Neidio i'r prif gynnwys

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Rygbi Cymru 2023

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Rygbi Cymru 2023

19.11.23 - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol URC.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Rygbi Cymru (2023) yng Nghwesty’r Fro, Hensol (19/11/23).

Rhannu:

Fe bleidleisiodd Aelodau a Chlybiau Undeb Rygbi Cymru ar ddau gynnig ffurfiol yn y broses o foderneiddio strwythur llywodraethiant URC, derbyniwyd cyflwyniad am gyfrifon Undeb Rygbi Cymru a chadarnhawyd cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 a’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ym mis Mawrth 2023.

Clywyd areithiau gan Aelodau, y Llywydd Gerald Davies, y Cadeirydd Richard Collier-Keywood a’r Prif Weithredwr dros dro Nigel Walker, wrth i’r holl Undeb gnoi cil dros gynnwys yr Arolwg Annibynnol a gomisiynwyd gan URC, gyhoeddwyd yn gynharch yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Cadeirydd URC Richard Collier-Keywood: ” Yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i mi gyfarfod staff yr Undeb, y rhanbarthau, y clybiau a nifer fawr o gefnogwyr – ‘rwyf wedi egluro’n glir mai fy mwriad yw cynnal ac adeiladu diwylliant cadarnhaol,cynwysol a thryloyw.

“Daw’r Cyfarfod Blynyddol ar ddiwedd wythnos heriol i ni fel Undeb ond ‘rydym yn gweithio ar gynllun strategol fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn. Byddwn yn atebol a chyfrifol am hyrwyddo’r egwyddor o ‘Cymru’n Un’ a bydd angen i ni gydweithio’n agos gyda’r rhanbarthau a’r clybiau er mwyn sicrhau bod holl rygbi Cymru’n gweithredu ar seiliau ariannol cadarn a chynaliadwy.

“Fel pob teulu arall – tydi pob aelod o’n teulu rygbi ni ddim wastad yn cytuno ar bopeth – ond ‘rydym yn ddi-eithriad yn angerddol yn ein hymrwymiad i wella pob agwedd o’r gamp yng Nghymru.”

“‘Roedd cyfarfod heddiw yn gam pwysig iawn yn y broses honno o greu gwell dyfodol i Rygbi Cymru.”

Cefnogwyd y cynnig ffurfiol cyntaf o’r cyfarfod gyda 92% o’r bleidlais:

  • bod Rheol 50(c) o Reolau/Erthyglau’r Cwmni yn cael eu diweddaru wrth ddiddymu’r frawddeg olaf fel a ganlyn: “Ni fydd modd i unrhyw Aelod Cyngor – sy’n ymddeol o dan amodau Rheol 50(c) gael eu hail-ethol ar unrhyw adeg yn y dyfodol.”

Byddai’r cynnig ffurfiol nesaf o’r dydd – am gyfnod gwasanaeth Aelodau’r Cyngor – wedi disodli’r bleidlais gyntaf pe byddai wedi derbyn y gefnogaeth berthnasol.

Er i’r cynnig canlynol dderbyn 57% o gefnogaeth – ni sicrhawyd y trothwy gofynnol o 75% i weithredu’r cynnig:

bod Rheol 50(c) o Reolau/Erthyglau’r Cwmni yn cael eu diweddaru gan fabwysiadu’r geiriad canlynol:

 “Bydd pob Aelod Cyngor yn ymddeol fel Cynghorydd o’r dyddiad y bydd y person hwnnw wedi gwasanaethu am gyfnod o ddeuddeg mlynedd (boed hynny dros un cyfnod di-dor neu fel arall). Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gyfnod y bydd Aelod Cyngor wedi ei dreulio fel Cyfarwyddwr o’r 1af o Fedi 2014 ymlaen. Bydd y cyfnod hwyaf y gall Aelod Cyngor ei dreulio ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn parhau’n naw mlynedd.”

Gwnaed ymrwymiad i ystyried argymhellion yr adroddiad annibynnol ymhellach yng nghyd-destun cryfhau llywodraethiant yr Undeb yn y dyfodol.

‘Roedd Cyfarfod Blynyddol 2023 hefyd yn gyfle i dalu teyrnged i’r Llywydd Gerald Davies – sydd wedi ildio’r awennau wedi i’w gyfnod o bedair blynedd wrth y llyw ddod i ben. Talwyd teryrngedau am ei angerdd a’i waith di-flino i Ieuan Evans hefyd, ildiodd ei swydd fel Cadeirydd yr Undeb yn gynharach eleni. Estynnwyd croeso cynnes i Terry Cobner fel olynydd Gerald Davies yn ogystal – a bydd yn dechrau ar ei gyfnod ef o bedair blynedd fel Llywydd ar unwaith.

Diolchwyd am gyfraniad gwerthfawr Aelodau’r Bwrdd hefyd – wrth i’w cyfnodau hwythau ddod i ben.

Bwrdd URC Cyn y Cyfarfod Blynyddol:  

Nigel Walker, Richard Collier- Keywood, Alison Thorne, Amanda Bennett, Henry Englehardt, Cat Read, Phil Thomas, Chris Jones, Colin Wilks, Dave Young, John Manders, Malcolm Wall

* Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol mae Jamie Roberts a Jennifer Matthias wedi olynu Dave Young a Henry Engelhardt

*Bydd Aelod Annibynnol newydd fydd yn cymryd lle Cat Read ym mis Ionawr yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Unwaith i Abi Tierney olynu Nigel Walker fel Prif Weithredwr fis Ionawr hefyd – bydd yr wyth Cyfarwyddwr Penodedig yn eu lle.

Bydd yr etholiadau ar gyfer y pedwar lle sy’n weddill ar y Bwrdd  – ddaw o blith Aelodau’r Cyngor – yn digwydd cyn ddiwedd y mis hwn.

Cyngor URC cyn y Cyfarfod Blynyddol:

Alan Jones, Alun Roberts, Anthony Buchanan, Bryn Parker, Chris Jones, Chris Morgan, Claire Donovan, Colin Charvis, Colin Wilks, Dave Young, Gordon Eynon, Gwyn Bowden, Ieuan Evans, Jeff Davies, John Manders, Kevin Lewis, Phil Thomas, Ray Wilton, Robert Butcher .

* Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, nid yw Dave Young, Alan Jones, Chris Morgan, Gordon Eynon, Ray Wilton na Ieuan Evans bellach ar y Cyngor.

Cyngor URC wedi’r Cyfarfod Blynyddol:

Lloyd Morgan (yn lle Dave Young), Steve Oven (yn lle Alan Jones ), Kerry Frey (yn lle Chris Morgan), Delyth Summons (yn lle Gordon Eynon), Roy Wilkinson (yn lle Ray Wilton), Sue Butler (yn lle Ieuan Evans).

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert