Neidio i'r prif gynnwys

Capten Jac yn danfon neges at ei gyn ysgol

Capten Jac yn danfon neges at ei gyn ysgol

Mae Jac Morgan yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman

Yn dilyn buddugoliaeth arbennig Cymru yn erbyn Awstralia yn Lyon nos Sul, mae’r cyd-gapten Jac Morgan wedi danfon neges at ei gyn ysgol – sef Dyffryn Aman – yn dymuno’r gorau iddynt wrth i’r ysgol baratoi i gymryd rhan yn rhaglen newydd yr Ysgolion a’r Colegau am y tro cyntaf – sef y brif gystadleuaeth o’r fath yng Nghymru.

Rhannu:

Byddant yn chwarae eu gêm gystadleuol gyntaf yn y rhaglen ddydd Mercher.

Danfonodd Jac Morgan y neges syml o ganolfan ymarfer carfan Cymru yn Versailles a dywedodd wrth y bechgyn i “fynd amdani”.

Mae Ysgol Dyffryn Aman yn un o dri sefydliad addysgol newydd sydd wedi’u trwyddedu gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer eu cynllun Rygbi mewn Addysg – gan godi’r cyfanswm o 13 i 16. Coleg Crist, Aberhonddu ac Ysgol Gyfun Ystalyfera yw’r ddau sefydliad newydd arall yng nghyd-destum y rhaglen hon.

Bydd y tair ysgol newydd yn cystadlu yn Adran B i ddechrau a byddant i gyd yn teithio ar gyfer eu gemau cyntaf.

Adran A  27/09/23                                                                 Adran B

Coleg Caerdydd a’r Fro v Coleg Llandrillo                         Ysg. Uwch. Casnewydd v Dyff. Aman

Coleg Sir Gar v Ysgol Uwch. Yr Egl. Newydd                     Coleg Gŵyr v Col. Crist Aberhonddu

Coleg y Cymoedd v Coleg Llanymddyfri                             Coleg Penybont v Ysgol Gyf. Ystalyfera

Ysgol Gymraeg Glantaf v Coleg Gwent                               Col. Sir Benfro v Col. C. Nedd Pt T’bot

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert