Neidio i'r prif gynnwys

Llwyddiant a llewyrch Llewod Caerdydd

Llwyddiant a llewyrch Llewod Caerdydd

Llewod Caerdydd y llwyddo unwaith eto.

Ym mis Ebrill, llwyddodd Llewod Caerdydd i ddal eu gafael ar Bencampwriaeth Rhyngwladol Rygbi Hoyw y Deyrnas Gyfunol – gan gadarnhau eu safon ar y cae a’u cryfder oddi-arno hefyd.

Rhannu:

Profodd cyfnod Covid yn hynod heriol i bawb wrth gwrs – ond aeth y Llewod ati i fanteisio’n ymarferol ar ddyheadau pobl i gymdeithasu a theimlo elfen o berthyn hefyd. Lansiwyd ymdrech benodol i ddenu chwaraewyr a gwirfoddolwyr newydd i’r clwb ac fe brofodd yn llwyddiant ysgubol gan arwain at gryfhau’r garfan ar y maes a mwy o ddwylo i helpu oddi arno.

Dywedodd Capten y Clwb Liam Rose: “Mae’r tîm wedi cyflawni cryn dipyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. ‘Ry’n ni wedi ricriwtio’n dda ac wedi profi llwyddiant hefyd! Mae hi wedi bod yn dipyn o siwrnai. Pwy fyddai wedi meddwl y bydden ni’n Bencampwyr y Deyrnas Gyfunol am yr eildro’n olynnol!”

Er mwyn chwarae gemau pwrpasol a pherthnasol, mae Llewod Caerdydd wedi gorfod teithio’n helaeth er mwyn chwarae gemau. Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi gorfod teithio’n bell iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn herio timau LGBTQ+ eraill ond ry’n ni wedi mwynhau pob eiliad ac mae’r holl ymdrech wedi talu ar ei ganfed.

 

“Mae’r chwaraewyr wedi rhoi o’i gorau. I fod yn onest, maen nhw wedi bod yn wych ac wedi fy ngwneud yn arbennig o falch!

“Ein gobaith a’n bwriad ydi chwarae mwy o dimau lleol yng Nghymru o hyn ymlaen er mwyn gwella ymhellach.”

Wrth geisio denu mwy o chwaraewyr i’r clwb – llwyddwyd sicrhau gwasanaeth mwy o wirfoddolwyr hefyd – sydd yn ei dro wedi cryfhau materion sy’n ymwneud â’r tîm cyntaf.

Dywedodd yr Hyfforddwr Hywel James: “Rydyn ni wedi dechrau pennod newydd a chadarnhaol yn ein hanes yn ddiweddar ac mae’n allweddol bwysig ein bod yn gwneud popeth i wneud yn siwr bod y momentwm hwnnw’n parhau.

Mae’r Llewod yn croesawu unrhywun i chwarae iddyn nhw.

“Ers Covid, mae llawer o chwaraewyr newydd wedi ymuno gyda ni o ganlyniad i waith caled ein gwirfoddolwyr. Mae pethau wedi gwella’n fawr ar y cae ac mae llawer o’r llwyddiant hwnnw’n deillio o’r holl waith caled sy’n digwydd yn y cefndir.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ‘ry’n ni wedi profi ein cyfnod mwyaf llwyddiannus erioed (Ennill Pencampwriaeth Rhyngwladol Rygbi Hoyw y De a hefyd Bencampwriaeth y Deyrnas Gyfunol ddwywaith o’r bron). Ein bwriad a’n gobaith ydi cryfhau’r clwb o flwyddyn i flwyddyn.

“’Ry’n ni’n glwb arbennig ac rydym yn hollol ymwybodol o’n cyfrifoldeb i groesawu pawb atom – beth bynnag yw eu rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol – heb sôn am eu gallu i chwarae rygbi. Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo’n gartrefol gyda ni.

“I ddweud y gwir – dyna sy’n rhoi’r mwyaf o bleser i mi – y ffaith ein bod yn croesawu pawb atom.”

Tydi Llewod Caerdydd ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau. Mae’r hyfforddwr newydd, Tomas Andrews yn awyddus i ddenu mwy o chwaraewyr ar gyfer y tymor newydd ac yn estyn gwahoddiad i unrhyw un fynychu sesiynau ymarfer agored ar Orffennaf 13eg, 20fed a’r 27ain.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert