Neidio i'r prif gynnwys

Scott Quinnell yn arwain tîm T1 newydd ar S4C

Scott Quinnell yn arwain tîm T1 newydd ar S4C

Y garfan mewn sesiwn ymarfer

Ar y 30ain o Ionawr am 9pm bydd S4C yn darlledu’r bennod gyntaf mewn cyfres o chwe rhaglen o’r enw “Stryd i’r Sgrym” fydd yn dangos fersiwn newydd T1 o’r gamp sydd newydd ei lansio gan World Rugby.

Rhannu:

Mae cyn-gapten Cymru, Scott Quinnell wedi bod yn hyfforddi carfan o chwaraewyr – sydd naill erioed wedi chwarae rygbi o’r blaen – neu wedi ail-gydio yn y gamp wedi cyfnod o beidio chwarae rygbi. Mae dau gyn-gapten rhyngwladol arall Siwan Lillicrap a Ken Owens wedi cynorthwyo gyda’r hyfforddi hefyd.

Mae Quinnell, gynrychiolodd ei wlad ar 52 achlysur wedi mwynhau’r profiad o hyfforddi’r garfan a thystio datblygiad ei chwaraewyr ar y cae chwarae – ac oddi arno hefyd:

“Mae pob un aelod o’r garfan wedi gwneud yn arbennig o dda wrth ymarfer y fformat newydd yma o’r gamp yn ystod y tri mis diwethaf. ‘Rwy’n teimlo balchder mawr o weld eu datblygiad.

“Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy i ni gyd.”

Lansiwyd Rygbi T1 gan gorff llywodraethu’r gamp yn fyd-eang (World Rugby) er mwyn gwneud y gamp yn agored i bawb a chynyddu’r niferoedd – yn enwedig pobl ifanc – sy’n chwarae’r gêm.

Cael hwyl a chadw’n heini yw prif fwriad y fformat newydd a hynny mewn awyrgylch sy’n ddiogel a chynhwysol i bawb.

Nid yw taclo corfforol yn cael ei ganiatáu – ond mae prif agweddau eraill rygbi – sef leiniau, sgrymiau, cicio a chystadlu yn ardal y dacl, yn elfennau pwysig o T1.

Yn ystod y broses o ddysgu egwyddorion y fformat newydd hwn – mae chwaraewyr yn dod yn gyfarwydd â’r rheolau o fewn 20 munud yn unig. Mae symlrwydd y gêm yn cynyddu apêl y gamp ac yn ei gwneud yn agored i bawb.

Mae Rhian Roberts yn aelod allweddol o dîm hyfforddi Scott Quinnell ar gyfer “Stryd i’r Sgrym”. Mae hi wedi mwynhau’r profiad o gymryd rhan yn y gyfres yn fawr iawn:

“Mae rygbi wastad wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd. Pan yn blentyn ‘ro’n i’n gwylio gemau cyson gyda fy nhad ac yn ddiweddarach fe chwaraeais i’r Piod Pinc yn y Tymbl.

“Yn anffodus – o ganlyniad i resymau meddygol – bu’n rhaid i mi roi’r gorau i chwarae – ond mae cael y cyfle i helpu gyda’r hyfforddi wedi bod yn wych.

“Mae’r ffaith fy mod wedi derbyn hyfforddiant fel Hyfforddwr Lefel 1 wedi bod yn grêt ac mae cymryd rhan yn y gyfres wedi bod yn brofiad anhygoel i fi – a phawb arall o’r garfan hefyd.

 Stryd i’r Sgrym S4C 30/01/2024 9pm.

Mae Stryd i’r Sgrym wedi ei gynhyrchu gan Whisper Cymru – sy’n rhan o gwmni rhyngwladol Whisper.

Comisiynwyd y gyfres gan Iwan England yn S4C. Uwch Gynhyrchwyr y gyfres yw Carys Owens a Siôn Jones. Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr y rhaglenni yw Lynne Thomas-Davies.

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert