Neidio i'r prif gynnwys

Dathliad o rygbi i nodi canmlwyddiant yr Urdd a’r Crawshays

Dathliad o rygbi i nodi canmlwyddiant yr Urdd a’r Crawshays

Bydd Undeb Rygbi Cymru, yr Urdd a’r Crawshays yn cynnig gweithgareddau rygbi i bob oed

Bydd Urdd Gobaith Cymru a chlwb rygbi’r Crawshays yn cyd-ddathlu eu canmlwyddiant mewn digwyddiad arbennig  yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn Dydd Sadwrn.

Rhannu:

Bydd tri gêm yn cael eu chwarae yn rhad ac am ddim – gemau rhwng yr Urdd a’r Crawshays dan 18 – merched a fechgyn – a gêm arbennig i helpu paratoi RGC am y tymor rhwng RGC Gwrthryfelwyr a RGC Barbariaid.

Bydd Undeb Rygbi Cymru, yr Urdd a’r Crawshays yn cynnig gweithgareddau rygbi hwylus i bob oedran, cyn i dimoedd rygbi merched a bechgyn Dan 18 yr Urdd a’r Crawshays fynd benben â’i gilydd ar gae Stadiwm CSM. Mae’r digwyddiad yn deyrnged i gêm hanesyddol a gynhaliwyd i nodi carreg filltir yr Urdd yn 50 oed. I gloi’r diwrnod, cynhelir gêm arbennig rhwng RGC Gwrthryfelwyr a RGC Barbariaid am 5:30yh.

Hanner can mlynedd yn ôl, ar 26 Ebrill 1972, daeth sêr disgleiriaf timau rygbi Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon at ei gilydd yn stadiwm Parc yr Arfau, Caerdydd i chwarae mewn gêm i ddathlu hanner-canmlwyddiant yr Urdd. Gofynnwyd i Carwyn James a Barry John i godi tîm o gewri i wynebu ei gilydd. Roedd tîm Barry John i gynnwys yn bennaf aelodau o dîm rygbi cenedlaethol Cymru a gipiodd Coron Driphlyg a’r Bencampwriaeth y flwyddyn flaenorol – a’r rhan fwyaf ohonynt yn dal i’w hystyried eu hunain yn aelodau o’r Urdd. Roedd pymtheg Carwyn James i gynnwys yn bennaf rai o’r ‘Llewod’ o Loegr, Yr Alban ac Iwerddon, oedd yn fwy na pharod i ymuno yn y dathlu er budd prif fudiad ieuenctid Cymru.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, “Nid yn unig yw’r achlysur yma yn ffordd unigryw o ddathlu canmlwyddiant yr Urdd ynghyd â thîm y Crawshays, ond mae hefyd yn ffordd o deyrnged i gêm rygbi go arbennig a gynhaliwyd 50 mlynedd yn ôl i ddathlu hanner canrif o’r Urdd.

“Roedd y gêm honno yn un hanesyddol am fwy nag un rheswm – gan gynnwys cais gorau’r noson gan Barry John, o fewn tri munud i’r diwedd. Ychydig a wyddai mai dyna fyddai gêm olaf Barry cyn iddo ymddeol o chwarae rygbi, ac mai ei gais munud olaf yng ngêm yr Urdd fyddai ei gais olaf am byth.

“Mae’r Urdd bellach yn dathlu’r 100, a dyma gyfle hollol unigryw i’n haelodau unwaith eto. Mae’r gemau hyn yn gyfle i feithrin talent y dyfodol ac yn blatfform go arbennig i’n chwaraewyr ifanc, a dymunaf bob hwyl i’r holl chwaraewyr sy’n cymryd rhan.

“Hoffwn ddiolch i URC am eu partneriaeth barhaus ac am wneud y digwyddiad yma’n bosib, yn ogystal â Stadiwm CSM am ein cael yma heddiw. Diolch hefyd i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr – yn drefnwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr – sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i roi profiadau a chyfleoedd arbennig i’n pobl ifanc ledled y wlad i fwynhau chwarae rygbi a chymdeithasu gyda’u ffrindiau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr URC Geraint John, “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cefnogi’r dathliad canmlwyddiant dwbl hwn.  Mae’r Urdd a’r Crawshays yn bartneriaid gwych i helpu tyfu’r gêm gymunedol ac o ran darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu ac arddangos eu talentau fel chwaraewyr, hyfforddwyr a gweinyddwyr. Mae’r ddau sefydliad yn gwbl falch o’r rôl maen nhw’n ei chwarae wrth ddatblygu talent rygbi Cymru ac rwy’n siŵr y bydd y ddwy gêm Dan 18 yn datgelu chwaraewyr talentog ar gyfer dyfodol y gêm yma yng Nghymru.

“Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y rol mae Cyngor Conwy wedi chwarae i ddatblygu rygbi yng Ngogledd Cymru a rydyn ni’n falch iawn i gael chwarae’r gemau yma yn Stadiwm CSM””

Dywedodd Richard Brice, Llywydd Crawshay: “Crëodd y Capten Geoffrey Crawshay Glwb Rygbi Crawshay yn 1922 i ledaenu’r gair am rygbi pêl-droed a rhoi cyfle i chwaraewyr rygbi ifanc chwarae mewn gwahanol amgylcheddau er mwyn datblygu eu sgiliau a’u galluoedd.
“Yn yr un modd, mae’r Urdd wedi rhoi profiadau drwy weithgareddau wrth galon eu hethos ac felly ni allaf feddwl am ffordd well i’r ddau sefydliad ddathlu eu canmlwyddiant na chael 96 o oedolion ifanc yn chwarae gêm rygbi unigryw.”

Ychwanegodd Alun Pritchard, Rheolwr Cyffredinol Rhanbarth Datblygu Rygbi Gogledd Cymru:

“Yn RGC, rydym wrth ein bodd ein bod yn cynnal yr ŵyl wych hon o rygbi, yn dathlu 100 mlynedd o’r Urdd ac yn datblygu ein perthynas gynyddol â Crawshay’s ymhellach. Bydd hyn yn rhoi cyfle i dîm dan 18 oed o Gogledd Cymru sy’n ymwneud â gemau’r Urdd yn erbyn Crawshay’s brofi eu hunain yn erbyn gwrthwynebiad o safon uchel, ac i’r merched yn enwedig, bydd yn gyfle i ddal llygad y detholwyr cenedlaethol.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert