Neidio i'r prif gynnwys

Hanes rhyfeddol Rhian

Hanes rhyfeddol Rhian

Rhian gydag Alys ar Stryd i'r Sgrym

Mae rygbi’n gallu newid bywydau – ac mae Rhian Roberts o Drefach yn Sir Gaerfyrddin yn gwybod hynny’n fwy na neb.

Rhannu:

Yn ôl yn 2018 – tra’n chwarae i’r Piod Pinc – fe ddioddefodd hi anaf gwael a dywedwyd wrthi na fyddai fyth yn cerdded eto.

Ond mae Rhian, sy’n fam i ddau o blant, yn fenyw a hanner – ac yn groes i’r holl ddarogan – mae hi wedi ail-ddysgu ei hun i gerdded ac mae hi wedi ymuno gyda thîm ‘Stryd i’r Sgrym’ S4C er mwyn cynorthwyo Scott Quinnell wrth hyfforddi’r tîm T1 newydd sy’n cynnwys cymeriadau arbennig o bob rhan o Gymru.

Cyn pennod ddiweddaraf y gyfres fydd yn cael ei darlledu am 9.00pm heno – fe gafodd Rhian wireddu breuddwyd wrth wylio carfan dynion Cymru’n ymarfer yn Hensol a chyfarfod Warren Gatland ei hun.

Mae Rhian hefyd bellach ar gwrs hyfforddi ffurfiol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “ Mae stori Rhian yn anhygoel. Mae’r ffaith ei bod hi’n gallu cerdded eto a dysgu sut i hyfforddi – yn dweud llawer iawn am ei chymeriad”.

Dywedodd Rhian Roberts: “Oni bai am y plant bydden i mewn cadair olwyn o hyd. ‘Roedd yn wych cwrdd â Warren Gatland a gweld y bois yn ymarfer. Oni bai mod i wedi cael y ddamwain – ‘falle na fydden ni wedi cael y profiad o weld y garfan – a fydden ni heb gel y cyfle i fynd ar y cwrs hyfforddi ‘da’r Undeb. Mae pethe’n chwerw felys ond mae rygbi wastod wedi bod yn fy ngwaed.”

Stryd i’r Sgrym

Nos Fawrth – S4C – 9.00pm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert