Neidio i'r prif gynnwys

Adran Gymunedol URC yn Chwalu eu Targed Ymgysylltu

Adran Gymunedol URC yn Chwalu eu Targed Ymgysylltu

Wedi i Undeb Rygbi Cymru gynnal Pencampwriaethau Cadair Olwyn Ewrop yn Stadiwm Principality yn gynharach fis yma – mae’r Undeb yn arbennig o falch i gyhoeddi eu bod wedi curo eu targed o gael dros 3,000 o bobl i chwarae’r gamp yng Nghymru.. Fe ymgysylltodd dros 7,000 o oedolion a phobl ifanc yn eu harddegau gyda gweithgareddau Rygbi Cadair Olwyn, sydd wedi chwalu’r targed gwreiddiol.

Rhannu:

Dywedodd Darren Carew – Rheolwr Cynhwysiad Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru:

“Pencampwriaethau Ewrop oedd pen-llanw blwyddyn gron o waith gan yr Undeb a’r Rhanbarthau.
“Ein targed gwreiddiol oedd cyrraedd 3000 o bobl yn ystod y flwyddyn, ond ‘rwyf wrth fy modd ein bod wedi ymgysylltu gyda 7,371 o bobl ifanc ac oedolion – sy’n gyfartaledd wythnosol o 614.

“Er mwyn cyrraedd y ffigwr yma, fe wnaed yn siwr bod 111 o hyfforddwyr Rygbi Cadair Olwyn (Lefel 1) yn gymwys i wneud y gwaith.’Roedd hynny’n cynnwys staff URC, swyddogion hwb, prentisiaid, staff elusennol y rhanbarthau a hyfforddwyr cymunedol – ac fe gynhaliwyd sesiynau niferus ar hyd a lled y wlad mewn ysgolion, clybiau ac mewn cymunedau.
Ymdrech arwrol gan bawb!

“Efallai mai Ffrainc enillodd y Bencampwriaeth – ond bydd y cydweithio a’r ymgysylltu ddigwyddodd yma yng Nghymru yn gadael ei ôl cadarnhaol gyda ni am flynyddoedd i ddod”.

Bu’r gystadleuaeth yn Stadiwm Principality – rhwng Mai 3ydd-7fed – yn llwyddiant mawr gan gan roi llwyfan byd-eang i Rygbi Cadair Olwyn.

Dywedodd Aaron Phipps – sydd wedi ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd ac oedd yn aelod o dîm Prydain:

“Roedd y gystadleuaeth yn anhygoel – yr Ewros gorau erioed. Roedd hi’n fraint chwarae o flaen y cefnogwyr cartref. Mae gweld y twf yn y gamp yn rhywbeth arbennig iawn”.

‘Roedd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams wrth ei fodd bod gyda llwyddiant y digwyddiad hefyd:

“Doedden ni erioed wedi cynnal digwyddiad o’r math hwn o’r blaen ac felly fe grëwyd y cwrt yng nghanol y stadiwm.’Roedd safon y chwarae yn wych ac ‘roedd gweld ymateb chwaraewyr a chefnogwyr y saith tîm yn hynod o gofiadwy.

“’Roedd yr awyrgylch yn y stadiwm ac o gwmpas y ddinas yn hyfryd ac yn cynnig rhagflas o be ellir ei ddisgwyl ym Mharis pan fydd y Gemau Paralympaidd yno”.

Undeb Rygbi Cymru yw’r unig gorff cenedlaethol sy’n berchen ar eu cadeiriau olwyn rygbi eu hunain. Mae 30 o gadeiriau ar gael i bob cangen elusennol o’r rhanbarthau i’w defnyddio yn eu cymunedau.
Ychwanegodd Carew:

“Mae’r cyffro a’r diddordeb yn y gamp ar hyd a lled Cymru yn anhygoel ac mae’r ffaith bod gennym y cadeiriau a’r hyfforddwyr ar gael yn hynod o bwysig. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y 12 mis nesaf – ac ‘rwy’n siwr y bydd ein partneriaethau gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a Rygbi Cadair Olwyn Prydain (GBWR) yn golygu y bydd pethau’n gwella ymhellach ac y bydd y gwaddol y bydd yn cael ei greu yn sylweddol”.

Os oes genncyh ddiddordeb chwarae Rygbi Cadair Olwyn – gallwch ddod o hyd i’ch clwb lleol ar wefan Rygbi Cadair Olwyn Prydain (GBWR) gbwr.org.uk/find-a-club

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert