Neidio i'r prif gynnwys

Macron yn cynnig gwerth £1 miliwn o git am ddim i’r gêm gymunedol

Macron yn cynnig gwerth £1 miliwn o git am ddim i’r gêm gymunedol

12.10.20 - WRU - Wales Women Macron Kit Launch - Gwen Crabb

Mae pob clwb URC, Hybiau Menywod, timoedd gallu cymysg a Byddar Cymru wedi cael cynnig cyfle i hawlio o leiaf un set o git am ddim ar gyfer y tymor nesaf yn rhan o nawdd cit Undeb Rygbi Cymru gyda Macron.

Rhannu:

Daeth Macron yn gyflenwr cit swyddogol URC yn 2020, gan ddarparu offer chwarae a hyfforddi i dimoedd cenedlaethol a thimoedd ieuenctid Cymru. Bydd Macron yn buddsoddi £6 miliwn dros chwe blynedd ar gyfer cit am ddim i’r gêm gymunedol yn rhan allweddol o’r bartneriaeth arloesol.

Mae clybiau wedi’u gwahodd i gofrestru ar gyfer y cynnig a hawlio rhwng £1500 a £6300 o dalebau cit am ddim ar gyfer y tymor nesaf gan ddibynnu ar y timoedd y maen nhw’n eu cynnal. Gellir defnyddio’r talebau, ar ôl eu dyrannu, mewn siopau Macron lleol a fydd yn helpu’r clybiau i ddewis, dylunio ac archebu cit.

O safbwynt clwb cymunedol, mae dyraniad ar gyfer timoedd 1af dynion y gellir ei ail-ddyrannu i dimoedd eraill y clwb fel yr ail dîm, timoedd hŷn neu dimoedd iau, os, er enghraifft, yw’r clwb eisoes wedi cynhyrchu cit tîm 1af dynion ar gyfer y tymor nesaf.

Caiff clybiau hefyd hawlio talebau cit Macron am ddim i brynu set o git ar gyfer eu timoedd ieuenctid a’u tîm menywod uwch. Bydd yn rhaid i’r dyraniad hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer y timoedd penodol hynny.

Bydd timoedd gallu cymysg a Hybiau Menywod ledled Cymru yn cael cynnig y cyfle i hawlio set o git Macron am ddim, a bydd Macron yn darparu cit i dîm Byddar Cymru a thimoedd cynhwysol eraill hefyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John, “Rydym wrth ein boddau yn gallu cynnig swm mor sylweddol o git Macron am ddim i’r gêm gymunedol, a fydd yn cael ei werthfawrogi’n arbennig ar hyn o bryd. Bydd y talebau yn galluogi ein holl glybiau, Hybiau Menywod a thimoedd cynhwysol i leihau eu costau cit neu i ail-ddyrannu arian nawdd gwerthfawr. Mae Macron yn falch o ddarparu cit i nifer o glybiau cymunedol yng Nghymru eisoes, ac mae’n siŵr y bydd eu hawydd i groesawu’r maes allweddol hwn o’r gêm yn atgyfnerthu’r berthynas honno.”

Cysylltwyd â chlybiau, Hybiau Menywod a thimau cynhwysol yn gofyn iddynt gofrestru ar gyfer y cynnig erbyn dydd Gwener 5 Mawrth, gan nodi’r timau y maen nhw’n dymuno hawlio talebau cit ar eu cyfer.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert