Neidio i'r prif gynnwys

Cam nesaf y broses o ddychwelyd i rygbi cymunedol

Dychwelyd i rygbi

Cyn cam nesaf o fap ffordd Undeb Rygbi Cymru, Dychwelyd i Rygbi Cymunedol (Cam 2b), mae’r corff llywodraethol wedi cyhoeddi nodiadau atgoffa clir o’r prosesau y mae’n rhaid eu dilyn cyn y gall clybiau a thimau ddechrau trefnu rygbi clwb.

Rhannu:

Yn ddiweddar, rhoddodd Undeb Rygbi Cymru fraslun o’r cynnig i gyflwyno Cynllun Rygbi ar gyfer y Gymuned gyda diogelwch yn gyntaf yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a oedd yn dweud y gall clybiau ddechrau trefnu hyfforddiant di-gyswllt mewn grwpiau bach o’r 1af Awst ymlaen, ar yr amod eu bod hwy, ynghyd â chwaraewyr a hyfforddwyr, yn bodloni set o feini prawf diogelwch caeth yn gyntaf.

Ers hynny, rhoddwyd cyngor manwl i’r rhai sy’n ymwneud â’r gêm gymunedol yng Nghymru ac mae cyfres o weminarau wedi’u cynnal gyda Rheolwyr Gweithrediadau Clybiau a gwirfoddolwyr allweddol eraill sy’n ymwneud â meysydd allweddol megis ymarferoldeb paratoi chwaraewyr, gwirfoddolwyr a chyfleusterau clybiau ar gyfer sesiynau hyfforddi; newidiadau i weithdrefnau cymorth cyntaf; y broses gofrestru a dychwelyd i’r gronfa hyfforddi ar gyfer clybiau.

Yn ogystal, bydd adran Hyfforddi Cymunedol Undeb Rygbi Cymru yr wythnos nesaf yn cyhoeddi canllaw gweithgareddau ar gyfer hyfforddwyr i gefnogi’r gwaith o ddychwelyd i hyfforddiant yn ddiogel ar bob lefel yn y gêm sy’n cynnwys canllawiau diogelwch a syniadau ar gyfer cynlluniau sesiwn o fewn y cyfyngiadau presennol.

Bydd y canllawiau annog yn cael eu diweddaru yn awr yn dilyn y newyddion nad oes angen bellach am ymbellhau cymdeithasol o fewn y grŵp oedran dan 11 o ddydd Llun 3ydd Awst, felly, gellir cynnwys gweithgareddau tag a rygbi cyffwrdd yn awr mewn sesiynau hyfforddi rygbi bach ar ôl i’r protocol isod gael ei ddilyn. Mae hyn yn berthnasol i rygbi i rai dan 7 i dan 11 yn unig, gyda phlant o dan 7oed a than 8 yn chwarae rygbi tag yn ôl llwybr chwaraewr URC a than 9 i rai dan 11 yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau rygbi cyffwrdd. Mae ymbellhau cymdeithasol llym yn dal i fod ar waith ar gyfer pob grŵp oedran arall.

Gyda lles chwaraewyr o’r pwys mwyaf, ac er mwyn helpu i leihau lledaeniad Covid-19, nid yw Undeb Rygbi Cymru yn caniatáu rygbi cyswllt o unrhyw fath, hyd yn oed o fewn y grŵp oedran hwn ar hyn o bryd, ond bydd yn adolygu’r maes hwn o’r gêm yn gyfnodol fel rhan o ddull graddol ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gyda’r holl rygbi cymunedol yng Nghymru wedi cael ei atal am y pedwar mis diwethaf, mae’n hanfodol ail-gyflwyno rygbi cyswllt yn ddiogel ac mewn ffordd flaengar yn ystod y cyfnod hwn. Felly, ni ddylid taclo, rycio, sgarmesu, taflu o lein, sgrymio neu cael gemau’n clybiau neu dimau eraill yn ystod y cam cyntaf hwn o’r cyfnod dychwelyd i rygbi ar unrhyw lefel o’r gêm.

Nodyn atgoffa o’r camau allweddol sydd angen eu dilyn cyn mynychu neu drefnu sesiynau hyfforddi clwb:



Mae proses gofrestru ar-lein Undeb Rygbi Cymru – sy’n gorfod bod yn gyflawn ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a gweinyddwyr tîm er mwyn cymryd rhan weithredol yn y gêm gymunedol yng Nghymru – wedi cael ei hatal tan yn awr, ynghyd â’r holl weithgarwch rygbi yng Nghymru. Ailagorodd y cofrestru ar ddydd Sadwrn, 1af Awst ond cyn y gall cofrestriad URC gael ei gwblhau, mae’n rhaid i bob chwaraewr hŷn a rhai ieuenctid, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a rhieni chwaraewyr iau, gwblhau cwrs ymwybyddiaeth Covid-19 Rygbi’r Byd.

Unwaith y bydd chwaraewyr wedi cwblhau’r cwrs Rygbi’r Byd a phroses gofrestru ar-lein URC, a bod clybiau wedi cyflawni’r holl ofynion i sicrhau y gallant ddechrau croesawu chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn ôl i hyfforddiant, gall sesiynau hyfforddi di-gyswllt ddechrau cael eu trefnu mewn grwpiau bach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau URC, Julie Paterson, “Mae diogelwch pawb sy’n ymwneud â rygbi cymunedol Cymru a’u cymunedau ehangach o’r pwys mwyaf ac wrth i ni baratoi ar gyfer y cam nesaf yn y broses o Ddychwelyd i Rygbi Cymunedol yng Nghymru fesul cam, rydym yn ddiolchgar iawn i’r 300 + o Reolwyr Gweithrediadau’r Clybiau a gwirfoddolwyr eraill yn ein clybiau a grwpiau sydd wedi cydweithio’n agos â ni dros y mis diwethaf i’n paratoi ar gyfer y cam cyntaf hwn o hyfforddiant a drefnir gan glwb.

“Mae pob un ohonom am barhau i symud ymlaen tuag at y camau nesaf o’n dychweliad at rygbi ac felly, mae’n hanfodol bod diogelwch yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bawb wrth i ni ddychwelyd i’n hamgylcheddau clwb. Yr ydym yn benderfynol o fod yn rhan o’r datrysiad i Covid-19 ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i gydweithio.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John, “O safbwynt rygbi, rydym yn gofyn i bawb o fewn y gêm, o chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill i gadw at y canllawiau yr ydym wedi eu darparu i’n helpu i ddychwelyd yn ddiogel ac yn gynyddol i weithgareddau rygbi fel y mae cyngor y Llywodraeth yn caniatáu.

“Er bod y rhain yn amgylchiadau anrhagweladwy a orfodwyd, bydd y dychweliad cychwynnol hwn i rygbi di-gyswllt yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr a hyfforddwyr ddychwelyd i gyflymder gan ddefnyddio gweithgareddau seiliedig ar sgiliau, fydd yn mireinio sgiliau unigolion a thîm ac a fydd o fudd i’r gêm yn y tymor hir. Bydd y canllaw gweithgareddau ar gyfer hyfforddwyr yn cynnig syniadau ar gyfer sesiynau diogel ond rydym hefyd yn gofyn iddynt fod yn arloesol ac annog creadigrwydd. ”

YR HOLL GYSYLLTIADAU SYDD EU HANGEN ARNOCH:
Mae chwaraewyr cofrestredig, hyfforddwyr, dyfarnwyr ynghyd â Rheolwyr Gweithrediadau Clybiau ac Ysgrifenyddion clybiau wedi derbyn canllaw cam wrth gam hawdd ei ddilyn o ran yr holl broses gofrestru. Fodd bynnag, CLICIWCH YMA am yr holl ganllawiau perthnasol hyd yn hyn.
* CLICIWCH YMA ar gyfer cwrs ymwybyddiaeth Covid Rygbi’r Byd.
* Ewch i wrugamelocker.wales i gwblhau pob cam arall i Dychweliad i Rygbi Cymunedol-proses gofrestru ar-lein URC, gwiriwr symptom Covid ac ar gyfer yr holl gymorth hyfforddi.
Bydd angen i unrhyw chwaraewyr, hyfforddwyr neu wirfoddolwyr newydd i’r gêm hefyd ddilyn y broses uchod cyn mynychu hyfforddiant clwb.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert