Neidio i'r prif gynnwys

Tymor newydd ac uchder taclo newydd

Tymor newydd ac uchder taclo newydd

Enghraifft o dacl dda - Tregaron v Llambed

Bydd y tymor newydd yn dechrau’r penwythnos hwn gyda phob clwb o dan Uwch Gynghrair Indigo yn mabwysiadu rheol World Rugby am uchder taclo newydd.

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu ymuno gyda’r cynllun arbrofol hwn yn y gêm gymunedol fydd yn golygu y bydd pob tacl gyfreithlon bellach yn gorfod digwydd o dan y sternwm.

Trafodwyd cyflwyno’r rheol yn helaeth gyda’r clybiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill Undeb Rygbi Cymru dros yr haf ac mae’r hyfforddwyr wedi bod yn dysgu a disgyblu eu chwaraewyr am eu techneg taclo cyn i’r tymor newydd ddechrau.

Bydd y rheol newydd yn berthnasol ar gyfer pob lefel o rygbi cymunedol o 12 oed hyd at Uwch Gynghrair y Menywod a Phencampwriaeth y Dynion ar gyfer tymor 2023/24. Bydd hyn hefyd yn cynnwys rygbi ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Bydd y rheolau taclo o dan 12 oed yn parhau fel y bu yn y gorffennol ac ni fydd yr oedrannau hyn yn mabwysiadu’r rheolau taclo newydd.

Ni fydd timau Uwch Gynghrair Indigo na’r Rhanbarthau yn cymryd rhan yn yr arbrawf hwn ar hyn o bryd chwaith.

CLICK HERE / CLICIWCH YMA  i ddarllen mwy am y Rheolau Taclo newydd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert