Neidio i'r prif gynnwys

Dechrau cyffrous i gemau’r Ffordd i’r Principality

Dechrau cyffrous i gemau’r Ffordd i’r Principality

Mae’r Ffordd i’r Principality wedi dechrau mewn modd hynod o gyffrous – a’r enillwyr cyntaf yng nghartref Rygbi Cymru y tymor hwn oedd Ysgolion Penybont, Coleg Gwent a Choleg Llanymddyfri.

Rhannu:

Penybont enillodd Darian Dewar (o dan 16 oed) o bwynt yn unig wrth iddyn nhw drechu Mynydd Mawr & Dinefwr o 19-18. Hon oedd y Ffeinal gyntaf i Benybont ei hennill ers 1990.

Dal eu gafael ar goron Ysgolion Cymru o dan 18 wnaeth Merched Coleg Gwent wrth iddyn nhw guro Coleg Llanymddyfri o 39-0. Cafodd bechgyn Coleg Llanymddyfri well hwyl ar bethau wrth iddyn nhw drechu Ysgol Glantaf o 28-13 yn Rownd Derfynol o dan 18 yr Ysgolion a’r Colegau.

Bydd gemau nesaf #RTP2024 yn cael eu chwarae ddydd Mawrth 19eg o fis Mawrth pan fydd pedair Ffeinal rhwng oedrannau 12-18 yn cael eu cynnal – gyda rhaglen lawn o gemau mewn gwahanol gategorïau i ddilyn. (Gweler rhestr isod).

Ar Ebrill 27 bydd tair Ffeinal ar gyfer gwahanol oedrannau merched a menywod yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality yn union wedi i dîm Menywod Cymru herio’r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y Ffordd i’r Principality 2024
– amseoedd i’w cadarnhau

Mawrth, 19 Mawrth – Rowndiau Terfynol Merched – Ysgolion Cymru o dan 12-18
Rownd Derfynol o dan 12
Rownd Derfynol o dan 14
Rownd Derfynol o dan 16
Rownd Derfynol o dan 18

Mercher, 20 Mawrth – Rowndiau Terfynol Bechgyn -Ysgolion a Cholegau Cymru o dan 18.
Rownd Derfynol y Plât
Rownd Derfynol y Fâs
Rownd Derfynol y Cwpan.

Iau, 21 Mawrth – Rowndiau Terfynol Ysgolion Cynradd a Chanolradd.
Grŵp Cynradd o dan 11– Ffeinal Powlen DC Thomas
Grŵp Cynradd o dan 11 – Ffeinal Plât DC Thomas
Grŵp Cynradd o dan 11 – Ffeinal Cwpan DC Thomas
Grŵp Canolradd Blwyddyn 9 – Ffeinal y Cwpan
Grŵp Canolradd Blwyddyn 10 – Ffeinal y Cwpan

Gwener, 22 Mawrth – Diwrnod Cynhwysiant Undeb Rygbi Cymru
Academi Merched Ummul & Taith Stadiwm Principality
Gŵyl Ysgolion â Disgyblion o Gefndiroedd Amrywiol & Taith Stadiwm Principality.
Gŵyl Ysgolion Anghenion Arbennig & Taith Stadiwm Principality.
Gemau Gallu Cymysg
Gêm Rygbi Ryngwladol Hoyw

Sadwrn, 23 Mawrth – Rowndiau Terfynol Hwb ar gyfer Merched o dan 18.
Ffeinal y Plât o dan 16
Ffeinal y Plât o dan 18.
Cymru v Yr Alban – Chwe Gwlad ym Mharc yr Arfau.
Ffeinal y Cwpan o dan 18

Mawrth, 26 Mawrth – Rownd Derfynol Ardaloedd URC.
Rownd Derfynol Ardaloedd URC– 7.30pm

Gwener, 29 Mawrth – Rowndiau Terfynol Clybiau URC – o dan 18 (Bechgyn)
Rownd Derfynol y Bowlen
Rownd Derfynol y Plât
Rownd Derfynol y Cwpan

Sadwrn, 6 Ebrill – Rowndiau Terfynol URC ar gyfer Adrannau 5-2
Ffeinal Cwpan Admiral – Adran 5
Ffeinal Cwpan Admiral – Adran 4
Ffeinal Cwpan Admiral – Adran 3
Ffeinal Cwpan Admiral – Adran 2

Sul, 7 Ebrill – Rowndiau Terfynol Adran 1, Y Bencampwriaeth & Yr Uwch Gynghrair.
Ffeinal Cwpan Admiral – Adran 1
Ffeinal Cwpan Admiral – Y Bencampwriaeth.
Ffeinal Uwch Gynghrair Undeb Rygbi Cymru.

Sadwrn, 27 Ebrill – Pencampwriaeth 6 Gwlad & Rowndiau Terfynol y Menywod.
Cymru v Yr Eidal – Chwe Gwlad.
Ffeinal y Powlen
Ffeinal y Plât
Ffeinal y Cwpan

CANLYNIADAU HYD YN HYN:

Mercher, 6 Rhagfyr, 2023
Rownd Derfynol Tarian Dewar (o dan 16)
Ysgolion Penybont 19 -18 Ysgolion Mynydd Mawr & Dinefwr.

Rownd Derfynol Merched o dan 18 – Ysgolion Cymru
Coleg Gwent 39 – 0 Coleg Llanymddyfri.

Rownd Derfynol Bechgyn o dan 18 – Ysgolion a Cholegau Cymru
Coleg Llanymddyfri 28 – 13 Ysgol Glantaf

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert