hwn yn gymhleth. Gallant gymryd gryn amser ac, ar hyn o bryd, maent yn dal i fynd rhagddynt. Ni ddisgwylir cytundeb yn fuan a byddai’n anghywir ei gyflwyno fel rhywbeth sy’n siwr o ddigwydd.

Nid oes amserlen penodol ar gyfer cwblhau’r broses hon, ac ni fyddai unrhyw gytundeb, pe bai’n mynd yn ei flaen, yn cael ei gyflymu oherwydd unrhyw her bosibl a gyflwynir gan yr amgylchedd allanol bresennol.

Atgoffa am yr etholiad

Atgoffir clybiau bod pleidleisio ar gyfer etholiad Aelodau’r Cyngor Cenedlaethol, sy’n cael ei ymgeisio gan Nigel Davies, Ieuan Evans a John Manders, yn cau ddydd Gwener 10fed o Orffennaf am 3.00 o’r gloch y prynhawn.

Dylai unrhyw glwb sydd heb dderbyn y papur pleidleisio eisoes gysylltu â Rhys Williams (rjwilliams@wru.wales ) yn uniongyrchol, cyn gynted ag y bo modd.

Safonau cydraddoldeb Insport

MYND AM AUR

Gall rygbi Cymru ymfalchïo yn ei ymdrechion i ddod yn fwy cynhwysol tuag at bobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion ychwanegol.

Dyna farn llawer o bobl yn y sectorau chwaraeon, gwleidyddol ac addysg fel y mae’r corff llywodraethol yn anelu at fod y cyntaf i gyflawni safon ‘ Cydraddoldeb Aur ‘ mewn campau, Chwaraeon Anabledd Cymru.

Cyhoeddwyd Strategaeth Rygbi Anabledd URC ychydig dros ddwy flynedd yn ôl gyda’r nodau clir o ddod yn gamp fwy cynhwysol i bawb gyda diwylliant ‘ Crys i bawb ‘ drwy’r gêm a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i fod yn rhan o’r chwaraeon cenedlaethol [LINC  bit.ly/DisRugbStrat ].

Mae cynnydd cyflym ond cynaliadwy wedi’i wneud yn yr amser byr hwnnw, ac mae cyfleoedd cynhwysol yn y gymuned ac mewn addysg wedi gweld cynnydd sylweddol.

Erbyn hyn, mae timau rygbi gallu cymysg i oedolion a Chlybiau Cymunedol Cynhwysol ar gyfer pobl ifanc ym mhob rhanbarth rygbi.

Mae ein gweithlu wedi dod yn fedrus wrth ddarparu cyfleoedd cynhwysol ac mae’r Rhaglen Hwb wedi gweld swyddogion yn cynnig cyfleoedd rygbi i bobl ifanc o bob gallu yn eu hysgolion ac i ysgolion AAA cyfagos.

Mae’r perthnasoedd cynyddol hyn wedi cael nifer o fanteision gyda’r dysgwyr eu hunain yn dod yn arweinwyr rygbi cymwys ac yn cyflawni rhai o’r gweithgareddau rygbi, gan ymestyn y gweithlu rygbi cynhwysol.

Yr ydym bellach yn cynnig cyfleoedd Rygbi mewn Cadeiriau Olwyn ledled Cymru wedi sicrhau banc o gadeiriau olwyn rygbi pwrpasol a staff hyfforddedig, prentisiaid a hyfforddwyr cymunedol ledled Cymru. [Gweler LINC I FIDEO a STORI

Mae cysylltiadau agos wedi’u meithrin gyda sefydliadau cysylltiedig megis GBWR ac Undeb Rygbi Byddar Cymru i ehangu’r cyfleoedd hynny.

Yr ydym wedi sicrhau bod gallu cymysg a chyfleoedd cynhwysol yn ganolog i’n calendr digwyddiadau cenedlaethol mawr, fel y gyfres ‘Y Ffordd i’r Principality’ o wyliau cymunedol a gemau yn Stadiwm y Principality [GWELER LINC ], ac yn nigwyddiadau 7 pob ochr yr Urdd, drwy bartneriaeth hynod lwyddiannus gyda Chwaraeon yr Urdd. Mae yna hefyd elfen AAA o adnodd yYstafell Ddosbarth Ddigidol URC, sydd ar gael i bob ysgol.

Bu twf aruthrol hefyd mewn Rygbi Cerdded, fformat newydd o’r gêm sydd o fudd mawr i les corfforol a meddyliol, yn enwedig ymysg grwpiau hŷn neu sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol.

Ar ôl ennill y wobr am ruban insport a gwobrau cydraddoldeb efydd yn 2018, enillodd URC y safon arian fis Tachwedd diwethaf ac mae’n awr yn mynd am aur.

RYGBI ‘JERSEY FOR ALL’ GARTREF

Mae’r hyfforddwr Rygbi Anabledd, Darren Carew, wedi bod yn rhan hanfodol o uwchsgilio gweithlu URC mewn gweithgareddau cynhwysiant ac, ar ôl cwblhau cyfnod o ailsefydlu ei hun, mae bellach yn ôl yn y gwaith.

Mae wedi ffilmio cyfres o sesiynau rygbi cynhwysol ‘ Jersey For All ‘ er mwyn i’r cyfranogwyr allu parhau i deimlo’n rhan o deulu rygbi Cymru … Gwiriwch Game Locker URC y penwythnos hwn (11/07/20) i gymryd rhan o gysur eich cartref neu’ch gardd.

GWYLIWCH Y GWAGLE

Mae hyfforddwyr URC hefyd wedi bod yn rhan annatod o ddarparu ystod o gynnwys fideo difyr ar gyfer y gyfres o ddigwyddiadau rhith Insport eleni a bydd Darren yn darparu sesiwn sgiliau rygbi ar gyfer y digwyddiad dydd Gwener hwn – EDRYCHWCH AR WEFAN CHWARAEON ANABLEDD CYMRU.

Mae’r cyfweliad diweddaraf ar y Gornel Hyfforddi ar gêm URC gyda’r Phrif Hyfforddwr Rygbi Byddar, Robert Coles, ac mae ar gael o heddiw ymlaen (8/07/20), gydag iaith arwyddion.

Rydym hefyd i fod i gynnal ein cynhadledd hyfforddi anabledd/cynhwysiant cyntaf-arlein-ddydd Sul, Awst 23ain, yn cofrestru gyda GAMELOCKER URC.

Webinarau Dehongli’r Gyfraith

Mae Rheolwr Cenedlaethol Perfformiad y dyfarnwr, Paul Adams, a’r Rheolwr Datblygu Hyfforddwyr, Gerry Roberts wedi ymuno i drefnu cyfres o webinarau gyda hyfforddwyr ar draws yr holl adrannau ynghylch dehongliadau cyfreithiol.

Y torri i lawr, llinell, sgrym a mantais fydd y canolbwynt i raddau helaeth helaeth a’r Hyfforddwyr y Bencampwriaeth fydd y cyntaf i ymuno â’r sesiynau ar 20fed Gorffennaf. Bydd mwy o webinarau yn dilyn trwy gydol Awst, Medi a Hydref gyda hyfforddwyr a chanolwyr o adrannau un, dau, tri ac ieuenctid i gyd yn cael eu gwahodd i sesiynau pwrpasol.

Newyddion Rygbi

CAERLEON YN CHWALU AMCAN CODI ARIAN 50ed PEN BLWYDD

Mae clybiau llawr gwlad yng Nghymru yn parhau i ddisgleirio yn ystod y cyfnod anodd hwn, gyda Chaerllion yn cynnig y cymorth y mae mawr ei angen i elusen.

Mae’r Clwb sydd yn Adran 2 y Dwyrain, gyda’i brif hyfforddwr, Jon Burgess, a’r hyfforddwr amddiffyn, Chris Macey wedi cael cymorth gan fechgyn lleol, Harrison Keddie (Dreigiau) ac Angus O’Brien (Sgarlets) y tymor yma, i fod i ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed mewn steil cyn i’r pandemig daro.

Yn hytrach na chanslo eu dathliadau hanner canrif yn llwyr, tarodd Caerllion ar syniad i nodi’r achlysur mewn modd ystyrlon drwy redeg milltir ar gyfer pob mis o fodolaeth y clwb.

Byddai’n dipyn o gamp gyda chyfanswm o 3,739.84 milltir, yn ystod mis Mehefin ac, yn bwysicach, fel yr oedd ar 2ail Gorffennaf, mae swm o £3,352 wedi’i godi ar gyfer yr elusen. ”

Stori:

Cyfranwch 

YN ÔL I HYFFORDDI

Mae’r chwaraewyr proffesiynol yng Nghymru wedi bod yn mynd yn ôl i hyfforddiant, felly mae’n gyfle i edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl yn podlediad URC yr wythnos hon.

Hefyd, does dim llawer o chwaraewyr o Gymru sy’n gallu disgrifio sut deimlad yw curo Seland Newydd, ond ychydig dros flwyddyn sydd ers i’r tîm Dan 20 wneud hynny ym Mhencampwriaethau’r Byd i Ieuenctid. Eu capten oedd y bachwr Gweilch a charfan Cymru, Dewi Lake.

Mwy yma:

Hefyd mae’r Gweilch yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau-mae eu sylfaen hyfforddi arferol yn Academi Chwaraeon Llandarsi yn cael ei defnyddio fel ysbyty maes ar hyn o bryd ac felly mae dynion Justin Tipuric wedi dychwelyd i’w gwreiddiau cynnar a byddant yn defnyddio Sant Helen fel eu canolfan wrth iddynt baratoi ar gyfer dychweliad arfaethedig i chwarae yn y Guinness PRO14 ar benwythnosau 22ain a’r 29ain Awst

Stori:

Ac mae’r Prif Hyfforddwr newydd, Delaney yn hynod falch gan ymateb ei squad.as fel mae’r Sgarlets yn dychwelyd iddi ar Barc y Sgarlets.

Mae’r chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi mewn grwpiau bychain am gyfnodau cyfyngedig o amser cyn y dyddiad dychwelyd o’r 22ain Awst a dargedwyd ar gyfer gemau Guinness PRO14.

Stori:

CROESAWU WILLIAMS I CRUGC

Mae Cyngor Rygbi’r Undeb Gogledd Cymru (CRUGC) wedi penodi Gary Williams (CR Y Trallwng) fel ysgrifennydd newydd y Cyngor gan ddechrau ar ei ddyletswyddau’n syth. Dymunir bob llwyddiant i Gary gan glybiau rygbi cymunedol y Gogledd.

HYSBYSEBU ROLAU NEWYDD RYGBI MERCHED

Mae URC wedi lansio chwiliAD am dair swydd newydd yn benodol ar gyfer rhaglen perfformiad y merched er mwyn codi safonau’n sylweddol yn y gêm i fenywod cyn Cwpan Rygbi’r byd y flwyddyn nesaf yn Seland newydd a gemau’r Gymanwlad yn 2022.

Bydd Prif Hyfforddwr ar gyfer Rhaglen Genedlaethol i Ferched Hŷn a fydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a chyflawni’r rhaglen hyfforddi ar gyfer y rhaglenni rhyngwladol dimau 15 a 7 yng Nghymru, Arweinydd ar Berfformiad Corfforol i ddylunio a gweithredu rhaglen strategol ar gyfer pob agwedd ar berfformiad corfforol ar gyfer pob lefel o rygbi merched yng Nghymru a Dadansoddwr Perfformiad ar gyfer y rhaglen perfformiad benywaidd.

Disgwylir y bydd mwy o hyfforddwyr yn cael eu penodi i’r tîm maes o law.

Unwaith y gwneir y penodiadau, bydd y cynllunio’n dechrau o ddifrif cyn Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf yn Seland Newydd. Gobeithir y bydd y tîm hyfforddi newydd yn ei le erbyn yr Hydref.

Mwy yma

AC YN OLAF … PENBLWYDD HAPUS GIG GAN GARFAN CYMRU!

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dathlu ei ben-blwydd yn 72oed ddydd Sul ac mae chwaraewyr Cymru wedi bod yn brysur yn recordio negeseuon ‘ Diolch ‘ a ‘penblwydd hapus’ i wneud yr achlysur yn un arbennig.

Mae Alyn Wyn Jones, Jake Ball a George North i gyd wedi cefnogi hyn a bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn postio’r delweddau hyn ar eu sianeli cymdeithasol dros y penwythnos.

Rhywbeth i edrych allan amdano ac ail-drydar i ddangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau hanfodol y GIG ac ymwybyddiaeth Covid-19 ar y cyd â Chapten a chyfeillion Cymru.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert