Neidio i'r prif gynnwys

Neges Blwyddyn Newydd gan gadeirydd URC Ieuan Evans

Ieuan Evans

Ieuan Evans at the Principality Stadium

Blwyddyn Newydd, Cymru Newydd.

Mae Warren Gatland nol wrth y llyw gyda phrif dim y dynion, ac mae cytundeb newydd ar lafar yn ei le am chwe blynedd ar gyfer y gem broffesiynol yng Nghymru. Mae’n rhaid gweithredu ar frys felly i newid y cytundeb llafar hwn yn gytundeb swyddogol er mwyn rhoi’r hyder angenrheidiol i’r chwaraewyr a galluogi’r gem broffesiynol i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a blodeuo.

Rhannu:

Mae gan ein clybiau gadeirydd newydd hefyd ar Fwrdd URC, swydd y bu’n anrhydedd mawr i fi ei derbyn ar ol cael fy mhenodI ym Mis Tachwedd.

Ac mae Anthony Buchanan yn ymuno â fi, ynte wedi cael ei benodi’n fwy diweddar fyth yn is-gadeirydd, ac fe bleidleisiwyd dros John Manders i fod yn gadeirydd ar Fwrdd y Gem Gymunedol (BGG).

Dyna felly gwblhau’r olwg newydd ar Fwrdd yr URC, â’r newidiadau anorfod hyn wedi dod ar ol i Rob Butcher gamu nol o fod yn gadeirydd ar URC a BGG, er ein bod yn falch iawn o gael dweud y byddwn yn dal i elwa o gyfraniad Rob ar Gyngor URC.

Cadeirydd o blith y clybie oedd Rob – dyn un clwb sy’n dal â chysylltiad agos ar y lefel gymunedol, ond hefyd gwr ag uchelgais i foderneiddio’r gem oddi mewn , uchelgais sy wedi cael ei gwireddu i radde yn barod.

Mae gen i barch aruthrol at Rob, a’r hyn a geisiodd ei wneud i ddod â sgilie newydd at Fwrdd URC, tra’n cadw’i gysylltiade hanfodol gyda’r gem gymymunedol, a hefyd i ganiatau i’r Bwrdd gael yr opsiwn i benodi cadeirydd o’r tu fâs pe dymunai wneud hynny.

A dweud y gwir, mae gen i gymaint o barch nes fy mod inne’n benderfynol o barhau â’r hyn a gyflawnodd Rob wrth weithio tuag at ei uchelgais i foderneiddio’r Bwrdd. Rydyn ni’n gwybod bod angen pleidlais o 75% er mwyn cael gwneud unrhyw newidiade i’n cyfansoddiad, ac mae’n hwb i wybod bod 66% o’r clybie wedi cefnogi’r cynnig i foderneiddio’r rheolaeth yn ein Cyfarfod Cyffredinol blynyddol yn ddiweddar a bod sawl cynnig arall hefyd wedi cael ei dderbyn Ac mae’r adborth dderbyniwyd ers hynny yn awgrymu y byddai rhagor o glybie’n barod i ymuno gyda ni os gallwn egluro’n bwriad yn gliriach , a dyna’r dasg felly i ni ar hyn o bryd. Y dasg i fi!

Byddwn yn galw cyfarfod arbennig o glybie’r undeb – AGM – y flwyddyn nesa – gan ail edrych ar y syniad o roi’r hawl i’r Bwrdd i benodi cadeirydd gyda’r cymwysterau iawn, – y sgilie , y craffter a’r profiad i oruchwilio’r busnes hwn, os a phryd y bydd yn penderfynu bod angen gwneud y newid- busnes sy werth £100m ac sy’n cynnal ein gem. Byddai hynny’n golygu bod nifer yr aelodau ar y Bwrdd yn cynyddu o ddeuddeg i dri ar ddeg a byddwn yn gofyn i’r clybie bleidleisio dros hyn a newidiade eraill gyda mwyafrif o 75%.

Byddwn hefyd yn cymryd camau pellach tuag at wella sefyllfa’r amrywiaeth o ran rhyw ar y Bwrdd gan ofyn i’n haelodau gymeradwyo newidiade fydde’n rhoi gwell cydbwysedd ar y Bwrdd a’r Cyngor .. Rydyn ni wedi symud ymlaen rywfaint gyda’n etholiadau diweddar ond mae’n rhaid gwella’r sefyllfa fwy fyth yn 2023. Gallai rhywun sy’n Aelod o’r Cyngor heddi fod yn Aelod o’r Bwrdd fory, a bydd rygbi Cymru dipyn iachach o gael mwy o ddyfnder talent i wella’r sgilie a’r profiad o fewn ein cyfundrefn. Dylsai’n Bwrdd a’r Cyngor fod mor gynrychioliadwy â phosib, gan gyfrannu at ddiwylliant sy’n hybu cydraddoldeb a chynhwysiad ac yn gweld gwerth mewn amrywiaeth.

Yn olaf, rydym am geisio cynyddu nifer y cyfarwyddwyr presennol (dau annibynnol a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol ) i bedwar, a byddwn yn gofyn i’r clybie i bleidleisio dros y bwriad hwn a’r newidiade eraill gyda mwyafrif o 75%.

Ond cyn i ni wneud dim o hyn, byddwn yn ymweld â’r clybie i egluro’r meddylfryd sy wrth wraidd y cynigion. I ateb unrhyw gwestiynnau, i wrando ar bawb ac i dawelu unrhyw bryderon.

Mae’r Bwrdd yn unfrydol o’r farn bod rhaid moderneiddio, a thaw dyma’r peth iawn i’w wneud er lles rygbi Cymru. Dyna fydd yn sicrhau ein dyfodol.

Ymhell ar ol i fi orffen fy nghyfnod yn gadeirydd, pa mor hir bynnag fydd hynny, bydd y camau a’r strwytharau ryn ni’n awyddus i’w sefydlu nawr yn parahu i dalu ar eu canfed.

Yn ystod y flwyddyn, fe adawodd Merched Cymru Seland Newydd yn uwch eu parch ar ol eu hymdrechion yng Nghwpan y Byd ym Mis Hydref, gan gyrraedd yr wyth ola ar ol eu buddugoliaeth arbennig yn erbyn Yr Alban yn eu gem gynta yn y grwp. Aeth carfan Ioan Cunningham ddim pellach na’r cwarteri ar ol colli yn erbyn y Cryse Duon, ond fe fyddan nhw wedi dysgu llawer o’u hymddangosiad cynta fel tim proffesiynol yng Nghwpan y Byd, a bydd Pencampwriaeth Tik Tok y Chwe Gwlad ym Mis Mawrth yn rhoi cyfle newydd iddyn nhw ddisgleirio.

Wrth i ni gamu at Flwyddyn Cwpan y Byd i brif dim y dynion yn 2023, mae gennym bob rheswm i fod yn optimistig ar gyfer y dyfodol Rydyn ni’n parhau i weithio’n galed i osod y sustemau a’r strwythurau cywir yn eu lle i gynnal llwyddiant parhaol yn ein gem broffesiynol, ac yn ymdrechu’n ddi-flino i geisio cynnal sicrwydd a diogelwch yn y gem gymunedol.

Mae’r rhain yn ddyddie cyffrous. Mae Warren yn anelu at wneud argraff bositif ar unwaith ym Mhencampriaeth Guinness y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Os gall unrhywun gyflawni hynny, yna Warren yw’r dyn, ac mae wedi gosod y pwyse mwya posib arno fe’i hunan drwy godi’r gobeithion yn fwriadol.

Mae’n dweud llawer amdano ei fod eisioes wedi dweud ei fod yn edrych mlân at wynebu tim gore’r byd – Iwerddon – yn Stadiwm Principality yn ei gem gynta nol wrth y llyw ” Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y frwydyr ” oedd ei neges gan ychwanegu “dyna’r adeg ore i’w herio mae’n siwr “!

Yn naturiol, rydyn ni am iddo fe a’r tim ennill yr ornest honno, a phob gem wedyn yn y Chwe Gwlad. Yna rydyn ni’n edrych mlân at weld Cymru’n llwyddo i ddod mâs o’r geme grwp yng Nghwpan y Byd a chystadlu’n frwd o hynny ymlaen, gan ysbrydoli’r genedl fel y gwnaeth tim Cymru yn 2011 a 2019. Mae’n disgwyliade’n fawr , rydyn ni’n anelu’n uchel, ac mae Warren gyda ni ar hyd y ffordd.

Mae angen i ni gael ein clybie i ddeall y rhesymau pam rydyn ni am newid a symud mlân yr un mor glir â fi a’m cyd aelodau ar y Bwrdd. Ryn ni’n ffyddiog taw dyma’r peth iawn i’w wneud Ond dyw hynny ddim yn golygu bod yr hawl gyda ni i ddisgwyl y bydd y clybie’n cytuno gyda ni. Rhaid i ni egluro’n dadleuon dros hynny, a chyflwyno canlyniadau’r arolwg trylwyr diweddar o’n llywodraethu er mwyn i chi gael barnu a gweld y manteision drosoch chi’ch hunain.

Blwyddyn Newydd Dda, hapus a llewyrchus i chi i gyd.

Ieuan Evans
Cadeirydd Bwrdd URC

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert