Neidio i'r prif gynnwys

Byddwch yn brentis gydag Undeb Rygbi Cymru

Byddwch yn brentis gydag Undeb Rygbi Cymru

Mae’r cyfle i ymuno gydag Undeb Rygbi Cymru fel Prentis Datblygu am flwyddyn a chael eich talu am y profiad yn dal yn bosib.

Rhannu:

Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymuno gyda’r cynllun Prentisiaid.Os ydych chi yn berson ifanc brwdfrydig a mentrus mae’r cyfle i ddod yn un o 15 prentis yr Undeb yn wirioneddol werth ei ystyried. Ers bron i ddegawd bellach, mae dros 100 o bobl ifanc wedi manteisio ar y cyfle gwych hwn ac fel y gwelwch yn y fideo – mae Jasmine a Ianto wedi bod wrth eu boddau:

Mae Cynllun Prentisiaeth Datblygu Rygbi URC yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig, sgiliau newydd, gwybodaeth a môr o brofiad i’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Yn ystod y cyfnod penodol o 12 mis, byddwch yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth Sylfaenol Lefel 4 – Rheoli a Datblygu – a gefnogir gan Brifysgol Met Caerdydd. Bydd gofyn i chi gwblhau amrywiaeth o gynlluniau technegol yn y maes rygbi a byddwch yn cael eich mentora gan Staff Datblygu URC. Bydd cymorth bugeiliol hefyd ar gael i chi gan Swyddog Prentisiaeth URC.

Mae bod yn Brentis gydag URC yn cynnig cam cyntaf arwyddocaol i rywun sy’n ansicr os ydyn nhw’n awyddus i fynd i’r Brifysgol neu beidio. Gall y Cynllun gynnig arweiniad a gweledigaeth ar gyfer llwybr gyrfa neu opsiynau addysgol wedi i’r 12 mis ddod i ben.

Mae’r Cynllun yn cynnig y profiad o fod yn aelod cyflogedig o’r staff am gyfnod o flwyddyn – all arwain at gyfleoedd pellach o fewn rhwydwaith Grŵp Undeb Rygbi Cymru. Mae’n gyfle gwych hefyd i ennill profiad ym maes datblygu chwaraeon gan ennill cymhwyster Sylfaen yn y broses. Nid yw’r cynllun hwn wedi ei anelu at Raddedigion.

Yn ystod y 12 mis amrywiol a difyr hwn byddwch yn derbyn cyflog o £9500 a chostau hefyd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Cynllun. https://community.wru.wales/prentisiaeth

Ymgeisiwch trwy ddilyn y ddolen uchod ac ymgeisio ar-lein erbyn Hanner Dydd Awst 21ain 2023. Mae’n bwysig nodi y bydd disgwyl i chi fod ar gael ar Awst 30ain ac Awst 31ain ar gyfer cyfweliadau posib. Bydd lleoliadau’r cyfweliadau’n cael eu cyhoeddi gyda’r gwahoddiadau i’r cyfweliadau.

Bydd y gwaith i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau gyda diwrnod sefydlu ar y 5ed o Fedi 2023.

Am fwy o gyngor, cysylltwch gyda wruapprenticeship@wru.wales neu Adran Adnoddau Dynol URC hr@wru.wales os gwelwch yn dda.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert