Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 04/11/2020

Diweddariad Statws

“Yn gyntaf, diolch yn fawr i’r holl aelodau a fynychodd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos diwethaf ac yn enwedig i’r rhai a gyflwynodd gwestiynau a/neu a gyfrannodd adborth wedi’r cyfarfod.

Rhannu:

Dyma’r tro cyntaf inni gynnal y cyfarfod hwn ar-lein a hynny oherwydd yr amgylchiadau presennol. Er nad oedd yn curo cyfarfodydd wyneb i wyneb, teimlwn fod elfennau hynod gadarnhaol i’r broses o gynnal cyfarfod ar-lein, a gobeithiwn barhau i’w defnyddio yn y dyfodol.

Diolch hefyd i’n Llywydd Gerald Davies, a siaradodd mor gadarnhaol am ein gêm genedlaethol, o’i safbwynt o fel arweinydd i’n camp; roedd yn hyfryd ei wylio’n rhyngweithio môr llwyddiannus â Rhodri Lewis a oedd yn cadeirio’r cyfarfod. I unrhyw un a fethodd y cyfarfod, roedd sylwadau Gerald am sut roedd y gair ‘chwaraeon’ yn yr iaith Gymraeg – sy’n cynnwys elfen o fwynhad neu hwyl yn ei ddiffiniad – felly’n cyd-fynd â’n gweledigaeth ni ar gyfer Rygbi Cymru yn gyffredinol. Roedd yn bleser i bawb a fu’n gwrando arno.

Mae ein gêm gymunedol wedi teimlo grym mwyaf y pandemig unwaith eto yn ystod y clô byr hwn o bythefnos. Er hyn, rydym yn falch o weld mesurau’n cael eu gosod i’w llacio ac mae gwybodaeth bwysicach am hyn i weld isod gan ein Tîm Cymunedol. Ein gobaith yw y gall yr ‘hwyl’ ddychwelyd cyn bo hir, a gall ein clybiau ddychwelyd at wneud yr hyn y maent yn eu gwneud orau, mewn amgylchedd diogel.

Hefyd, mae newyddion da isod ynglŷn â’r gêm ranbarthol, gydag arian o Gynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr (CLBILS) bellach ar gael. Nod uniongyrchol y benthyciad yw cynnal pedwar tîm rhanbarthol Cymru – Gleision Caerdydd, Dreigiau, Gweilch a’r Scarlets – drwy’r pandemig ar gyfer tymor 2020/21.  Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau buddiol gyda NatWest Cymru ac wedi cytuno ar ddatrysiad synhwyrol, ac felly yn ddiolchgar iawn i NatWest Cymru.

Rôl y Bwrdd Rygbi Proffesiynol fu i sefydlu consensws ymysg ein timau rhanbarthol ynghylch dyrannu’r arian yma. Y peth hawsaf i’w wneud byddai rhannu £20 miliwn bedair ffordd, ond er clod i bawb, cafwyd ateb llawer mwy priodol na hynny.  Mae’r pedwar rhanbarth i gyd mewn sefyllfaoedd gwahanol, ac mae eu hanghenion yn wahanol yn unol â hynny. Felly, mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wedi gwneud yr hyn y mae wedi’i sefydlu i’w wneud ac wedi cytuno ar ateb sy’n addas ar gyfer y pedwar tîm rhanbarthol. O ganlyniad, mae’r dyraniad yn un teg a synhwyrol, a chredaf y dylid canmol pawb a fu’n rhan o’r drafodaeth am gytuno ar y dyraniad yma.

Mae Wayne Pivac yn ddyn sydd â gweledigaeth hirdymor, un sy’n cael ei rannu drwyddi draw yn Rygbi Cymru. Y weledigaeth honno yw i’n tîm cenedlaethol lwyddo yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2023. Nid yw hyn yn golygu nad oes nodau tymor byr a thymor canolig a tydi colli gemau byth ar y rhestr obeithion.  Ond, wrth ein bod eisoes wedi ein gosod yn un o’r pedwar uchaf ar gyfer y twrnament yn 2023, mae llai o bwyslais ar y canlyniadau.

Yn ystod ein cyfarfodydd rheolaidd diweddar, mae Wayne wedi bod yn agored ac yn onest yn ei asesiad o’r perfformiadau ar y cae. Serch hynny, erbyn hyn mae “llinell wedi’i thynnu yn y tywod”  ac wrth nesáu at Gwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd yn gyfle o’r newydd i ddatblygu a gwella. Efallai nad oedd y perfformiadau wedi bod fel y dymunai Wayne ar gyfer ei garfan dalentog, nac yn wir yr hyn y mae’n gwybod sy’n gyraeddadwy.

Wedi unrhyw rwystr fel colli, nid oes dim yn well na chael ail gyfle i gymryd cam yn ôl er mwyn gwella a dysgu o’n camgymeriadau. Yn erbyn Iwerddon ymhen pythefnos, Cymru fydd yn agor y twrnament newydd a chyffrous, gyda’r gic gychwynnol. Bydd yn dwrnament lle bydd chwaraewyr – rhai newydd ac eraill yn parhau yn eu datblygiad – yn elwa’n aruthrol o’r profiad a lle byddwn yn ymdrechu i sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiadau a chanlyniadau.  Bydd angen i ni greu’r momentwm i sicrhau ein bod yn gwireddu ein llawn botensial yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad Guinness 2021 yn y Flwyddyn Newydd.”

Cadwch yn ddiogel.
Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru

Dychwelyd i rygbi
Gall clybiau, timau a hybiau merched ym mhob awdurdod lleol ddychwelyd i weithgareddau rygbi cymunedol pan ddaw’r cyfnod clô diweddara i ben yng Nghymru ar ddydd Llun 9 Tachwedd.
Bydd modd iddynt ddod â sgiliau a gweithgareddau ffitrwydd yn ôl gydag elfen o gyffwrdd neu dag, gan sicrhau eu bod yn dilyn yr un protocolau a mesurau Covid-19 llym a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Rhaid hefyd sicrhau nad oes unrhyw waharddiadau dros dro lleol. Ni fydd cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru, sy’n golygu bydd modd i bob chwaraewr a hyfforddwr gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant rygbi cymunedol. Cyn unrhyw sesiwn, bydd angen i bawb gwblhau’r gwiriwr symptomau ar dudalen wê ‘Game Locker’ URC, a chydymffurfio ag unrhyw ofynion profi ac olrhain. Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol ynglŷn â hyn i Reolwyr Gweithrediadau Clybiau, a byddwn yn cysylltu â hwy cyn dydd Llun, ar ôl i ni dderbyn y ddogfen yn amlinellu’r canllawiau, wedi’i diweddaru gan Lywodraeth Cymru.
Yr ydym hefyd wrthi’n gweithio gyda’r llywodraeth, ein hyswirwyr a phartneriaid eraill i archwilio sut y gallai ein gêm ddatblygu dros y misoedd nesaf, yn dibynnu ar sefyllfa iechyd y cyhoedd.

Benthyciad NatWest Cymru ar gyfer y Rhanbarthau
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cwblhau’r cytundebau gyda’r pedwar Rhanbarth ar gyfer eu dyraniad o’r benthyciad o £20m o’r Cynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr (CLBILS) gan NatWest Cymru.
Rhoddodd bancwr penodedig URC y gymeradwyaeth derfynol ar gyfer cyllid CLBILS yn gynharach ym mis Hydref ac mae’r cytundebau gyda’r Rhanbarthau nawr yn golygu y gellir trosglwyddo’r arian ymlaen iddynt.
Nod yr arian yw cynnal pedwar tîm rhanbarthol Cymru – Gleision Caerdydd, Dreigiau, Gweilch a Scarlets – ar gyfer y tymor 2020/21. Oherwydd yr effaith negyddol y mae’r pandemig parhaus wedi’i chael ar allu pob busnes i gynhyrchu refeniw yn y ffordd arferol, mae angen yr arian yma ar y rhanbarthau.
Daeth y penderfyniad a’r sut i ddyrannu arian CLBILS gan y rhanbarthau, gan gydweithio yn y Bwrdd Rygbi Proffesiynol. Cytunwyd ar y cyd yr hyn yr oedd ei angen ar bob un ohonynt i bontio heriau’r tymor presennol.
Rhwng Undeb Rygbi Cymru a NatWest Cymru y mae cytundeb y benthyciad o £20 miliwn. Yna caiff yr arian ei fenthyg ymlaen i bob rhanbarth unigol gyda thelerau’r cytundebau rhwng URC a’r rhanbarthau yn adlewyrchu telerau’r benthyciad gwreiddiol.
Bydd Gleision Caerdydd yn derbyn £5.0 miliwn, y Dreigiau £4.5 miliwn, y Gweilch £5.0 miliwn a’r Scarlets £5.5 miliwn.
Dywedodd Amanda Blanc, cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol: “Rydym yn hynod ddiolchgar i NatWest Cymru am gefnogi rygbi proffesiynol yng Nghymru gyda’r cyfraniad hynod arwyddocaol hwn a fydd yn helpu i’n cynnal am y flwyddyn i ddod.”
“Bu aelodau’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn cymryd rhan mewn trafodaethau agored am ddyrannu arian yn ôl anghenion unigol a gwahanol pob tîm rhanbarthol
“Dyma bwrpas y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, i reoli, hwyluso a galluogi rygbi proffesiynol yng Nghymru ac i gynnal pob un o’r pum tîm proffesiynol yn unol ag anghenion pob un ar adeg benodol.
“Dangoswyd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn gweithio ar ei orau, wrth i ranbarth dderbyn a phleidleisio ar benderfyniad sy’n rhoi llai o arian iddynt eu hunain na ranbarth cyfagos, ond am resymau y gellir eu cyfiawnhau a’u dyblygu’n llwyr.
Penodwyd NatWest Cymru yn fancwr swyddogol i URC ym mis Mawrth 2019. Cafwyd cytundeb a ddarparodd becyn ariannu o tua £40 miliwn ar y pryd, gan gynnwys cyfleusterau credyd cylchol i gefnogi enillion sy’n gwella gwariant cyfalaf ac anghenion cyfalaf parhaus.
Dywedodd Stuart Allison, sy’n Gyfarwyddwr gyda NatWest Cymru: “Mae’r pandemig byd-eang wedi creu heriau economaidd digynsail i lawer o sectorau, gyda digwyddiadau a lletygarwch wedi eu taro gwaethaf.”
“Yn 2019 strwythurwyd trefniant ariannu gennym a gynlluniwyd i hwyluso twf ac arallgyfeirio refeniw.
“Mewn ymateb i heriau uniongyrchol y pandemig buom yn ailedrych ar y trefniant hwnnw. Rydym wedi llunio strwythur a fydd yn darparu cyllid a hyblygrwydd ychwanegol i gefnogi Undeb Rygbi Cymru ac, yn ei dro, rygbi proffesiynol yng Nghymru gyda’r benthyciad hwn.
“Fel corff llywodraethu’r gêm yng Nghymru, mae URC yn gweithio i sicrhau ei fod yn y sefyllfa gryfaf bosibl i adeiladu sefydlogrwydd a llwyddiant yn y gêm broffesiynol a chymunedol.
“Rydym yn hyderus y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i helpu i leddfu effaith negyddol y pandemig ac yn falch o allu cynnig ein cefnogaeth.”
Cynllun gan y llywodraeth yw Cynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr (CLBILS). Bwriad y cynllun yw hwyluso mynediad at gyllid i fusnesau canolig a busnesau mwy a gaiff eu heffeithio o ganlyniad i’r coronafeirws. Yn unol â’r telerau, caiff y benthyciwr gwarant rannol (80%) gan y llywodraeth, yn erbyn gweddill yr hyn sy’n ddyledus, ond mae’r benthyciwr yn parhau i fod yn gwbl atebol am y ddyled.

Fideos ffitrwydd Bobby ar-lein nawr
Mae Paul ‘Bobby’ Stridgeon, hyfforddwr cryfder a chyflwr sgwad Cymru (a thîm Llewod Prydain ac Iwerddon’ yn y gorffennol) wedi cynhyrchu cyfres o fideos ffitrwydd. Maent yn amlinellu sesiynau hyfforddi ar gyfer pob oedran a gallu, gyda chymorth y chwaraewyr rhyngwladol Gareth Davies, Manon Johnes a Kayleigh Powell.
Dywed Bobby fod hyfforddiant aerobig ac anaerobig yn ffactorau pwysig mewn unrhyw raglen hyfforddi ar unig beth ydych chi angen i ddechrau ei sesiynau ydi cae rygbi (neu unrhyw gae chwarae).
Dyma Gareth a Manon yn cymryd rhan ac yn mynd drwy sesiynau cyntaf Bobby:
https://community.wru.wales/video/rugby-ready-running-sessions/
5. Newyddion rygbi

WES YN DWEUD BOD RYGBI WEDI EI ACHUB
Mae prif hyfforddwr Clwb Rygbi New Panteg, Wes Cunliffe, yn mynnu bod Rygbi Cymru wedi ei achub o fywyd o drosedd. Credai gall eraill yn yr un sefyllfa ag o, elwa o’r gamp.
Gobeithiai’r olwr Uwch Gynghrair, sydd wedi chwarae dros Lynebwy, Casnewydd a Cross Keys ac sy’n gobeithio cynrychioli Abertawe pan fydd rygbi’n ailddechrau, yn ei wneud yn amlwg fod chwarae rygbi wedi trawsnewid ei fywyd.
Yn ei arddegau, yn ardaloedd Pillgwenlli a Dyffryn yng Nghasnewydd, cafodd Wes ei ddal mewn awyrgylch o dorcyfraith. Daeth y trobwynt, pan gafodd Wes ei gyflwyno i Glwb Rygbi Sant Joseph gan swyddog heddlu lleol Darren Morgan a’i gynghori i wneud defnydd da o’i egni di-ben-draw a’i allu athletaidd.
Ymlaen ychydig flynyddoedd, ac erbyn hyn mae Wesley yn canmol y gamp, ac yn enwedig y bobl a’r amgylchedd croesawgar a wynebodd mewn clybiau rygbi ledled Gwent, am ddarparu’r dylanwad cadarnhaol a chefnogol yr oedd ei angen arno.
“Pan gynigiodd Glynebwy fy nghontract cyntaf i mi, cefais fy narbwyllo gan fy nhaid, dywedodd wrthyf y gallwn fod yn y carchar neu’n waeth a dyma oedd fy nghyfle i ddod allan o’r bywyd hwnnw am byth…” Dywedodd.
“… Yng nghlwb rygbi New Panteg, rydym yn croesawu pawb i’r clwb ac rwy’n credu bod hynny’r un fath i’r mwyafrif helaeth o glybiau rygbi yng Nghymru. Mae’n bwysig cyfleu’r neges honno. Mae rygbi i bawb, waeth beth fo’ch siâp, maint, hil, lliw neu dueddfryd rhywiol.”
Mwy yma:


UN CYFNOD YN DOD I BEN AC UN ARALL YN DECHRAU YM MHENFRO

Mae’n ddiwedd cyfnod i Undeb Rygbi Penfro a’r Cylch yn dilyn cadarnhad bod Charles Davies, sydd wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd ers 1984, wedi camu yn ôl.
Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithwir yr undeb neithiwr, croesawodd Davies, a roddodd rybudd ddiwedd 2019 mai dim ond am flwyddyn arall y byddai’n gwasanaethu, aelod o Glwb Rygbi Hendygwyn-ar-Daf, Suzanne Davies fel ei olynydd.
Hi fydd y trydydd ysgrifennydd yn unig i wasanaethu ers yr Ail Ryfel Byd, gyda Glyn Morgan yn gwasanaethu am bron i ddeugain mlynedd ei hun cyn i Davies wneud ei gyfnod o 36 mlynedd.
Bydd Steve Holmes (Cadeirydd), Brian Davies (Llywydd), a Delyth Summons (Trysorydd) i gyd yn parhau yn eu rolau presennol.
(Gyda diolch i Fraser Watson yn Western Telegraph): Mwy yma


O’FLAHERTY YN LLWYDDO

Mae sawl chwaraewr rhyngwladol wedi deillio o Uwch Gynghrair Cymru, ond penwythnos diwethaf  roedd modd ychwanegu trydydd chwaraewr o’r gynghrair i ddod yn Bencampwr y Cwpan Heineken.
Ac ar ôl ymuno â Leigh Halfpenny a Liam Williams i gasglu’r anrhydedd eithaf mewn rygbi yn hemisffer y gogledd, mae Tom O’Flaherty yn gobeithio mynd am y dwbl gyda Exeter Chiefs. Mae’n gobeithio ychwanegu teitl Uwch Gynghrair Gallagher yn Twickenham y penwythnos hwn.
Mae ei fedal o’r fuddugoliaeth Ewropeaidd yn erbyn Racing 92, eisoes yn ymuno a llith o lwyddiannau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys dau deitl o Ysgolion Dan18 Cenedlaethol y Daily Mail, medal Cwpan Cenedlaethol URC o 2015, pan chwaraeodd i dîm Bridgend Ravens a churo Pontypridd yn Stadiwm y Principality, a medal Cwpan Eingl-Gymreig o 2018 gyda Exeter Chiefs.
Yn anedig o Lambeth, yn 26 oed mae’r cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd wedi dod ymhell mewn cyfnod byr. Efallai ei fod wedi bod yn llwybr anarferol i’r brig, ond am y tro o leiaf, mae’n ymddangos y bydd asgellwr Exeter Chiefs yn parhau ar ei drywydd llwyddiannus.
O chwarae fel mewnwr llwyddiannus yng Ngholeg Dulwich, chwaraeodd dros Blackheath, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, Academi Montpelier, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Gweilch cyn arwyddo i Exeter Chiefs yn 2017. Llwyddodd i ddal ei safle i chwarae yn y gêm yn Ashton Gate penwythnos diwethaf, er bod cyn-asgellwr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, Alex Cuthbert yn y garfan.

Mwy yma:

PARRY YN PARHAU TEYRNASIAETH SIR GÂR
Sam Parry yw’r diweddaraf o Goleg Sir Gâr i chwarae i Gymru. Chwaraeodd y bachwr o’r Gweilch, ei gem gyntaf dros Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc penwythnos diwethaf. Daeth oddi ar y fainc ym Mharis gan ychwanegu at hanes parhaus Sir Gâr o ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol. Yng ngharfan bresennol Cymru ar gyfer gemau’r hydref 2020 dan adain Wayne Pivac mae Gareth Davies, Samson Lee, Ryan Elias, Josh Adams a Parry, i gyd wedi dod drwy system Sir Gâr.
Chwaraeodd y pump yn eu hymgyrch yn erbyn Ffrainc.
Mae cyfarwyddwr rygbi’r coleg Euros Evans hefyd wedi helpu chwaraewyr fel Scott Williams ac Aled Davies, Adam Jones a Rob McCusker i’r crys coch rhyngwladol.
O dan arweiniad Evans y gwnaeth Parry’r newid o’r rheng ôl i’w safle fel bachwr, penderfyniad sydd yn y pen draw wedi ei helpu i gynrychioli ei wlad.
Mwy yma:


DYLANWAD HIR OES UN O’R BRODYR WILLIAMS

Bu farw Peter Williams, a helpodd i hyfforddi dau o dimau Dan18 mwyaf llwyddiannus Ysgolion Cymru, fis diwethaf ar ôl salwch byr.
Bu’n hyfforddwr cynorthwyol i John Huw Williams ar y daith i Seland Newydd yn 1990, pan gurodd Cymru dîm ifanc y Crysau Duon 17-11 yn Christchurch. Bu hefyd yn brif hyfforddwr bedair blynedd yn ddiweddarach pan aeth tîm Gethin Watts i Awstralia ac ennill 19-12.
Aeth Scott Quinnell ac Andrew Lewis ymlaen i chwarae dros Gymru o’r tîm hwnnw yn 1990 yn Seland Newydd, tra bod rhai o’r tîm a deithiodd i Awstralia yn ‘94 yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol – Martyn Williams, Nathan Thoms, James Richards, Chris Anthony, Nick Walne, Jon Funnell a Leigh Davies.
Yn frawd i gyn asgellwr Llanelli, Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, JJ Williams, hyfforddodd fel athro yng Ngholeg Addysg Caerllion ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Maesteg. Yn ogystal â bod yn chwaraewr rygbi da, enillodd deitlau naid driphlyg Ysgolion Cymru a Dynion Iau Cymdeithas Athletau Amatur Cymru hefyd yn 1959.
Mwy yma

Yn olaf… JJ yng ngeiriau Gerald

Mae ein Llywydd Gerald Davies wedi dilyn teyrngedau i’r diweddar JJ Williams, a fu farw’r wythnos diwethaf:
“Roedd JJ Williams yn un o’r mabolgampwyr prin hynny, yn fwy prin yn yr oes sydd ohoni, os o gwbl, i bontio’n hynod lwyddiannus o un gamp i’r llall.
Dechreuodd fel athletwr rhyngwladol o Gymru yn sbrintio yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nghaeredin (1970), ac yna datblygu i ddod yn chwaraewr rygbi gan chwarae dros Gymru a’r Llewod. Roedd yn wych, yn wirioneddol wych, yn y ddau. Un o’r goreuon ar yr asgell, ble gallech deimlo’n hyderus y byddai’n llwyddo mewn gêm.
Er nad yw’n ymddangos fod llawer o wahaniaeth rhwng esgid rhedeg ac esgid rygbi, mewn gwirionedd, mae gwahaniaeth mawr. Mae rhedeg mewn llinellau syth ar arwyneb synthetig, heb rwystr, yn hollol wahanol i redeg ar gae gyda phridd yn glynu wrth sodlau eich traed, pêl yn eich llaw, yn edrych i’r chwith a’r dde, ac yn cael eich herio gan unrhyw nifer o bobl sy’n ceisio eich atal. Roedd yn gyfforddus yn ei gam. Bob amser yn rhoi’r argraff fod digonedd o amser ac o fod â rheolaeth lwyr. Roedd yn bleser ei wylio…
Roedd yn ŵr bonheddig, yn ffrind a chyfaill da, ac yn ddylanwad cofiadwy i’r gamp.”
Mwy gan Gerald yma:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert