Neidio i'r prif gynnwys

Y Prif Weinidog yn mynychu digwyddiad Heini, Hwyl a Hansh

Y Prif Weinidog yn mynychu digwyddiad Heini, Hwyl a Hansh

Digwyddiad Heini,Hwyl a Hansh yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd.

Ymunodd y Prif Weinidog Mark Drakeford â Phrif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker yng Nghaerdydd ddoe ar gyfer diwgwyddiad arbennig Heini, Hwyl a Hansh.

Rhannu:

Hwn oedd digwyddiad olaf ond un yr haf o’r cynllun cymunedol pwysig hwn, sydd wedi eu cefnogi gan WE Soda. Mae pwysigrwydd y gwersylloedd dyddiol hyn wedi tyfu’n sylweddol ers eu sefydlu gan Adran Gymunedol URC dair blynedd yn ôl. Eleni, dyblwyd nifer y digwyddiadau gan gyrraedd, diddanu a bwydo 14,054 o bobl ifanc ledled Cymru, trwy gydweithio gyda chlybiau rygbi, ysgolion a sefydliadau rygbi rhanbarthol.

Nod y gwersylloedd rhad ac am ddim hyn yw ennyn diddordeb plant drwy gyfrwng rygbi tra’n sicrhau bod y bobl ifanc sy’n mynychu yn cael eu bwydo’n dda drwy gydol gwyliau’r haf. Mae pob gwersyll yn agored i bob plentyn, ond targedwyd 49 o glybiau rygbi a thros 120 o ysgolion penodol gan eu bod mewn ardaloedd cymdeithasol heriol.

Dywedodd Nigel Walker, “Mae 14,000 o blant wedi cael y cyfle i brofi ein sesiynau rygbi eleni.

“Mae ein partner WE Soda yn rhoi’r cymorth ariannol i ni drefnu’r gwersylloedd hyn ac rydym yn gweithio’n agos iawn gyda nhw i ddarparu cyfleoedd i gynifer o blant â phosibl ledled Cymru.”

“Mae’n bwysig ein bod ni’n arwain y math yma o weithgaredd oherwydd bod yr Undeb yn rhan o wead ein cymdeithas.

Clybiau rygbi yw calon nifer fawr o’n cymunedau ac mae llawer o’r gwersylloedd wedi digwydd mewn clybiau rygbi ac ysgolion o’r herwydd.”

Mae darparu brecwast da a chinio cytbwys a iach yn greiddiol i werthoedd ein gwersylloedd, gyda hyfforddiant rygbi a gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob oedran yn ychwanegu at y profiad. Mae nifer o’r gwersylloedd yn cynnwys chwaraeon eraill, megis criced, yn ogystal â dysgu’r plant am fanteision gofalu am eu cymuned a’r amgylchedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, “Mae’n wych gweld cymaint o blant ifanc yn cael amser da. Maen nhw wedi cael bore gwych ac yn edrych ymlaen at weddill y dydd.

“Gall gwyliau’r ysgol fod yn gyfnod hir ac yn heriol i deuluoedd. Mae’r gwersyll heddiw yn cynnig rhywbeth i blant ei wneud – maen nhw’n cael eu bwydo’n dda ac mae’n cynnig mwynhad go iawn i’r bobl ifanc hefyd.”

“Mae’r digwyddiadau hyn yn wych, ac eleni mae dros 14,000 o blant wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Ychwanegodd Liam Scott, Pennaeth Rhanbarthau a Chynhwysiant Rygbi URC, “Mae cynllunio’r gwersylloedd yn broses eithaf hir.  Mae ein partneriaid i gyd yn cydweithio ac o’r herwydd rydym wedi llwyddo cynyddu’r niferoedd sy’n elwa o’r profiad o 3,000 i 14,000.

“Ar draws Cymru, gwnaethom dargedu cymunedau yn seiliedig ar y WMID (Mynegai Amddifadedd Torfol Cymru) gan edrych ar yr ardaloedd sydd angen cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a phrydau maethlon yn ystod gwyliau’r ysgol.

“Yn ogystal â chynnig gweithgareddau rygbi hwyliog mae’r gwersylloedd yn helpu’r bobl ifanc i feithrin sgiliau cymdeithasol a hunan-barch. Efallai mai dyma brofiad cyntaf rhai plant o weithgareddau rygbi – ac efallai nad oes ganddyn nhw esgidiau rygbi. Felly rydyn ni wedi rhoi dros 1,000 pâr o esgidiau Gilbert i’r plant hynny sydd eu hangen. Mae hefyd yn golygu, os ydyn nhw’n mwynhau’r sesiwn, y gallan nhw ymweld â’u clwb lleol a pharhau i chwarae wedyn.

“Mae Prifysgol Caerloyw yn cynnal gwerthusiad asesu ar ein rhan ac mae’r adborth hyd yma wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae’r rhieni yn ddiolchgar bod darpariaeth am ddim ar gael i’w plant. Mae’r gwyliau haf – sy’n parhau am chwe wythnos – yn heriol i lawer o rieni ac felly mae’n bwysig ein bod yn gallu cyffwrdd ein cymunedau mewn modd hynod gadarnhaol.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert