Neidio i'r prif gynnwys

LooseHeadz yn gwneud gwahaniaeth ym maes iechyd meddwl a rygbi

LooseHeadz yn gwneud gwahaniaeth ym maes iechyd meddwl a rygbi

Cyd-sylfaenwyr LooseHeadz -Dave Nichol, Rob Shotton a Mark Shotton

Mae staff lles cymunedol Undeb Rygbi Cymru wedi datblygu perthynas gadarnhaol gydag elusen rygbi LooseHeadz yn y gobaith o sicrhau y bydd gan bob clwb rygbi yng Nghymru berson yn gyfrifol am iechyd meddwl yn gysylltiedig â nhw.

Rhannu:

“Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i roi lles chwaraewyr wrth wraidd ein gêm a’n nod yw cynorthwyo ein clybiau yn y gymuned – trwy ddarparu addysg, arweiniad ac offer i’w helpu a’u cefnogi,” meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Rygbi Cymunedol URC.

“Rydym yn cydnabod yr effaith y mae LooseHeadz yn ei gael ar les meddyliol nifer fawr o unigolion ac rydym yn gefnogol i gynnwys eu pecyn cymorth – sydd wedi ei greu gyda chefnogaeth y Sefydliad Iechyd Meddwl. ‘Rydym fel Undeb, yn falch o gyfeirio clybiau sydd angen help a chyngor ar les meddyliol atynt”.

Geraint John

Bydd pecyn cymorth pwrpasol o adnoddau ar gyfer clybiau rygbi ar gael – sy’n cynnwys platfform hyfforddi ar-lein sy’n arwain at gymhwyster DPP, platfform cysylltu a llinell destun 24-7, lle gall pobl sy’n tecstio ‘rygbi’ i 85258 siarad â gweithredwr sydd wedi ei hyfforddi o fewn 15 munud – i helpu a chefnogi eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Dave Nicholls, Cyd-sylfaenydd LooseHeadz: “Y nod yn y pen draw i LooseHeadz nawr yw cael arweinydd iechyd meddwl ym mhob clwb rygbi.

“Rydyn ni’n gwybod bod hynny’n darged uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae cael y rôl honno mewn clwb yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

“Y peth pwysicaf yw cael rhywun sy’n angerddol am y gwaith – rhywun sy’n deall natur y clwb rygbi ac sydd yr un mor angerddol am rygbi a iechyd meddwl.

“Mae’r help rydym yn ei gynnig wedi’i gynllunio ar gyfer pawb mewn clwb rygbi – chwaraewyr boed yn  ddynion neu’n fenywod – hyfforddwyr, ac aelodau o bob oedran.”

“Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyfeirio clybiau a’u haelodau atom yn LooseHeadz, gan fod gennym y potensial i helpu a chefnogi pawb – a hefyd sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr fydd yn gallu cynnig cyngor am iechyd meddwl yn y pendraw.

Ein bwriad gydag Undeb Rygbi Cymru yw cynnig arweiniad a chefnogaeth am ddim i bob clwb cymunedol ledled Cymru a chael arweinydd iechyd meddwl ym mhob clwb rygbi ledled y wlad.

Mae URC hefyd wedi sefydlu ei Chanolfan Lles ei hun, sydd wedi’i chreu i gynnig arweiniad ac offer addysgol i glybiau a chwaraewyr i’w cynorthwyo gyda materion lles. https://community.wru.wales/governance/player-welfare/

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru eich clwb, cysylltwch â Thîm Uniondeb URC ar integrity@wru.cymru neu ewch i wefan LooseHeadz: https://looseheadz.co.uk/pages/partnership-programme

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert