Neidio i'r prif gynnwys

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill dyrchafiad i Adran A Cynghrair yr Ysgolion a’r Colegau

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill dyrchafiad i Adran A Cynghrair yr Ysgolion a’r Colegau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill dyrchafiad i Adran A o Gynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru wedi eu buddugoliaeth o 26-7 yn erbyn Ysgol Uwchradd Casnewydd ar faes y Wern ym Merthyr Tudful heno (Nos Fercher 29 o Dachwedd).

Rhannu:

Fe sgoriodd chwaraewr amlycaf y gêm, Seb Rodriguez Davies gais unigol cofiadwy wrth i’w dîm dirio bedair gawith wrth iddynt ffarwelio ag Adran B.

Yn gynharach yn y noson – ar yr un maes – fe gadwodd Coleg y Cymoedd eu lle ym mhrif adran y gystadleuaeth wrth drechu Coleg Gwent o 34-24 gan sgorio 5 cais yn y broses. Y canolwr Logan Jones gafodd ei ddewis yn Seren y Gêm. O ganlyniad i’w colled mae gwŷr Gwent yn disgyn i Adran B.

Dangoswyd y ddwy gêm yn fyw ar raglen Rygbi Pawb ar sianeli digidol Chwaraeon S4C.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert