Neidio i'r prif gynnwys

Prentisiaeth URC a Met Caerdydd yn helpu dysgwyr dros y llinell

Prentisiaeth URC a Met Caerdydd yn helpu dysgwyr dros y llinell

Cynrychiolwyr o URC, Met Caerdydd ac ALS Training yn y lansiad yn Stadiwm Principality.

Mae Undeb Rygbi Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dod at ei gilydd i ddatblygu cymhwyster sylfaen newydd a fydd yn cynnig llwybrau datblygu i fyfyrwyr i yrfaoedd mewn chwaraeon – gan arwain y ffordd at raglenni gradd chwaraeon addysg uwch.

Rhannu:

Bydd Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli Chwaraeon & Datblygiad, a gyflwynir mewn partneriaeth ag ALS Training, yn caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i ystod o gyrsiau yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Met Caerdydd.

Dywedodd Daniel Heggs, Deon Partneriaethau Cyswllt ym Met Caerdydd: “Mae cyflwyno’r tystysgrif sylfaen yn agor y drysau i unigolion sydd am ddilyn gyrfa mewn chwaraeon er nad ydynt efallai wedi meddwl am gyfleoedd prifysgol o’r blaen. Mae’n golygu y gall pobl dalentog na fyddai wedi ystyried gwneud cais i’r brifysgol, gael mynediad i raddau chwaraeon uchel eu parch Met Caerdydd, gan ddileu’r rhwystr i addysg uwch.”

Crëwyd cynnwys y dystysgrif sylfaen gan Met Caerdydd i ddiwallu anghenion Undeb Rygbi Cymru i ymgorffori dysgu yn seiliedig ar waith ymarferol, gyda lleoliadau mewn ysgolion a cholegau wedi’u cynnwys fel elfennau craidd o’r cwrs.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC: “Mae Tystysgrif Sylfaen Met Caerdydd, wedi’i datblygu i gyd-fynd â gofynion prentisiaeth Undeb Rygbi Cymru, ac mae’n creu cydbwysedd arbennig rhwng profiadau yr ystafell ddosbarth â phrofiadau ymarferol yn y byd go iawn.

Nid cymhwyster yn unig yw’r dystysgrif hon – ond bydd yn pontio’r theori a’r ymarferol; Mae’n daith drwy ddysgu sy’n seiliedig ar waith. Mae’r profiadau a’r gwaith strategol yma wedi’u plethu’n amlwg i’r cwricwlwm. Nid dim ond cyrraedd y safon addysgol gofynnol yw’r nod ond gosod safonau newydd ac uwch, gan baratoi unigolion ar gyfer llwyddiant, trwy brofiadau gwirioneddol gyffrous ac amrywiol o fewn Rygbi Cymru.”

Dywedodd Liam Brooks, 19, sydd wedi ymuno â’r criw cyntaf o fyfyrwyr ar y radd sylfaen newydd: “Rydw i wedi bod wrth fy modd gyda rygbi ers pan oeddwn i’n chwech oed ac roeddwn i wastad eisiau bod yn rhan ohono, naill ai fel chwaraewr neu i geisio creu gyrfa oedd yn ymwneud â’r byd rygbi.

“Roedd yn benderfyniad hawdd i wneud cais am y cwrs hwn oherwydd mae’n gyfle i ddilyn gyrfa mewn camp rydw i mor frwdfrydig drosti. ‘Rwyf hefyd yn cael fy hyfforddi gan y bobl sydd ar frig eu proffesiwn o fewn y byd rygbi yng Nghymru. Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn ac wedi cynnig llawer o brofiadau newydd fel hyfforddwr chwaraeon i mi yn barod.”

Mae 15 o fyfyrwyr yn cael eu derbyn ar raglen Prentisiaeth URC bob blwyddyn.  Dros gyfnod o 12 mis, mae myfyrwyr yn cysgodi tîm medrus iawn sy’n cyflwyno digwyddiadau o fewn cymunedau ac ysgolion lleol, o sesiynau sgiliau i hyfforddi a gweinyddu.

Mae myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o gynorthwyo gyda pharatoadau gemau rygbi rhyngwladol a gynhelir yn Stadiwm Principality gan gynnwys rhai ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness. Felly hefyd gemau rhyngwladol fydd yn cael eu cynnal ym Mharc yr Arfau Caerdydd a Stadiwm CSM yng Ngogledd Cymru. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr hefyd gynorthwyo gydag un o ddigwyddiadau allweddol y gêm gymunedol hefyd – megis y Ffordd i’r Principality

Yn ystod y digwyddiadau pwysig hyn bydd y myfyrwyr yn cael profiad amhrisiadwy ym mhob agwedd o’r digwyddiadau – megis darlledu, ffrydio byw, cyfryngau cymdeithasol, tocynnau, marchnata a chyfathrebu, profiadau cefnogwyr a rheoli tîm.

Ychwanegodd Sarah John, Cyfarwyddwr ALS: “Rydym yn falch iawn o gydweithio ar y cymhwyster hwn sy’n rhan o’r Brentisiaeth Uwch mewn Datblygu Chwaraeon.

“Yr uchelgais yw cefnogi datblygiad parhaus i bobl ifanc sy’n cael eu recriwtio i chwaraeon ac i gryfhau lefel sgiliau’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Mae’r cwrs yn caniatáu llwybr wahanol – hynod ddifyr, i ddysgwyr hyd at lefel gradd.

“Mae’r dull arloesol hwn wedi dod ag elfennau pwysig o Ddiwydiant, Addysg Uwch a Dysgu at ei gilydd i greu cynnlun ymarferol sy’n seiliedig ar waith – ac mae’r cydweithrediad yma’n agor y drws i greu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y rownd nesaf o geisiadau ar gyfer rhaglen Brentisiaeth URC a chymhwyster ar gyfer Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon yn dechrau ym mis Mehefin 2024 a gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais lenwi’r ffurflen ‘Mynegiant o Ddiddordeb’ isod:

https://community.wru.wales/apprenticeship

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert