Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwynwch E-chwaraeon Minecraft yn eich ysgol chi eleni

Cyflwynwch E-chwaraeon Minecraft yn eich ysgol chi eleni

Yn dilyn llwyddiant partneriaeth Hwb, Minecraft Education a URC gyda thwrnamaint E-chwaraeon Minecraft flwyddyn ddiwethaf, rydym yn falch o gyflwyno cynghrair E-chwaraeon Minecraft Cymru eleni.

Rhannu:

Mae Grant Robson, Swyddog Hyfforddi Addysg URC, yn nodi fod yr “URC yn gyffrous iawn am y cyfle i barhau gyda’r cydweithrediad gyda Minecraft Education a Hwb, gyda’r gystadleuaeth ddigidol hynod o gyffrous ac arloesol.”

Bydd E-chwaraeon Minecraft Cymru yn parhau i ddatblygu’r ethos sy’n gysylltiedig â rygbi a gwneud yn siŵr fod hyn yn sail i’r rhaglen newydd.  Drwy brofi cyfle ar gyfer meistrolaeth, neu’r ymdeimlad o gymuned ac arweinyddiaeth, mae e-chwaraeon yn medru darparu nifer o’r run buddion â chwaraeon traddodiadol mewn ysgolion. Yn ogystal â hynny mae e-chwaraeon yn aml yn agorfa i ddysgwyr sydd efallai’n teimlo “diddiddordeb neu anghynwysedig mewn chwaraeon traddodiadol neu weithgareddau allgyrsiol eraill” (Rourke 2022) Mae’n gyfle ac yn lle i BOB dysgwr i ddisgleirio!

Bydd E-chwaraeon Minecraft Cymru yn cael ei ffurfio o gasgliad o dimau o’r rhanbarthau, a fydd yn chwarae mewn twrnameintiau i ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Ble’n bosib, bydd yn adlewyrchu rhannau o gynghrair rygbi Cymru.

Bydd swyddogion Hwb URC yn cefnogi eu rhanbarth drwy hyrwyddo, trefnu a chynnal gemau cyfeillgar ym mis Rhagfyr. Wedyn o Ionawr hyd at Ebrill 2024 bydd y twrnameintiau cynghrair swyddogol yn cael eu cynnal, gan arwain at y rownd derfynol genedlaethol yn y Stadiwm Principality fel rhan o’r ŵyl ‘Y Daith i’r Principality’.

Cofrestrwch ar gyfer gweithdy dwy ran ym mis Rhagfyr i ddysgu mwy am E-chwaraeon Minecraft  a sut i’w weithredu yn eich ysgol. Mae E-chwaraeon Minecraft Cymru yn helpu sefydlu cymuned a sgiliau dysgwyr drwy gystadlu, chwarae a dysgu mewn amgylchedd ble mae dysgwyr yn ffynnu!

Os ydych eisoes wedi sefydlu E-chwaraeon Minecraft yn eich ysgol, beth am gofrestru eich tîm E-chwaraeon Minecraft yma:https://bit.ly/40xJPOk

Bydd cofrestru yn cau ar Ddydd Gwener Rhagfyr 15 2023.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert