Neidio i'r prif gynnwys

Ifan Phillips yn cryfhau clwb Crymych

Ifan Phillips yn cryfhau clwb Crymych

Ifan Phillips ac Elgan Vittle yn gafael yng Nghwpan Sir Benfro.

Wedi i’w yrfa fel chwaraewr ddod i ben mor greulon ac annisgwyl, mae Ifan Phillips bellach yn creu argraff fel hyfforddwr.

Rhannu:

 

Yn dilyn damwain beic modur difrifol, collodd cyn fachwr y Gweilch ei goes dde ym mis Rhagfyr 2021.

 

Er i’w yrfa fel chwaraewr ddod i stop yn llwyr, mae Phillips wedi aros o fewn y teulu rygbi mewn mwy nag un ystyr.

 

Yn ogystal â gweithio gydag S4C fel arbenigwr ar gemau rygbi, mae hefyd wedi ymuno â thîm hyfforddi ei glwb lleol, Crymych.

 

Ers i Phillips ymuno gyda’r hyfforddwyr eraill, mae’r clwb wedi hawlio dyrchafiad o Adran Gyntaf y Gorllewin i’r Bencampwriaeth, gan hefyd gipio Cwpan Sir Benfro.

 

Mae prif hyfforddwr Clwb Rygbi Crymych, Elgan Vittle wedi ei blesio’n fawr gan gyfraniad ac agwedd Ifan Phillips ers y ddamwain yn ngaeaf 2021.

 

Dywedodd Vittle: “Dyw hi’n fawr o syndod bod Ifan wedi gweithio gyda’r blaenwyr. Mae e wedi bod gyda ni ers mis Hydref ac mae’r hyfforddwyr eraill a finne wedi elwa o’i gael gyda ni.

 

“Mae gan Ifan brofiad a gwybodaeth fanwl o’r gêm trwy ei gyfnod fel chwaraewr proffesiynol. Mae e’n drylwyr iawn ym mhopeth y mae’n ei wneud – sy’n deillio o’i yrfa wrth gwrs. Mae’n adolygu’n gemau ni’n wythnosol ac mae’n agoriad llygad gweld y manylion bychan y mae e’n sylwi arnyn nhw sy’n gwella perfformiad ein bois ni wrth gwrs.

 

“Mae’n arbennig o braf ei gael gyda ni yn y clwb unwaith eto ac mae’n rhaid dweud bod gan bawb ohonom edmygedd mawr tuag ato am y modd  arbennig o bositif y mae e wedi delio gyda pethe ers y ddamwain.”

 

Mae Ifan Phillips y fab i gyn-fachwr Cymru Kevin wrth gwrs, ac mae aelod arall o reng flaen chwedlonol ‘triawd y buarth’, John Davies bellach yn hyfforddi’r timau iau yng Nghrymych. Fe chwaraeodd dros y clwb tan ei fod yn ei 40au hwyr.

 

Chwaraewr rhyngwladol diweddaraf y clwb yw Josh Macleod ac ‘roedd ef ac Ifan Phillips yn yr un tîm ieuenctid â’i gilydd flynyddoedd yn ôl. Mae brawd Ifan –  Dafydd – yn fewnwr gyda thîm cyntaf Crymych ar hyn o bryd.

 

Yn ystod y tymor diwethaf, death Crymych yn drydydd ym Adran Gyntaf y Gorllewin gan golli dim ond dwy ornest gynghrair trwy gydol y tymor. Fe gipion nhw Gwpan Sir Benfro hefyd trwy guro tîm datblygu’r Arberth yn y rownd derfynol yn Hendy Gwyn.

 

Dywedodd Elgan Vittle: “Ein targed ddechrau’r tymor oedd cadw’n gafael ar Gwpan Sir Benfro ac ennill dyrchafiad.

 

“Fe lwyddon ni wneud y ddau beth sy’n plesio’n fawr”.

 

Bydd Crymych felly’n cystadlu yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf ac fe ychwanegodd Vittle – sydd wedi bod wrth y llyw ers dwy flynedd bellach ac sy’n gyn-chwaraewr gyda’r clwb: “Ry’n ni’n gwybod ble ry’n ni arni ac hefyd yn gwybod bod her fawr o’n blaenau.

 

“Mae pawb yn edrych ymlaen at y tymor – yn enwedig ein gemau darbi yn erbyn Arberth a Chastell Newydd Emlyn. Fe fyddan nhw’n gemau ac yn achlysurol cofiadwy – yn enwedig gan bod Arberth wedi bod yn gosod y safon yn Sir Benfro ers blynyddoedd bellach.

 

“’Rwy’n cofio pan roedd Crymych yn y 7fed Adran yn y Gorllewin ac felly mae’n datblygiad ni fel clwb wedi bod yn wych.

 

“Ein clwb yw calon ein cymuned ac mae’n chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl yr ardal bob diwrnod o’r flwyddyn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert