Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 02/12/2020

Diweddariad Statws

‘Nid oes gwadu, pan gyhoeddodd y Gweinidog Chwaraeon Nigel Huddlestone dros wythnos yn ôl, y bydd cymorth drwy ffurf pecyn o fesurau ariannu ar gael, roedd yn cydnabod pwysigrwydd rygbi i gymdeithas yn Lloegr a adawodd rygbi Lloegr mewn cyflwr llawer gwell nag yr oedd wedi bod ynddi eiliadau ynghynt.

Rhannu:

Fel y gallech ddisgwyl, gofynnwyd inni sawl gwaith am sylwadau cyhoeddus ar y pwnc ers hynny.  Dyma wahoddiad rydym wedi’i wrthsefyll hyd yma ac yn un y byddwn yn parhau i’w wrthsefyll tra bod trafodaethau cadarnhaol yn parhau gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n ddigon i ddweud ein bod wedi gwneud argraff ar ein Prif Weinidog ar bwysigrwydd Rygbi Cymru i’n cenedl. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â’r effaith ddinistriol bosibl y bydd diffyg parhaus mewn cyllid ar gyfer ein gêm yn ei chreu. Fel y byddech yn disgwyl i mi wneud hynny, rwyf wedi tynnu sylw at y ffaith bod rygbi yng Nghymru yn chwarae rhan fwy yng nghymdeithas Cymru nag y mae yn Lloegr; mae’n galonnog i’n cymunedau.

Mae pandemig Covid-19 a’r mesurau canlyniadol i’w reoli wedi taro Rygbi Cymru yn galed. Nid yn unig yw hyn yn cael sgîl effaith ariannol ond yn bwysicach yn gymdeithasol. Rydym fel rhywogaeth, yn cymdeithasu o fewn rygbi ac yn mwynhau cwmni ei gilydd yn fawr; ac felly mae pryderon lles diddiwedd i’w hystyried gan gynnwys iechyd meddwl.  Yr ydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein clybiau sy’n aelodau a’n gêm broffesiynol yn goroesi hyd yma. Erbyn hyn yr ydym wedi cyrraedd y pwynt lle nad eisiau cymorth allanol ydyn ni, ond ei angen.

Yr ydym yn chwilio am gydraddoldeb, ar sail deg a chymesur, â’r hyn a roddwyd i rygbi Lloegr. Mae ein clybiau, ein timau cenedlaethol, ein rhanbarthau, ein rhaglenni cymunedol – i gyd yn rhan o’n DNA ac mae pob agwedd o’r gêm dan straen enfawr. Mae chwaraeon yn ymwneud â chydraddoldeb, a chwarae teg i bawb, felly nid ydym yn credu y dylai Rygbi Cymru fod o dan anfantais o’i gymharu â’n cymdogion agos.

Rydym yn hapus gyda’r trafodaethau hyd yn hyn ac rydym yn hyderus bod ein llais yn cael ei glywed ac y bydd ein galwad am help, ar ran Rygbi Cymru gyfan, yn cael ei chlywed o ddifrif.

Rydym wedi ymdrechu, ym mhob dim yr ydym wedi’i wneud yn ystod y pandemig hwn, i gymryd cyfrifoldeb a helpu i ysgwyddo’r baich o’i ymladd lle bynnag y bo modd; o sicrhau fod ein cyfleusterau cyfunol ar gael i’n GIG i chwaraewyr clwb lleol yn darparu parseli bwyd yn eu cymunedau. Rydym yn deall ac yn cydymdeimlo â’r heriau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, sydd â llawer o bobl lwglyd i’w bwydo wrth iddynt ein harwain i gyd at ddiogelwch a, gobeithio, dychwelyd at ryw fath o normalrwydd unwaith y bydd brechlyn yn cyrraedd.

Ond nid ydym wedi gadael i hyn ein hatal rhag cyflwyno’r achos dros Rygbi Cymru i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn gallu cyfrif cymaint o glybiau a phosib allan o’r pandemig hwn ar y dechrau, a bod ein gêm broffesiynol wedi goroesi mewn modd cystadleuol, ac yn barod i lewyrchu unwaith eto pan y bydd hyn i gyd drosodd.

Byddai peidio â gweithredu nawr yn anfaddeuol ac yn afresymol i unrhyw un Cymreig.’

Yr eiddoch mewn rygbi,
Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru

Burgess yn is-gadeirydd wrth i’r Bwrdd gwblhau ad-drefniad
Mae Liza Burgess wedi cael ei hethol yn is-gadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Yn arloeswr gêm y Merched, hyfforddwr enwog a chyn-gapten Cymru, Burgess oedd y cyfarwyddwr benywaidd cyntaf i gael ei ethol i’r Bwrdd drwy’r ennill pleidlais aelodau clwb, ym mis Tachwedd 2019.

Mae ei phenodiad yn cwblhau cyfnod pontio ble mae Robert Butcher yn cymryd yr awenau oddi wrth Gareth Davies fel cadeirydd, a chyn-gyfarwyddwr cyllid y grŵp Steve Phillips yn cymryd lle Martyn Phillips fel Prif Swyddog Gweithredol.

Mae Ieuan Evans, a lenwodd y swydd a adawodd Davies pan enillodd etholiad i’r Bwrdd, hefyd yn cymryd lle’r cyn-gadeirydd fel un o dri chynrychiolydd enwebedig URC ar Rygbi’r Byd – ochr yn ochr â’r cadeirydd newydd Butcher ac aelod o’r Bwrdd Gweithredol Julie Paterson sydd ill dau’n parhau yn y rolau.

Mae Evans, cyn-adain Cwins Caerfyrddin, Llanelli, Caerfaddon, Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon sydd wedi creu gyrfa nodedig lysgenhadol ac yn y cyfryngau ers ymddeol, hefyd yn ymuno â Bwrdd y Llewod ochr yn ochr â Steve Philips.
Hefyd, bydd cadeirydd URC, Robert Butcher, a’r Prif Swyddog Gweithredol, Steve Phillips, yn cynrychioli URC ar Fwrdd y Chwe Gwlad.

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint croesawu Liza fel is-gadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru,” meddai’r cadeirydd Rob Butcher.

“Mae Liza wedi bod yn aelod annatod o’n Bwrdd ers ei hethol yn 2019. Er bod ffigyrau benywaidd eraill fel Amanda Blanc ac Aileen Richards yn ymuno â hi, fel cynrychiolydd etholedig mae hi’n fodel rôl arbennig o bwerus i’r brîd newydd o aelod o’r Bwrdd yr ydym yn gobeithio y bydd ein clybiau yn parhau i’n helpu i gynhyrchu.

“Rydym hefyd yn croesawu Ieuan i ddwy swydd hollbwysig, gyda Rygbi’r Byd a chyda’r Llewod, ac rwy’n gwybod y bydd yn cynrychioli Rygbi Cymru i’r safonau uchaf yn y ddwy rôl.”

Cyllid Clwb
Rydym wedi ysgrifennu yn unigol at glybiau sy’n aelodau i egluro’n fanwl y broses, a’r cefndir, i gasgliad y Bwrdd Gemau Cymunedol ynglŷn â’r model ar gyfer cyllid i glybiau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn fyr, dyfernir cyllid datblygu i glybiau yn seiliedig ar gyfartaledd o’r symiau a gawsant yn ystod tymhorau 2018/19 a 2019/20.

Gyda’r cronfeydd brys (ac eithrio Storm Dennis) eisoes wedi’u dyrannu ers mis Gorffennaf 2020, mae Bwrdd Gemau Cymunedol wedi sicrhau na chafodd unrhyw glwb swm llai nag a wnaethant y tymor diwethaf.

Er ei fod yn eithriadol, cytunwyd bod hyn yn cyd-fynd â’r nod dymunol i helpu pob clwb i ddod allan o’r pandemig ynghyd.

Cyn bo hir, bydd pob clwb yn derbyn llythyr yn amlinellu eu taliadau grant datblygu penodol gan ddefnyddio’r model a ddisgrifir.

Rhestr o Daliadau
Gorffennaf 27ain Grant Cyfarpar Diogelu Personol (a dalwyd eisoes)
Medi 30ain Grant Craidd (a dalwyd eisoes)
Hydref 30ain Cronfa Argyfwng (a dalwyd eisoes)
Tachwedd 30ain Grant Craidd a’r Gronfa Argyfwng
Rhagfyr 18fed Grant Datblygu – Taliad 1af
Rhagfyr 31ain Cronfa Argyfwng
Ionawr 29ain Grant Craidd
Chwefror 26ain Grant Datblygu – 2il daliad
Ebrill 30ain Grant Craidd a 3ydd Taliad Grant Datblygu

Dychwelyd i Rygbi
Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn falch iawn o gymeradwyo cyflwyno gemau cyfeillgar rygbi tag (dan 7 oed a dan 8 oed) a gemau cyfeillgar rygbi chyffwrdd ar sail clwb yn erbyn clwb ar gyfer pob lefel o’r gêm.

Cyhoeddodd URC ganllawiau ar gyfer y cam nesaf yma o gynllun Dychwelyd i Rygbi’r Gymuned URC yn ystod gweminar gyda mwy na 300 o Reolwyr Gweithrediadau Clwb, yn trafod materion fel yr angen i deithio mewn car o fewn swigod cartrefi yn unig, a fframwaith awgrymedig ynglŷn â niferoedd a rheolau rygbi cyffwrdd ar gyfer y cyfnod hwn.

Rhaid trefnu gemau rhwng timau a chlybiau o fewn yr un ardal URC, ac mae protocolau diogelwch a hylendid llym yn parhau yn hanfodol ar gyfer pob sesiwn hyfforddi a gemau cyfeillgar.

Mwy yma:

Newyddion Rygbi

JONES YN TORRI AR DRAWS CYFARFOD GIG
Yn ddiweddar, gwnaeth Alun Wyn Jones dorri ar draws fideo gyda’r Bwrdd Clinigol Meddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Trefnwyd yr alwad annisgwyl gan raglen Clwb Rygbi S4C ac URC fel arwydd o ddiolch i staff gweithgar GIG yn eu hymdrechion diflino yn ystod pandemig parhaus Covid-19.
Fe wnaeth cyflwynydd Clwb Rygbi Catrin Heledd dorri ar draws y cyfarfod yn annisgwyl gyda chriw camera.

Dywedodd Aled Roberts, Cyfarwyddwr Y Bwrdd Clinigol Meddygaeth: “Roedd y staff wedi syfrdannu o weld Alun Wyn Jones yn ymuno a’n cyfarfod mewnol, ond pwy well i ymuno â ni! Roedd y tîm wrth eu bodd o’r cyfle i ofyn cwestiynau iddo ac wedi eu calonogi gan ei neges o ddiolch.

“Roedd yn hwb gwych i frwdfrydedd y tîm, yn enwedig wrth i ni wynebu Gaeaf heriol ac rydym mor ddiolchgar ei fod wedi cymryd yr amser allan i siarad â ni.”
Dywedodd Jones yn y cyfarfod: “Mae’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud i gymdeithas a chymunedau yn enfawr, felly diolch yn fawr ar ran ein teuluoedd, y garfan a phawb sy’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru.”

Linc i’r clip:

OWENS YN ENNILL Y CLOD 

Mae Nigel Owens wedi derbyn llu o negeseuon personol o ewyllys da a dymuniadau da gan enwogion o’r byd rygbi ar drothwy dyfarnu 100 o gemau prawf, camp arloesol.

Owens oedd y dyfarnwr cyntaf mewn hanes i gyrraedd y garreg filltir hudolus yn ystod gem Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Stade de France a welodd Ffrainc yn trechu’r Eidal 36-5 y penwythnos diwethaf.

Dywedodd capten Seland Newydd, Sam Cane, ar ran y Crysau Duon, ei fod bob amser yn edmygu’r ffordd nad oedd Owens byth yn cymryd ei hun yn rhy ddifrifol ond ei fod yn weithiwr proffesiynol yn y pen draw a ‘phan ddaw’n fater o ddyfarnu’r gêm mae’n ddyn gwych i’w gael yn rhan o’n camp.’

Mae hyfforddwr buddugol Cwpan y Byd Rassie Erasmus wedi llongyfarch Owens ar y ffordd y mae wedi bod yn esiampl i bob un ohonom ar y cae ac oddi arno.’

“Gan bawb yn Ne Affrica, y cyhoedd a’r holl gefnogwyr a chwaraewyr hoffem ddiolch i ti a dy longyfarch ar dy gyflawniad,” ychwanegodd Erasmus.

Dywedodd cyn-brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fod yr hyn y mae Owens ‘wedi’i gyflawni ar gyfer Rygbi Cymru a Rygbi’r Byd yn gwbl eithriadol.’

Ychwanegodd canolwr Awstralia Angus Gardner fod Owens yn arwr iddo wrth dyfu i fyny, ac roedd yn wych gweithio gydag ef yn ystod y blynyddoedd diwethaf ‘ac mae cyrraedd 100 o gemau prawf yn ‘anhygoel’

Mwy yma:

HWYL FAWR I HOPKINS

Mae un o wirfoddolwyr hirsefydlog rygbi i blant bach, iau, ieuenctid â hyn yn Rygbi Cymru, Mark Hopkins, wedi camu’n ôl o ranbarth Gogledd y Gleision ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth i’r gêm.

Mae Hopkins wedi bod yn wirfoddolwr rygbi cymunedol ers dros 25 mlynedd yn bennaf yng Nghymdeithas Ardaloedd Iau Merthyr Tudful, Merthyr a De Powys, Cymdeithas Ardaloedd Iau Canol Cymru ac o fewn Grŵp Rheoli Gêm Dan 19 Ardal C.

Mae wedi cyflawni ystod eang ac amrywiol o rolau yn ei 25 mlynedd o wasanaeth ac mae wedi hyfforddi, rheoli tîm a chefnogi datblygiad cannoedd o gyfranogwyr ifanc ar eu taith ym myd rygbi.

Yn Clwb Rygbi Dowlais y dechreuodd Hopkins. Bu’n hyfforddi ei fab Lloyd pan ddechreuodd chwarae rygbi i blant bach ac yna ymlaen i’r tîm ieuenctid, tra hefyd yn cefnogi chwaraewyr lleol a ddatblygodd i gynrychioli nifer o glybiau ym mwrdeistref Merthyr Tudful a thu hwnt ar lefel gymunedol a phroffesiynol.

Roedd ganddo hefyd nifer o swyddogaethau ar bwyllgor Clwb Rygbi Dowlais, o rôl fel ysgrifennydd trefnu gemau i gadeirydd y tîm iau. Mae hefyd wedi bod yn weinyddwr allweddol ar gyfer Cymdeithas Adraloedd Iau Canol Cymru.

Cyfaddefodd Hopkins ei fod yn camu’n ôl er mwyn ‘trosglwyddo i waed gwirfoddol newydd’,  y genhedlaeth nesaf a fydd yn cefnogi rygbi dan 19 yn Ardal C ochr yn ochr ag URC, ac oherwydd ymrwymiadau ei waith a bywyd teuluol.

“Mae Mark wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig gwych i rygbi yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn crynhoi ei bersonoliaeth anhunanol a’i angerdd dros bob peth sy’n ymwneud a rygbi yng Nghymru,” meddai Rheolwr Cymunedol Rhanbarthol URC, Gavin Dacey.

Ychwanegodd Chris Ower, Rheolwr Cyfranogiad Cenedlaethol URC: “Mae Mark yn berson uchel ei barch yn Rygbi Cymru. Mae’n cynrychioli popeth sy’n dda ac mor bwysig mewn gwirfoddolwr a gweinyddwr cymunedol. Mae ei wybodaeth a’i gefnogaeth i clybiau sy’n ymwneud â rygbi i blant bach, blant iau ac ieuenctid dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy. Ar ran URC hoffem fynegi ein diolch, a gobeithio y bydd yn awr yn gallu treulio mwy o amser gyda’i deulu hyfryd a chefnogi Clwb Rygbi Caerdydd neu Dîm Gleision Caerdydd o derasau Parc yr Arfau.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert