Neidio i'r prif gynnwys

Her Clybiau’r Dyfodol – Addysg Minecraft

Her Clybiau’r Dyfodol – Addysg Minecraft

Heddiw fe lansiodd Undeb Rygbi Cymru gystadleuaeth ‘Clwb y Dyfodol 2023-2024’.

Rhannu:

Cynllun ar y cyd rhwng URC ac Addysg Minecraft yw hwn sydd wedi profi dros y blynyddoedd ei fod yn ehangu a gwella’r profiad dysgu yn yr ysgol.

Y weledigaeth yw ysbrydoli ieuenctid Cymru i greu ac arloesi er budd eu cymunedau – trwy gofleidio ein hanes, diwylliant, ein angerdd tuag at rygbi a meithrin creadigrwydd wrth ddefnyddio Addysg Minecraft.

Gall hyn oll ddigwydd trwy Her Clybiau’r Dyfodol – sy’n cael ei drefnu a’i gynnal gan Undeb Rygbi Cymru. Bydd disgyblion a dysgwyr o Fôn i Fynwy yn cael y cyfle i greu Clwb Rhithiol y Dyfodol gydag adnoddau Addysg Minecraft. Bydd y broses hwyliog hon hefyd yn gweithredu egwyddorion a chyfoethogi y Cwricwlwm Cenedlaethol yma yng Nghymru!

Bydd disgyblion yn cael eu cyflwyno i wahanol agweddau o rygbi a chlybiau rygbi. Bydd Addysg Minecraft yn arwain y ffordd trwy ail-greu Stadiwm Principality yn rhithiol. Bydd dysgwyr yn gallu teithio’n rhithiol i bob twll a chornel o’r Stadiwm gan gyfarfod cymeriadau (nid chwaraewyr) fydd yn rhannu gwybodaeth am yr ardaloedd penodol hynny o’r Stadiwm.

Bryd hynny, gall dysgwyr ac addysgwyr gael gafael ar wybodaeth bellach – megis ffeithiau a ffigyrau, deunyddiau rhithiol a delweddau a fideos am wahanol agweddau am fywyd rygbi yng Nghymru.

Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i weld gwahanol agweddau am ddylanwad y gamp yn ein gwlad a bydd hefyd yn cysylltu ag agweddau addysgol  a phrofiadau penodol yn ogystal.

Bydd y wybodaeth a gesglir o’r daith rithiol o gwmpas y Stadiwm a’r profion cysylltiedig fydd yn dilyn yn y dosbarth – yn arwain at her pob unigolyn i greu Clwb y Dyfodol. Efallai y gall hyn gynnwys elfennau o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cynlluniau ymarfer chwaraewyr, anghenion maeth a phrofiad cefnogwyr.

Mae chwe cham i’r her:

  • Archwilio Trwy Antur (trwy fyd Minecraft Stadiwm Principality).
  • Ymchwilio
  • Cynllunio
  • Adeiladu
  • Rhannu Gwybodaeth
  • Creu fideo o daith a gwaith y dysgwr.

Stadiwm Principality – Minecraft

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ysytried eu cymuned wrth greu’r gwaith a bydd hynny’n werthfawr wrth greu cynllun am Glwb y Dyfodol fydd yn diwallu anghenion yr ardal leol. O’r cynllun hwnnw – trwy ddeunyddiau Addysg Minecraft – bydd y gwaith adeiladu’n dechrau. Penllanw’r gwaith fydd recordiad gweledol a recordiad sain fydd yn dangos ac egluro manylion a gweledigaeth y cynllun rhithiol am Glwb y Dyfodol.

Yn ystod y cyfnod ‘Archwilio Trwy Antur’ – gall dysgwyr ganolbwyntio ar ystod eang o weithgareddau – gan gynnwys gwneud gwaith ymchwil am arferion bwyta maethlon a iach – boed hynny’n chwaraewr rygbi neu beidio. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i greu bwydlen ddyddiol gan ystyried y digwyddiadau cymdeithasol hynny pan fo bwyd yn chwarae rhan bwysig.

Bydd y gwaith hyn i gyd wedi ei gysylltu â Iechyd a Lles ac Addysg a Phrofiadau Dyniaethol.

Bydd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cael eu meithrin yn unol â’r Cwricwlwm Cenedlaethol trwy’r cynllun yma. Bydd pawb sy’n cymryd rhan hefyd yn ystyried dylanwad y Papurau Newydd wrth i rygbi dyfu i fod yn elfen mor bwysig o fywyd dyddiol yng Nghymru. Gall dysgwyr geisio ysgrifennu erthygl eu hunain neu gymryd rhan mewn cyfweliad ar fideo.

Dylai’r addysgwyr ddefnyddio a dehongli’r ystod eang o ddeunyddiau addysgol sydd yn gysylltiedig â’r cynllun hwn mewn modd addas o ystyried ystod oedran a gallu y gwahanol ddysgwyr.

Wrth i’r addysgwyr eu hunain fod yn arloesol ac addas yn eu harweiniad – bydd y dysgwyr yn cael y profiad gorau posib o’r cynllun hwn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert