Neidio i'r prif gynnwys

Cyn ysgol Capten Jac yn ennill trwydded arbennig

Cyn ysgol Capten Jac yn ennill trwydded arbennig

Bydd 16 o dimau yn y gystadleuaeth eleni

Mae Ysgol Dyffryn Aman, yr ysgol a fu’n meithrin talentau chwarae rygbi cyd-gapten presennol tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd, Jac Morgan, yn ogystal â phrif sgoriwr ceisiau Cymru,Shane Williams, yn un o dri sefydliad addysgol sydd wedi’u trwyddedu gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer eu cynllun Rygbi mewn Addysg.

Rhannu:

Bydd hyn yn eu caniatau i gystadlu yn rhaglen newydd yr Ysgolion a’r Colegau – y brif gystadleuaeth o’r fath yng Nghymru.

Mae URC yn falch o gadarnhau bod cyfanswm o 16 o Drwyddedau ar gyfer y Rhaglen Rygbi mewn Addysg (RPE) wedi eu dyfarnu fel rhan allweddol o daith datblygu chwaraewyr addawol. Yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth, bydd y cynllun trwyddedu newydd yn disodli’r hen Drwyddedau ‘A’ a’r nod amlwg yw gwella’r ddarpariaeth datblygu ar gyfer bechgyn talentog mewn addysg 16 i 18 oed.

Mae rhai o elfennau newydd y drwydded yn cynnwys ffocws penodol ar addysg, dull mwy cadarn o staffio a chymorth meddygol.

Bwriad y cynllun newydd hefyd yw creu cysylltiadau agosach rhwng y rhanbarthau, eu hacademïau a’r ysgolion a’r colegau. Gan bo cynlluniau Academïau Rhanbarthol yn cydfynd â chyfnodau o’r Rhaglen Rygbi mewn Addysg – bydd y cydweithio hyn yn allweddol er mwyn cynnig pob cyfle i chwaraewyr ddatblygu i’w llawn potensial.

Yn ymuno ag Ysgol Dyffryn Aman ar gyfer y gystadleuaeth y tymor hwn am y tro cyntaf hefyd fydd Ysgol Gymraeg Ystalyfera a Choleg Crist, Aberhonddu – dwy feithrinfa wych arall ar gyfer rygbi Cymru.

Mae Coleg Crist, Aberhonddu, Ysgol Ystalyfera ac Ysgol Dyffryn Aman wedi eu derbyn i’r cynllun.

Bydd yr 16 o dimau fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth elît hon yn cael eu rhannau’n ddwy adran – a bydd hynny’n seiliedig ar eu perfformiadau dros y pum mlynedd ddiwethaf yng Nghynghrair yr Ysgolion a’r Colegau. Bydd yr holl dimau trwyddedig newydd, o’r herwydd yn ymuno ag Adran B.

Adran A                                                                                      Adran B
Caerdydd & Coleg y Fro (Pencampwyr 2022-23)              Coleg Penybont
Coleg Y Cymoedd                                                                     Coleg Crist, Aberhonddu *
Coleg Gwent                                                                              Coleg Sir Benfro
Coleg Llandrillo                                                                        Coleg Gŵyr
Coleg Sir Gar                                                                             Coleg Castell-nedd Port Talbot
Coleg Llanymddyfri                                                                 Ysgol Uwchradd Casnewydd
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd                                     Ysgol Dyffryn Aman *
Ysgol Glantaf                                                                             Ysgol Gymraeg Ystalyfera *

* Timau Newydd

Mae maswr y Gweilch a Chymru Owen Williams yn gynnyrch diweddar o Ysgol Gymraeg Ystalyfera, tra bod dau o’u cyn-ddisgyblion eraill, Dan Edwards, a Morgan Morse, wedi cynrychioli tîm Dan 20 Cymru ym Mhencampwriaethau y Byd yn Ne Affrica yr haf hwn.

Mae rygbi wedi cael ei chwarae yng Ngholeg Crist, Aberhonddu ers y 1870au a chwaraewyd eu gêm gyntaf yn erbyn eu gelynion pennaf – Coleg Llanymddyfri, ddwy flynedd cyn ffurfio Undeb Rygbi Cymru yn 1881. Roedd yna bedwar o’u cyn-ddisgyblion yn nhîm Cymru a gurodd Seland Newydd o 3-0 yn 1905 – Willie Llewellyn, Arthur Harding, John F Williams, a Teddy Morgan.

Teithiodd chwech o gyn-chwaraewyr Coleg Crist ar daith y Llewod i Seland Newydd ac Awstralia yn 1908.

Arthur Harding oedd y capten ac roedd ei hen ffrindiau ysgol Jack Williams, Jack Jones, James Jones, John Dyke, a William Morgan gydag ef ar y daith honno.

Yn 2022, llwyddodd Coleg Crist i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Dan 18 Ysgolion Cymru, ond colli o 36-26 i Ystalyfera fu eu hanes yn Stadiwm Principality.

Dywedodd John Alder, Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r gystadleuaeth Ysgolion a Cholegau yn rhan allweddol o ‘Strategaeth Datblygu Chwaraewyr’ yr Undeb. Mae’n greiddiol i’n dull newydd o adeiladu system datblygu rygbi fydd arwain y byd.

“Rydym wedi dyfeisio cynllun datblygu dros gyfnod o 10 mlynedd i gyrraedd safon o ragoriaeth ar gyfer chwaraewyr 14 – 24 oed.  Mae’r sector addysg, trwy ysgolion, colegau a phrifysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn y broses hon – er mwyn datblygu’r unigolion hyn ar y cae – ac oddi arno hefyd.

“Ers i’r Rhaglen Drwyddedu wreiddiol hon gael ei sefydlu yn 2015, mae wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad ein talent.

“Mae 54% o’r chwaraewyr newydd sydd wedi cynrychioli tîm llawn Cymru dros y 7 mlynedd ddiwethaf wedi dod drwy’r system hon.

“O’r chwaraewyr hynny sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel Dan 18 a Dan 20 yn ystod yr un cyfnod, mae 65% wedi chwarae yn y cynllun hwn.

“Mae cyd-gapten Cymru yng Nghwpan y Byd – Jac Morgan, wedi cynrychioli Coleg Sir Gar yn y gystadleuaeth, tra bod Christ Tshiunza wedi chwarae dros Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

Aelodau Carfan Cymru sydd wedi cynrychioli Coleg Sir Gar yn Nharian Dewar – Josh Adams, Gareth Davies, Gareth Thomas, Jac Morgan and Ryan Elias.

“Mae canolwr y Scarlets, Joe Roberts, gafodd ei gapio yng ngemau paratoadol Cwpan y Byd hefyd wedi cystadlu dros Goleg Sir Gar, yn ogystal â Gareth Davies, Josh Adams, Gareth Thomas a Ryan Elias sydd gyda’r garfan ryngwladol allan yn Ffrainc.

“Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae Sir Gar wedi cynhyrchu 29% o chwaraewyr rhyngwladol newydd dynion Cymru a Choleg y Cymoed 13%.

“Rydym fel Undeb yn cydnabod yn llawn y rôl a chwaraeir gan yr ysgolion a’r colegau ymroddedig a chefnogol hyn i ddatblygu chwaraewyr proffesiynol a rhyngwladol ein gwlad yn y dyfodol.

“Dyma’r cyfle i adeiladu ar y llwyddiant sydd eisoes wedi’i gyflawni ac i wella taith y chwaraewr i’w helpu i bontio o rygbi oedran iau i’r gêm hŷn ar lefelau proffesiynol a chymunedol.  Rydym yn ddiolchgar i bob un o’r 16 sefydliad trwyddedig  sydd wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddatblygu’r chwaraewyr.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw wrth iddynt gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, ar y cae – ac oddi arno hefyd.

“Rydyn ni’n deall mai dim ond nifer fechan o chwaraewyr fydd yn cyrraedd eu nod o gael gyrfaoedd proffesiynol ac mae hyd yn oed llai na hynny yn mynd ymlaen i chwarae dros Gymru. Dyna pam bod cynnig profiadau rygbi ac addysgol gwych i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn greiddiol i’n cenhadaeth. Y gobaith yw y bydd hyn yn creu cysylltiad gydol oes â rygbi Cymru.”

“Ein bwriad yw datblygu ‘mwy o chwaraewyr a gwell chwarawyr ar gyfer y gêm broffesiynol, y gêm gymunedol, ac i Gymru drwy gyfoethogi profiadau bywyd’. Bydd hyn yn galluogi rygbi Cymru i ffynnu.”

 

SUT BYDD ADRANNAU CENEDLAETHOL YR YSGOLION A’R COLEGAU YN GWEITHIO

Bydd y gemau yn cael eu chwarae yn ystod tymor yr hydref, gyda’r un ysgolion a cholegau yn chwarae yn y gystadleuath Datblygu yn y Gwanwyn. Bydd hyn yn cymryd lle’r Gynghrair Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol.

Y bwriad clir yw creu calendr o gemau mwy addas ac ymarferol ar gyfer chwaraewyr 16 i 18 oed – gan ddarparu gemau o ansawdd uchel ac wythnosau penodol ar gyfer datblygiad corfforol.

Bydd y cynllun gemau wedi eu trefnu i gydweithio’n gadarnhaol â rhaglenni’r Academiau Ranbarthol, tra’n caniatáu i chwaraewyr gynrychioli eu clybiau os nad ydynt yn cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaethau Dan 18 yr Academi yn y gwanwyn.

Bydd fformat Adranau Cenedlaethol yr Ysgolion a’r Colegau yn aros yn gyson am bedair blynedd a bydd wyth tîm yn chwarae yn Adrannau A a B.

Bydd pob tîm yn chwarae cyfanswm o naw gêm – gan herio pob gwrthwynebydd yn eu hadran unwaith – naill ai gartref neu oddi-cartref. Wedi hynny bydd dwy rownd o gemau ychwangeol yn arwain at y Rownd Derfynol fydd yn penderfynu yr Enillydd Cenedlaethol. Bydd esgyn a disgyn rhwng y ddwy adran.

GEMAU ROWND 1 – 27 MEDI

ADRAN A                                                                                      ADRAN B
Caerdydd & Coleg Bro v Coleg Llandrillo                              YU Casnewydd v Ysgol Dyffryn Aman
Coleg Sir Gar v YU Yr Eglwys Newydd                                    Coleg Gŵyr v Coleg Crist, Aberhonddu
Coleg Y Cymoedd v Coleg Llanymddyfri                                Coleg Penybont v Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Ysgol Gymraeg Glantaf v Coleg Gwent                                  Coleg Sir Benfro v Col. Cast-nedd Port Talbot

PRIF HYFFORDDWYR YN YR YSGOLION & COLEGAU
Mae cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Rob Sidoli, Matthew Jones, Geraint Lewis, a Steve Jones ymhlith hyfforddwyr y timau sy’n cymryd rhan y tymor hwn. Fe wnaeth Euros Evans arwain Llanymddyfri at Bencampwriaeth Uwch Gynghrair Indigo y tymor diwethaf ac mae Steve Williams yn gyn-hyfforddwr tîm Dan 21 Cymru. Mae Matt Jess yn gyn-chwaraewr proffesiynol gyda’r Dreigiau a Chaerwysg, tra bod Andrew Williams yn un o hoelion wyth RGC 1404. Chwaraeodd Craig Warlow dros Lanelli, Penybont, a’r Dreigiau cyn hyfforddi Casnewydd yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Richard Whiffen yn gyn-reolwr academi Caerloyw ac yn gyn-hyfforddwr ymosod y Scarlets, Menywod Cymru, a’r Highlanders. Mae gan Llywarch ap Myrddin brofiad helaeth o’r Uwch Gynghrair ar ôl chwarae yn RGC, Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd.

TÎM                                  PRIF HYFFORDDWR
Coleg Penybont                                        Craig Warlow
Caerdydd & Coleg y Fro                         Richard Whiffin
Coleg Crist, Aberhonddu                       Dan Parry
Coleg Gwent                                             Matthew Jones
Coleg Llandrillo                                       Andrew Williams
Coleg Sir Benfro                                      Matt Jess
Coleg Sir Gar                                           Euros Evans
Coleg Y Cymoedd                                   Geraint Lewis
Coleg Gŵyr                                              Steve Jones
Coleg Llanymddyfri                               Sam Williams
Ysgol Uwchradd Casnewydd               Rob Sidoli
Coleg Castell-nedd Port Talbot           Paul Williams
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd   Steve  Williams
Ysgol Dyffryn Aman                              Tom Hancock
Ysgol Glantaf                                           Llywarch ap Myrddin
Ysgol Gymraeg Ystalyfera                    Ryan Evans

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert