Neidio i'r prif gynnwys

Dros 200 gant o blant yn dathlu hanner cant Ysgol Pencoed

Dros 200 gant o blant yn dathlu hanner cant Ysgol Pencoed

Swyddogion Hwb Undeb Rygbi Cymru a threfnwyr y gystadleuaeth.

Ysgol Pencoed yn defnyddio rygbi i ddathlu’r hanner cant.

Rhannu:

 

Yn ystod diwrnod hyfforddiant mewn swydd rhyw flwyddyn yn ôl, holwyd staff Ysgol Uwchradd Pencoed am ffyrdd i ddathlu pen-blwydd yr ysgol yn hanner cant ymhen blwyddyn.

 

Gan bo traddodiad rygbi anrhydeddus yn perthyn i’r ysgol – penderfynwyd gofyn i’r Arweinydd Cwricwlwm Addysg Gorfforol, Ian Poley drefnu Cystadleuaeth 7 Bob Ochr arbennig gan wahodd ysgolion eraill i gystadlu.

 

Roedd y cynllun yn syml – dod ag ysgolion lleol at ei gilydd a chreu amserlen fyddai’n rhoi’r cyfle i dimau chwarae gymaint o gemau ag oedd yn bosib ar y diwrnod. Ffordd effeithiol o ddathlu creu Cystadleuaeth Gyntaf 7 Bob Ochr Ysgol Uwchradd Pencoed a chofnodi carreg filltir bwysig yn hanes yr ysgol hefyd.

 

Profodd y diwrnod i fod yn llwyddiant ysgubol wrth i dros 200 o ddisgyblion Blwyddyn 7 – o 16 o ysgolion gwahanol – gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

 

Chwaraewyd 38 o gemau cyn penderfynu buddugwyr y Plât a Chwpan Andy Rea.

 

Yn ystod y diwrnod, daeth cyn-ddisgyblion megis Gareth Cooper, Sam Costelow a Tommy Reffell i wylio rhai o’r gemau.

 

Un o brif fwriadau sefydlu’r gystadleuaeth oedd gwneud y gymuned ym Mhencoed yn rhan o’r achlysur. Braf oedd gweld cymaint o rieni yn cefnogi’r disgyblion a braf hefyd oedd y ffaith bod Clwb Rygbi Pencoed a Chyngor Tref Pencoed wedi caniatau’r defnydd o’u caeau a’u hadnoddau.

 

Dywedod Ian Poley: “Er bod heriau’r cwricwlwm yn cynyddu a bod disgwyl i bawb addasu – mae pwysigrwydd chwaraeon ac ymarfer corff yn parhau’n allweddol. Mae angen gweld ein pobl ifanc yn hapus ac yn cadw’n heini – ac fe ddigwyddodd hynny trwy gyfrwng y gystadleuaeth.

 

“O safbwynt yr ysgol, ‘rydym yn ddiolchgar i bawb â ddaeth at ei gilydd er mwyn gwneud y digwyddiad yn llwyddiant – yn enwedig felly’r disgyblion, athrawon a swyddogion Hwb Undeb Rygbi Cymru”.

 

Bwriad yr ysgol yw trefnu digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf yn y gobaith y bydd mwy fyth o ysgolion yn cymryd rhan.

 

Cystadleuaeth 7 Bob Ochr Pencoed – Gwobrau ac Enillwyr

 

Gwobr Ben John am ‘Sgil y Dydd’ – Che Thomas (Ysgol Uwchradd Maesteg)

Gwobr Tommy Reffell am ‘Amddiffynnwr y Dydd’ – Theo Harrington (Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe)

Gwobr Sam Costelow ‘Chwaraewr y Gystadleuaeth’ – Kaci Williams (Ysgol Uwchradd Cynffig)

Gwobr Gareth Cooper am ‘Chwarae Teg’ – Coleg Cymunedol Y Dderwen

Ail Safle’n y Plât – Ysgol Uwchradd

Enillwyr y Plât Winners – Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ail Safle yng Nhwpan Andy Rea – Ysgol Uwchradd Maesteg

Enillwyr Cwpan Andy Rea – Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe

 

Rhestr o’r ysgolion gymrodd ran:

Ysgolion Uwchradd Pencoed, Brynteg, Bryntirion,Treforys, Maesteg, Bryncelynog a Cynffig, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Ysgolion Cymunedol Cwmtawe a Thonyrefail, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Bae Baglan, Ysgol Babyddol St Joseph’s, Ysgol St Cenydd, a Choleg Cymunedol Y Dderwen.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert