Neidio i'r prif gynnwys

John yn canmol y clybiau am gyfradd cwblhau gemau

Geraint John

WRU communnity director Geraint John

Mae Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John wedi diolch i bawb sy’n ymwneud â gêm y dynion am eu hymdrechion yn ystod y tymor ddaeth i ben y penwythnos diwethaf.

Rhannu:

Cwblhawyd 87% o gemau cynghrair yn ystod y tymor llawn cyntaf ers pedair blynedd – o ganlyniad i bandemig Covid 19. Chwaraewyd cyfanswm o 2664 o gemau (87.43%).

Hawliwyd ac ildiwyd 330 o gemau (10.82%) olygodd bod un tîm yn derbyn sgôr o 20-0 a phum pwynt cynghrair os nad oedd eu gwrthwynebwyr yn chwarae’r gêm.

Yn ychwanegol at hynny – ‘roedd 56 o gemau nad hawliwyd nac ail-drefnwyd (1.84%).

Wrth ystyried yr ystadegau, dywedodd Geraint John: “Dyma’r tymor llawn cyntaf i ni ei gael ers 2018-19 o ganlyniad i Covid.

“Er y bydd rhai pobl yn edrych ar nifer y gemau gafodd ddim eu chwarae, mae’n bwysig edrych ar y nifer fawr iawn o gemau ddigwyddodd.

“Er na lwyddwyd i chwarae 386 o gemau, fe lwyddon ni i weld 2664 yn cael eu cwblhau – sef 87.34%.

“Mae’n rhaid diolch o galon i’r clybiau, y chwaraewyr, yr hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr a’r timau dyfarnu am eu hymdrechion a’u gwaith caled i wneud yn siwr bod y gemau’n cael eu chwarae.

“Gwelwyd timau’n cael eu coroni’n Bencampwyr, sicrhawyd dyrchafiad ym mhob adran a chwblhawyd pob gêm yn wyth o’r adrannau.

“Yn y Drydedd Adran y gwelwyd y nifer lleiaf o gemau’n cael eu cwblhau ond chwaraewyd cyfartaledd o 73.18% yn y 26 cynghrair ym mhyramid y gêm gymunedol”.

Gohiriwyd 523 o gemau gan nad oedd clybiau’n gallu codi tîm a methwyd chwarae 438 o gemau o ganlyniad i safon y caeau ar y diwrnod. Methwyd â chwarae 128 o ornestau eraill gan bod gemau Cwpan wedi eu trefnu ar yr un dyddiadau.Chwaraewyd canran sylweddol o’r gemau yn ddiweddarch yn y tymor.

Ychwanegodd Geraint John: “Ar gyfartaledd chwaraewyd tua 75% o gemau bob penwythnos.

“Roedd pump o’r penwythnosau pan na gyrhaeddwyd y ganran honno yn ystod misoedd Rhagfyr a Ionawr pan gollwyd nifer o gemau o ganlyniad i’r tywydd a safon y caeau a bu’n rhaid eu hail-drefnu ganol wythnos.

“Mae’r ystadegau’n ddiddorol ac efallai y bydd yn rhaid i ni wneud rhywbeth i osgoi amharu gymaint ar y tymor yn ystod y misoedd hynny.

“Does dim llawer o gemau’n cael eu chwarae ym mis Tachwedd beth bynnag gan bod Cymru’n  chwarae gemau rhyngwladol ac mae hynny’n creu tymor herciog iawn i’r clybiau cymunedol.

“Maen nhw’n dechrau’r tymor gyda gemau cyson – yna’n chwarae llawer llai o ornestau yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr. Gall hyn arwain at chwarawyr a chefnogwyr yn colli rhywfaint o ddiddordeb.

“Gan bod Cwpan y Byd yn digwydd eleni – bydd mwy o gemau cymunedol yn digwydd fis Tachwedd yma – ond mae’n rhaid i ni feddwl am beth sydd orau yn y tymor hir.

Bydd tymor 2023/24 yn debygol o ddechrau yn gynnal ym mis Medi gan ddod i ben ddechrau Ebrill. Bydd hynny’n galluogi clybiau i chwarae unrhyw gemau sydd wedi eu gohirio yn y cynghrair a’r cwpan yn ystod y mis hwnnw hefyd.

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert