Neidio i'r prif gynnwys

Gwalia’n curo Brython mewn gêm hanesyddol i rygbi menywod

Gwalia’n curo Brython mewn gêm hanesyddol i rygbi menywod

01.01.24 - Gwalia Lightning v Brython Thunder, Yr Her Geltaidd - Sioned Harries o Brython Thunder yn amlwg yn y chwarae.

Crëwyd hanes yn Rodney Parade Ddydd Calan wrth i Gwalia Lightining guro Brython Thunder o 20-5 yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm Cymreig yn yr Her Geltaidd.

Rhannu:

Er nad oedd y tywydd garw a gwlyb iawn yn annog chwarae agored – cafwyd gornest gystadleuol a chorfforol iawn yng Nhasnewydd ar achlysur pwysig yn natblygiad camp y menywod yng Nghymru.

Sgoriodd Gwalia Lighning dri chais yn yr hanner cyntaf – gyda’r asgellwr Catherine Richards yn croesi ddwywaith. Mae hi eisoes wedi ymarfer gyda phrif garfan Cymru ac fe fydd ei pherfformiad hi – a nifer o chwaraewyr eraill wedi dal llygad Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru, oedd yn gwylio yn y dorf.

‘Roedd y ddau dîm yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol ac o dan 20 Cymru yn ogystal â nifer o chwaraewyr addawol sydd â’r addewid a’r gallu i chwarae rygbi’n broffesiynol yn y dyfodol – ac efallai wisgo’r crys coch rhyngwladol hefyd.

O safbwynt Brython Thunder, ‘roedd yr ornest yn gyfle da i’w capten Alex Callender, eu clo Natalia John, eu canolwr Hannah Bluck a’u hwythwr Sioned Harries baratoi ar gyfer Chwe Gwlad Guinnness sydd ar y gorwel.

Serch hynny Gwaia Lightning o dan arweiniad Bryonie King a’i chyd-chwaraewyr rhyngwladol Abbey Constable a Kate Williams reolodd y gêm – yn enwedig yn ystod y cyfnod cyntaf. Gwnaeth yr wythwr ifanc Gwennan Hopkins argraff fawr gyda’i chwarae corfforol yn ystod yr ornest hefyd.

Gyda’r sylfaen wedi ei osod gan ei blaenwyr – fe lywiodd y mewnwr Siân Jones chwarae Gwalia Lightning yn effeithiol. Bu hi’n rhan o’r garfan ymarfer dros yr haf – cyn i garfan Ioan Cunningham gael ei lleihau cyn teithio i Seland Newydd ar gyfer y WXV1. Byddai ei pherfformiad hithau hefyd wedi dal llygad yr hyfforddwr rhyngwladol.

Cafwyd dechrau cyffrous i’r gêm gyda dau gais yn cael eu sgorio yn gynnar. Blaen-asgwllwr Cymru Kate Williams gafodd y fraint o sgorio cais cyntaf erioed Gwalia Lightning, wedi iddi ddangos ei chryfder yn agos at y gwyngalch. Tarodd ei chyd-chwaraewr rhyngwladol Meg Davies yn ôl yn syth wrth i’r mewnwr gymryd cic gosb gyflym gan hawlio cais cyntaf erioed Brython Thunder.

Sgoriwyd pob un o bedwar cais yr ornest yn ystod y chwarter agoriadol. Hawliodd Catherine Richards ei dau gais hi o fewn munudau i’w gilydd gan agor bwlch o 17-5 i’w thîm. Ychwangegwyd cic gosb arall gan dîm Catrina Nicholas-McLaughlin cyn troi – ac fe brofodd y bwlch hwnnw o bymtheg pwynt ormod o fynydd i Brython Thunder ei ddringo yn y pendraw.

Er na sgoriwyd unrhyw bwyntiau yn ystod yr ail gyfnod, bu ond y dim i’r maswr rhyngwladol Niamh Terry gau’r bwlch – ond fe ataliwyd hi rhag croesi gan amddiffyn dygn tîm Gwalia yn y glaw trwm.

O ystyried yr amodau anodd, gwelwyd sgiliau trafod o safon gan y ddau dîm – fydd wedi plesio’r hyfforddwyr rhyngwladol wrth iddyn nhw ystyried pwy i’w cynnwys yng ngharfan Chwe Gwlad Guinness 2024.

Diwrnod hanesyddol a chofiadwy i ddatblygiad rygbi menywod Cymru a cham cyntaf pwysig arall i gynyddu’r safon, y dyfnder o dalent a’r diddordeb ymhellach yn rygbi merched a menywod yma yng Nghymru.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert